Swansea University Art Collection

Golden Boy, Golden Hour gan Hasan Kamil

Golden Boy, Golden Hour

Golden Boy, Golden Hour

English

 

Mae'r murlun hwn yn talu teyrnged i fardd mwyaf eiconig ac adnabyddus Abertawe, Dylan Thomas. Dylanwadodd y technegau a ddefnyddiwyd yn ei arddull ysgrifennu ar y murlun bywiog, lliwgar hwn, gan greu effaith gyfoes sy'n cyfuno neo-ramantiaeth a swrrealaeth ar ffurf weledol.

Mae'r murlun yn cynnwys portread eiconig ac adnabyddadwy iawn o Dylan Thomas, wedi'i ddarlunio mewn ffordd sy'n cyfuno realaeth â dull haniaethol, gan adlewyrchu ei arddull ysgrifennu.

I'r chwith, rydym yn gweld crëyr bach, sef aderyn sy'n gyffredin yn y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig cyfagos ac mae hyn wedi'i ysbrydoli gan gerdd Dylan Thomas, sef Over Sir John's Hill, felly mae'n ychwanegiad addas at y murlun.

Mae silwét o'r Mwmbwls ar y gorwel yn cysylltu Campws y Bae â Champws Singleton ac mae'n portreadu'r olygfa y gellir ei gweld o Gampws y Bae.

Mae arwyddlun y Brifysgol wedi'i bortreadu mewn ffordd haniaethol, gan ychwanegu elfen bersonol, unigryw at Brifysgol Abertawe. Dyma bortread chwareus o lyfr agored, siapiau crwn a llinellau syth sydd wedi'u tynnu o'r angor a'r gaib. Mae murlun Campws y Bae'n dangos ochr chwith y llyfr ac mae murlun Campws Singleton yn dangos yr ochr dde.

Dylanwadwyd ar arddulliau'r murlun gan dair ffynhonnell artistig y mae dwy ohonynt yn artistiaid o Abertawe, sef Ceri Richards a George Little, ac mae'r drydedd yn gydweithrediad celf stryd, sef Ruído.

Dylanwadwyd ar Ceri Richards ei hun gan swrrealaeth a chreodd ef Twelve Lithographs for Six Poems by Dylan Thomas ym 1965. Mae gan y Brifysgol gasgliad sylweddol o waith gan Ceri Richards a gellir gweld hwn yn y Neuadd Fawr (ar Gampws y Bae) ac yn Nhŷ Fulton (ar Gampws Singleton).

Mae lliwiau llachar y siapiau geometrig a'r gweadedd wedi cael eu hysbrydoli gan Richards a George Little, wrth i arddull celf stryd Ruído gyfuno dull haniaethol, swrrealaidd â realaeth gan adrodd stori ar ffurf torri-a-gludo neu frodwaith. Mae'r cyfosodiad hwn yn creu naws gyfoes, gan gynnal cysondeb rhwng y ddau furlun ar y ddau gampws.