Swansea University Art Collection

Off Script gan Hasan Kamil

Off Script

Off Script

English

Mae'r murlun hwn yn gyfansoddiad sy'n talu teyrnged i'r eicon ffilmiau o Gymru, Richard Burton, y Ganolfan Eifftaidd a threftadaeth y Brifysgol. Mae'r murlun wedi'i leoli, yn briodol iawn, gerllaw’r llyfrgell ar Gampws Singleton lle ceir Archifau Richard Burton. Rydym yn gweld portread eiconig o Burton yn ei flynyddoedd cynharaf a thu ôl iddo ceir dehongliad lled-haniaethol o Draphont adnabyddus Pont-rhyd-y-fen yn ei dref enedigol.

Mae'r ddelwedd haniaethol ac arddulliedig o Cleopatra yn talu teyrnged i Ganolfan Eifftaidd y Brifysgol a leolir ar Gampws Singleton. Mae'r hieroglyffau wedi'u hysbrydoli gan arteffact sy'n cael ei arddangos yn y Ganolfan Eifftaidd.

Mae silwét o'r hen burfa olew yn Llandarcy, lle lleolir Campws y Bae bellach, yn cysylltu'r ddau gampws â'i gilydd.

Ein heicon olaf yw simneiau hen weithfeydd Copr yr Hafod Morfa, a sefydlwyd gan John Vivian, a oedd yn berchen ar Abaty Singleton ac yn byw ynddo. Ymhell ar ôl iddynt fynd yn adfail, daeth adeilad gweithfeydd copr y Morfa'n lleoliad poblogaidd i artistiaid graffiti fireinio eu sgiliau.

Mae dehongliad haniaethol o arwyddlun Prifysgol Abertawe yn bortread chwareus o lyfr agored, siapiau crwn a llinellau syth sydd wedi'u tynnu o'r angor a'r gaib. Mae murlun Campws y Bae'n dangos ochr chwith y llyfr ac mae murlun Campws Singleton yn dangos yr ochr dde.

Dylanwadwyd ar arddulliau'r murlun gan dair ffynhonnell artistig y mae dwy ohonynt yn artistiaid o Abertawe, sef Ceri Richards a George Little, ac mae'r drydedd yn gydweithrediad celf stryd, sef Ruído.

Gellir gweld dylanwad lliwiau beiddgar, fflat a dull geometrig George Little yn y portread o Cleopatra a Thraphont Pont-rhyd-y-fen.

Daw dylanwad Ceri Richards i'r golwg drwy ddefnyddio ei arfer o ddangos naratif yn y gwaith ar ffurf murlun. Mae celf stryd Ruído yn cyfuno dulliau haniaethol, swrrealaidd â realaeth gan adrodd stori ar ffurf torri-a-gludo neu frodwaith a gellir gweld dylanwad hyn yn y murlun.