Swansea University Art Collection
Cyfarchion o.... gan Hasan Kamil
Mae'r murlun yn y Lolfa Groeso yn Nhŷ Fulton yn deyrnged gyfoes i hunaniaeth Prifysgol Abertawe, sy'n cyfuno treftadaeth Gymreig, harddwch naturiol eithriadol a chysylltiad y Brifysgol â staff a myfyrwyr rhyngwladol o bob cwr o'r byd.
Mae'r brif olygfa yn dangos tŵr cloc Campws y Bae ac Abaty Singleton a'i goeden magnolia, gan roi nod cynnil i dirwedd a thiroedd arobryn y Brifysgol.
Wedi'i ysbrydoli gan gardiau post hen ffasiwn, mae'r llythrennau bras wedi'u llenwi â delweddau o Fai eiconig y Tri Chlogwyn.
Yn y blaen ceir cenhinen Bedr chwaethus, blodyn cenedlaethol Cymru, wedi'i ail-ddychmygu mewn ffurfiau geometrig, arddull sy'n symud ymlaen i'r dreigiau.
Mae dwy ddraig yn wynebu ei gilydd sy'n symbol o undod trwy chwedloniaeth a delweddau. Y ddraig Goch, sy'n symbol o leoliadau daearyddol y Brifysgol a'r ddraig Asiaidd – symbol o'r rhoddion hael a wnaeth sicrhau sefydlu’r Lolfa Groeso.
Rhwng y ffenestri gwelwn batrymau wedi'u hysbrydoli gan dapestri traddodiadol Cymreig, yn benodol gan Melin Tregwynt, sydd wedi'u hailweithio i ffurfiau haniaethol modern sy'n llifo i gefndir y murlun.
Mae'r palet lliw yn adlewyrchu cynhesrwydd y Lolfa Groeso gan ddefnyddio glas meddal, pinc cynnes, a melyn heulog. Mae acenion oren a sepia, wedi'u hysbrydoli gan y dodrefn a'r clustogwaith, wedi'u cynnwys hefyd i sicrhau bod y murlun yn teimlo'n naturiol gartrefol yn ei leoliad.
Mae'r darn hwn yn ddathliad o le, perthyn a phartneriaeth ond hefyd yn stori bersonol wedi'i hadrodd trwy liw, siâp a symbolaeth.