Addysg Gyfrifiadurol ym Mhrifysgol Abertawe

Bydd y tudalennau hyn yn casglu hanes datblygiad cyfrifiadura ym Mhrifysgol Abertawe - a adnabuwyd gynt fel Coleg Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru, Abertawe.

Croesawn bob cyfraniad o fewn y tudalennau hyn a gwerthfawrogwn eich cymorth.

Y Ganolfan Gyfrifiaduron

O'r Ganolfan Gyfrifiaduron a'r Gwasanaethau Gwybodaeth a Llyfrgell i'r Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau, mae grŵp o staff sy'n gyfrifol am y rhwydwaith craidd a systemau ar draws y Brifysgol wedi bodoli erioed.

Y Ganolfan Gyfrifiaduron, gan ddangos yr ICL 1904 a staff:

An old image of the Computer Centre at Swansea University showing the ICL 1904 and operators

Yr Adran Fathemateg

O Hanes yr Adran Fathemateg, Prifysgol Cymru, Abertawe:

Ym mis Gorffennaf 1962, sefydlodd yr Adran Fathemateg Gymhwysol labordy cyfrifiaduron a phenodi darlithydd newydd a oedd yn gyfrifol amdano. O gofnodion cyfarfodydd y Cyngor, 1962–63, t. 22–23:

Yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithredu gwasanaeth cyfrifiadura, mae'r cyfrifiadur IBM 1620 ac offer cynorthwyol wedi'u defnyddio ar gyfer ymchwil ac addysgu gan aelodau o staff mewn 11 adran yn y Coleg a chan 5 sefydliad diwydiannol; maen nhw hefyd wedi'u defnyddio o bryd i'w gilydd i wneud cyfrifiadau ystadegol sy'n gysylltiedig â gwaith gweinyddol y Coleg.

Sicrhawyd bod y cyfrifiadur ar gael i gyfranogwyr yn y gynhadledd ar 17 Gorffennaf ar Fathemateg Fodern a drefnwyd i athrawon mathemateg mewn ysgolion er mwyn gwneud arbrofion byr o gynnal eu rhaglenni eu hunain.

Rhoddwyd cwrs cyflwyniadol i ddarlithwyr nad ydynt yn dysgu mathemateg ar raglennu cyfrifiadur yn ystod sesiwn gan Mr Gurr a bydd cwrs tebyg yn dechrau ym mis Hydref 1963. Mae croeso i bob aelod o'r Coleg yn y darlithoedd hyn.

HoCC Facebook   HoCC Twitter  HoCC Flikr  HoCC Instagram