Addysg Gyfrifiadurol ym Mhrifysgol Aberystwyth

HANES CRYNO O GYFRIFIADUREG YN ABERYSTWYTH RHWNG 1962 A 1969

Detholiad o'r traethawd: Introduction to M.Sc. Thesis, 1969, Statistics and the Computer in Practice. [Sylvia G. Lutkins, aelod o staff academaidd, Adran Ystadegau]:

Ym mis Medi 1962, gosodwyd cyfrifiadur electronig IBM 1620 yn yr adeilad Gwyddorau Ffisegol newydd ar Gampws Penglais. Roedd yr Adran Ystadegau, a sefydlwyd ym 1960/61 gan yr Athro Dennis Lindley, yn gyfrifol am drefnu'r defnydd ohono, ac am roi cyngor a chymorth lle bo angen. Roedd y cyfrifiadur yn cynnwys uned storio craidd sylfaenol o 20,000 digid degol; mewnbwn ac allbwn papur ag 8 o dyllau, a theipiadur ar-lein (a oedd yn argraffu 10 o nodau bob eiliad).

Ar yr adeg honno, prin oedd y bobl yn y Coleg a oedd ag unrhyw brofiad o raglennu neu weithredu cyfrifiadur, felly roedd angen i bawb ddysgu'n bennaf drwy brofi a methu. (Rwy'n cofio, roedd angen i ni ffonio'r peiriannydd yn Amwythig, i ofyn iddo sut i danio'r cyfrifiadur unwaith eto yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw ar ôl iddo ei osod!) Darparwyd cyrsiau mewn rhaglennu FORTRAN gan yr Adran Ystadegau i unigolion (staff a myfyrwyr ôl-raddedig o sawl adran, e.e. Ystadegau, Mathemateg Gymhwysol, Econometreg, Cemeg, Ffiseg, Gwyddorau Gwledig, Gorsaf Bridio Planhigion ac ati).

Defnyddiwyd system agored i ddefnyddio’r cyfrifiadur, lle roedd pobl yn trefnu amser i gynnal eu rhaglenni eu hunain gyda rhywfaint o gyngor o ran gweithredu. Darparwyd gwasanaeth tyllu tâp cyfyngedig, ond roedd angen i unrhyw un a oedd â symiau mawr o ddata ei dyllu eu hunain.

O fis Hydref 1964, roedd y cyfrifiadur ATLAS yn Chilton, Didcot ar gael i gynnal rhaglenni hir.

Ychwanegwyd Uned Storio Disgyrrwr 1311 i'r cyfrifiadur 1620 ym mis Ebrill 1965.

Gosodwyd darllenydd cardiau wedi'i dyllu ym mis Ebrill 1965.

Yn dilyn argymhelliad Adroddiad Flowers ar gyfrifiaduron mewn prifysgolion, sefydlwyd Uned Gyfrifiaduron ar wahân i'r Adran Ystadegau ym mis Hydref 1966. Penodwyd Peter King, o'r Adran Ystadegau, yn bennaeth.

Defnyddiwyd cyfrifiadur 1620 am 18 mis pellach cyn i gyfrifiadur Elliot 4130 gymryd ei le. Dyma gyfrifiadur a oedd â darllenwyr cardiau a thapiau papur, 4 uned tapiau magnetig, argraffydd llinell a phlotydd graffiau. Daeth y cyfrifiadur hwn i rym yn llwyr ym mis Ionawr 1968, gyda gwasanaeth tyllu a gweithredu hynod effeithlon. Cynyddwyd y gallu storio i 32,000 erbyn 1969.

Sylvia Lutkins

HoCC Facebook   HoCC Twitter  HoCC Flikr  HoCC Instagram