Cyflwyniad i'r Casgliad Hanes Cyfrifiadura

“We had the experience, but we missed the meaning.”  T. S. Eliot

Mae Casgliad Hanes Cyfrifiadura'r Brifysgol yn cynnwys offer, meddalwedd, archifau, effemera, hanesion llafar a fideos. Sefydlwyd y Casgliad yn ystod hydref 2007 er mwyn astudio datblygiad ac arloesedd technolegol hanesyddol, a'r berthynas rhwng technolegau cyfrifiadura â phobl a'r gymdeithas yn benodol.

Un ffocws pwysig yw datblygiad cyfrifiadura yng Nghymru. Trwy ymchwilio i hanes cyfrifiadura yn lleol, rydym wedi canfod ein bod ni'n gallu gweld a cheisio deall cydadwaith "achosion ac effeithiau" technegol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol yn well.

Mae'r Casgliad hefyd yn ymwneud â meysydd arbenigol penodol o gyfrifiadura. Mae'r dewis o'r pynciau hyn yn adlewyrchu diddordebau aelodau Prifysgol Abertawe a chyfeillion y Casgliad. Er enghraifft, mae gennym archif L. J. Comrie, FRS (1893-1950), arloeswr dulliau rhifiadol, sy'n cynnwys nodiadau a'i gasgliad o dablau mathemategol; ac mae gennym archifau sy'n dangos datblygiad cyfrifiadureg ddamcaniaethol a dulliau ffurfiol ar gyfer peirianneg meddalwedd. 

Mae'r wefan hon yn rhoi gwybodaeth am y Casgliad. Mae hefyd yn declyn ymchwil i adeiladu'r Casgliad, ac i annog pobl i ddehongli a lledaenu hanes cyfrifiadura. Rydym yn gobeithio y byddwch yn ystyried y syniadau a'r myfyrdodau yma'n ddiddorol. Rydym yn gobeithio y byddwch yn ein helpu i adeiladu'r casgliad; mae croeso mawr i chi gysylltu â ni. 

John V Tucker

Nodau:

Mae cyfrifiaduron wedi trawsnewid sawl agwedd ar wyddoniaeth, y gymdeithas a diwylliant ers y 1940au. Ym mhob degawd, mae cryfder y newidiadau wedi dwysáu ac nid oes unrhyw arwydd y bydd yn tawelu. Mae'r trawsnewidiad yn rhyfeddol ac mae'n anodd amgyffred ag ef. Mae mawr angen astudio'r technolegau hyn, a'u datblygiad a'u heffaith o wahanol safbwyntiau. Nid yw hanes y trawsnewidiad wedi'i gofnodi'n dda, heb sôn am ei ddadansoddi. Mae mawr angen achub yr hanes hwn er mwyn i'n cenedlaethau presennol a chenedlaethau'r dyfodol myfyrio yn ei gylch.

Diben y casgliad yw:

Bydd y Casgliad yn canolbwyntio ar:

Datganiad o Genhadaeth

Nod Casgliad Hanes Cyfrifiadura yw casglu, cadw a dehongli hanes a datblygiad cyfrifiadura a dogfennaeth gysylltiedig at ddibenion cadwraeth, addysg ac ymgysylltiad y Brifysgol â’r cyhoedd ehangach.

Gyda ffocws penodol ar hanes cyfrifiadura yng Nghymru

Het goch a gyflwynwyd i arloeswr Linux, Alan Cox, am ei wasanaeth i'r cwmni RedHat.Rhodd i'r Casgliad Hanes Cyfrifiadura gan y perchennog yn 2012.

Het goch a gyflwynwyd i arloeswr Linux, Alan Cox, am ei wasanaeth i'r cwmni RedHat.Rhodd i'r Casgliad Hanes Cyfrifiadura gan y perchennog yn 2012.

HoCC Facebook   HoCC Twitter  HoCC Flikr  HoCC Instagram

Blaen Nesaf