Atgofion

"Mae atgofion yn dod â’r casgliad yn fyw"

Mae’r Casgliad Hanes Cyfrifiadura yn chwilio am atgofion er mwyn datgelu a chofnodi gwybodaeth am dechnolegau a’u defnydd, profiadau ymarferol pobl a’u cyflawniadau, ynghyd â’r llwybrau at gyfrifiadureg a ddilynwyd.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn rhannu atgofion gyda ni, cysylltwch

Gweithiodd Noel Cox ym maes prosesu data a bu’n dyst i’r pontio o dechnolegau mecanyddol i dechnolegau electronig. Roedd hefyd yn gyfrifol am bontio prosesu data degoli.

“Erbyn 1971, roedd llawer o sefydliadau mawr, wrth reswm, eisoes wedi cyflwyno cyfrifiaduron at ddibenion cyfrifeg a chymwysiadau masnachol. Golygodd cyflwyniad yr arian degol newydd ar gymhareb 100 ceiniog i 240 fod yn rhaid rhannu’r holl werthoedd mewnol â 2.4 a thalgrynnu canlyniad llai na phunt i’r geiniog gyflawn agosaf”.

Full Reminiscence - PDF

“Roedd yr iaith raglennu Côd Syml yn unrhyw beth ond syml - roedd yn rhaid i bob cyfrifiad fynd drwy Groniadur y byddai’n rhaid ei gadw at ddibenion y dyfodol ac roedd y cylchoedd a ddefnyddid yn awgrymu nodiant nodau Groegaidd i reoli’r amledd.”

Full Reminiscence - PDF

Ym 1961, dyfarnwyd grant ymchwil i Colin Evans gan y DSIR (Adran Ymchwil Wyddonol a Diwydiannol) i wneud gwaith ar ollyngiadau trydanol ar gyfer gradd PhD, dan oruchwyliaeth yr Athro P M Davidson.

Full Reminiscence - PDF

Mae J. Roger Hindley yn rhesymegydd blaenllaw o Brydain sydd fwyaf adnabyddus am yr algorithm casgliad math Hindley–Milner. Ers 1998, mae wedi bod yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd ym Mhrifysgol Abertawe

ldquo;Ym 1968, nid oedd yr adran Gyfrifiadureg yn cynnig cyrsiau gradd eto, ond dechreuais i a David Cooper addysgu cwrs blwyddyn gyfan a oedd yn cynnwys dwy ddarlith bob wythnos ar gyfer myfyrwyr Mathemateg Bur yn eu blwyddyn olaf: “Damcaniaeth Fathemategol Cyfrifiant”

Full Reminiscence - PDF

Cyrhaeddodd Jim Proudfoot "Abertawe ym mis Mai 1974, i weithio ar y prosiect Aml-Ficrobrosesydd a ariennir gan SERC, fel y'i gelwir CYBA-M."

Full Reminiscence - PDF

‘Cwblhaodd Sitsofe radd BSc mewn Cyfrifiadureg yn Abertawe yn 2003 ac yna cwblhaodd PhD ym Mhrifysgol Caerefrog. Bellach, mae'n gweithio i GraphCore.’

Yn ystod fy mlwyddyn astudio gyntaf ym Mhrifysgol Abertawe, ymunais â phrofi porwr gwe Mozilla (a ddatblygodd i fod yn sail i Firefox) cyn iddo gael ei ryddhau (oddeutu carreg filltir M14). Roedd y broses hon yn cynnwys lawrlwytho'r rhyddhad nosweithiol diweddaraf (gan dybio nad oedd yn crasio - roedd yn annibynadwy tu hwnt ar y cam hwnnw) drwy dudalennau sampl a symud ymlaen i berfformio sesiwn arferol ar y we (proses a elwid yn aml yn brawf mwg). Un o fanteision bod mewn Prifysgol oedd bod gennyf fynediad at dri o'r prif blatfformau yr oedd Mozilla'n cael ei ryddhau arnynt - MacOS9, Linux a Windows NT. Gwnaeth hyn fy ngalluogi i ganfod bygiau a oedd yn digwydd ar blatfform penodol.

Roedd problemau a ganfuwyd yn ystod y broses hon yn cael eu nodi ar wefan cronfa ddata bygiau Mozilla (http://bugzilla.mozilla.org) a gellid cael cyswllt ar unwaith â datblygwyr drwy ddefnyddio'r IRC i sgwrsio â datblygwyr a chanfod beth oedd prif faterion y dydd hwnnw. Gwnes i barhau i ddefnyddio'r IRC i siarad â datblygwyr Mozilla nes iddo gael ei flocio gan y Brifysgol rywbryd yn ystod 2000.

Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn edrych ar fygiau presennol (a ganfuwyd gan bobl eraill i ddechrau) a cheisio eu hatgynhyrchu fy hun. Pan oeddwn yn gallu atgynhyrchu'r broblem, byddwn yn tynnu darnau o ffynhonnell y dudalen i'r pwynt mai swm bach iawn fyddai'n atgynhyrchu'r broblem. Byddai hyn wedyn yn galluogi'r datblygwyr i ddatrys y problemau'n gynt. Yn ogystal, byddai llawer o fygiau'n ymddangos yn y gronfa ddata'n ddi-ddosbarth/camddosbarthu, felly lle bu'n briodol byddwn yn eu hailddosbarthu nhw.

I helpu'r ymdrech, roedd gennyf offer i helpu i brofi'r porwr - byddai un offeryn yn cymryd ffeil llyfr nodau ac yn creu tudalen a fyddai'n mynd drwy safleoedd yn y ffeil llyfr nodau bob ychydig eiliadau a byddai un arall yn canfod tudalennau a oedd yn dal i ddefnyddio nodau marcio Netscape 4 hen ffasiwn.

Mae rhestr o fygiau Mozilla rwyf wedi adrodd amdanynt neu fynegi barn arnynt i'w gweld drwy

HoCC Facebook   HoCC Twitter  HoCC Flikr  HoCC Instagram

Blaen Nesaf