Bywgraffiad: Robert Hartill

PIONEER CYNNAR Y WE EIDDO BYD

Ganed Rob Hartill ym Mhontypridd ym 1969 ac astudiodd ei BSc a'i PhD ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd. Roedd yn un o arloeswyr cynnar y We Fyd-Eang, yn ymwneud â datblygu isadeiledd y feddalwedd a'r cynnwys ar y We.

Ym 1994, cydsefydlodd y Sefydliad Meddalwedd Apache gan gyfrannu’n niferus at weinydd Apache HTTP (gwe). O 1996 tan yr adeg ysgrifennu, roedd gweinydd gwe Apache yn gyfrifol am wasanaethu mwy o wefannau nag unrhyw weinydd arall, ac am lawer o'r cyfnod hwn, roedd yn gyfrifol am wasanaethu mwy o wefannau na'r holl weinyddion gwe eraill gyda’i gilydd.

Tra yng Nghaerdydd, roedd Rob yn gyfranogwr gweithgar yng nghronfa ddata rec.arts.movies. Roedd hwn yn grŵp newyddion gyda chymedrolwr, lle casglodd y cynhaliwr adolygiadau a bostiwyd gan aelodau. Ym 1993, cynhyrchodd ef ryngwyneb gwe i'r gronfa ddata hon, un o'r gwefannau cynharaf yn y DU. Prynwyd y safle hwn, Internet Movie Database (IMDb), yn ddiweddarach gan Amazon.com ym 1998.

Roedd ef hefyd yn gyfrifol am weithio ar archif e-brint ArXiv.org (a yngenir 'archive', yr X yw'r llythyren Roegaidd Chi) gyda Paul Ginsparg tra yn Labordy Cenedlaethol Los Alamos. Mae hwn yn gartref i bron pob papur a gyhoeddir ym maes Ffiseg ac yn cael ei ystyried gan rai fel yr olynydd yn y pen draw i gyfnodolyn sy’n cael eu hargraffu.

HoCC Facebook   HoCC Twitter  HoCC Flikr  HoCC Instagram