Casgliad

Mae'r Casgliad yn ddetholiadol o ran yr hyn y mae'n ei gadw. Mae gennym rai diddordebau penodol, ond nid yw’r rhain yn rhwystro'r hyn y derbyniwn i'r Casgliad. Rydym yn elwa'n fawr o serendipedd.;

Yr eitemau poblogaidd mewn unrhyw gasgliad cyfrifiadura yw’r peiriannau, y dyfeisiau a’r feddalwedd ymylol, yn enwedig meddalwedd sy’n gyfarwydd i ddefnyddwyr megis systemau gweithredu a gemau. Mae’r rhan fwyaf o’r eitemau yn ein casgliad wedi’u cefnogi gan lawlyfrau, gwerslyfrau ac archifau, ac mae ganddynt gysylltiadau lleol â de Cymru.

Mae cynrychiolaeth gref o beiriannau a’r feddalwedd sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol, gan gynnwys cyfrifianellau mecanyddol ac electronig, olion cyfrifiadur cyntaf y Brifysgol, ei weinydd gwe cyntaf a chyfrifiaduron personol. Mae hefyd yn cynnwys y gwesteiwr Linux cyntaf yn y DU, ynghyd â sawl fersiwn gynnar o Linux, cylchgronau Linux ac effemera eraill. Mae rhai o’r eitemau hyn wedi’u harddangos ar ein Campws y Bae.

Is-gasgliadau ar bynciau penodol

Damcaniaeth rhaglennu

Mae ein diddordeb penodol mewn rhaglennu a datblygu meddalwedd wedi denu sawl rhodd archif. Rydym wedi derbyn casgliad o nodiadau, erthyglau a llyfrau gan athrawon cyfrifiadureg:

Gyda'i gilydd, mae'r archifau'n ymdrin â datblygiad llawer o'r ieithoedd rhaglennu modern, a rhoddir pwyslais ar ddulliau ffurfiol ar gyfer semanteg, manylu a gwirio. Mae ein harchif yn cynnwys nifer o awduron a phrosiectau cydweithredol. Yn ogystalâ hyn, mae'n cynnwys cyhoeddiadau anffurfiol gwerthfawr iawn megis y Bulletin of the European Association for Theoretical Computer Science.

Cyfrifiadura cyn cyfrifiaduron: Leslie J Comrie, FRS (1893-1950).

Roedd Comrie yn arloeswr dulliau rhifiadol ar gyfer gwyddoniaeth a pheirianneg cyn dyfodiad cyfrifiaduron. Fe greodd dablau mathemategol a datblygodd ddulliau mecanyddol uwch ar gyfer cyfrifiadu’n seiliedig ar gardiau tyllog a chyfrifianellau’r cyfnod. Mae ein harchif yn cynnwys nodiadau, papurau a'i gasgliad sylweddol o dablau mathemategol sy'n gysylltiedig â'i gwmni cyfrifiadura Scientific Computing Service Ltd. Scientific Computing Service oedd y ganolfan gyfrifiadura gwyddonol gyntaf, a sefydlwyd ym 1937 yn 23 Sgwâr Bedford, Llundain.

Datblygiad addysg gyfrifiadura mewn ysgolion a phrifysgolion.

Mae'r Casgliad yn cynnwys adroddiadau cyffredinol ar gwricwla cyfrifiadureg a'r trafodaethau yn eu cylch, cylchlythyron a chanllawiau i athrawon, a rhai hanesion llafar gan athrawon a chynghorwyr pwnc mewn perthynas â chamau cynnar addysg gyfrifiadureg yn ne Cymru. Y mae hefyd yn cynnwys archif sy'n mapio addysg gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys papurau arholiad, cyrsiau darlith, llawlyfrau myfyrwyr, a deunydd cyhoeddusrwydd.

Data Mawr yn dod i Gymru:Y DVLA a chanolfannau data eraill.

Mae'r Casgliad yn cynnwys rhai adroddiadau'r llywodraeth nas cyhoeddwyd ar man cychwyn a chynlluniau’r DVLA yn y 1960au, ynghyd a rhai hanesion llafar.

Cyfrifiaduron ac awtomatiaeth gynnar yn y diwydiant dur.

Roedd yr angen am ddata a chyfrifiadu yn y diwydiant dur yn golygu bod cwmnïau dur wedi prynu a gwneud defnydd arloesol o gyfrifiaduron cynnar. Mae'n debygol mai'r cyfrifiadur cyntaf yng Nghymru oedd y Ferranti Pegasus a brynwyd er mwyn dylunio’r gweithfeydd Abbey Steel Works newydd ym Mhort Talbot. Mae gan y Casgliad lawlyfrau a hanesion llafar mewn perthynas â'r peiriant hwn. Hefyd, ceir deunydd sy’n ymwneud â meddalwedd arloesol i reoli stoc ac archebion cwsmeriaid.

Diogelwch Cyfrifiaduron a Gwybodaeth.

Mae'r Casgliad yn cynnwys arteffactau, canllawiau, llyfrau a thrafodion cynadleddau ynghylch diogelwch cyfrifiaduron sy'n dyddio o'r 1970au ymlaen, gan gynnwys casgliad cyflawn o'r cylchgrawn hacker magazine 2600.

Rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron.

Mae gan gyfrifiaduron, dyfeisiau a meddalwedd y Casgliad ystod o ryngwynebau. Ceir deunyddiau print, gan gynnwys rhyngwynebau o Grŵp Diddordeb Arbennig Cymdeithas Cyfrifiadura Prydain ar HCI.

HoCC Facebook   HoCC Twitter  HoCC Flikr  HoCC Instagram

Blaen Nesaf