Cyfathrebu a’r Rhyngrwyd

Mae cyfrifiaduron yn casglu, yn cynhyrchu ac yn storio data. Mae cyfathrebu data, yn gyffredinol, wedi llywio datblygiad a’r profiad o gyfrifiadura. Mae hanes y telegraff, y ffôn a'r teledu yn berthnasol i hanes cyfrifiadura; yn wir, mae rhai yn ystyried cyfrifiadura yn rhan o stori ehangach data a gwybodaeth. Yn y Casgliad, rydym yn edrych yn bennaf ar y broses o drosglwyddo data rhwng cyfrifiaduron a pherifferolion a rhwng cyfrifiaduron.

Mae'r Rhyngrwyd yn rhwydwaith byd-eang ar gyfer cyfathrebu data, a throsglwyddo ffeiliau yn nodweddiadol. Trwy ddatblygu'r we fyd-eang, a chyfleusterau rhwydweithio cysylltiedig, mae'r Rhyngrwyd wedi ein galluogi ni i gynrychioli bywyd proffesiynol, dinesig, masnachol, cymdeithasol a phersonol mewn modd rhithwir. Mae'r Casgliad yn ymwneud â chofnodi a siartio agweddau cymdeithasol y Rhyngrwyd. Er enghraifft, mae ganddo ddeunyddiau sy'n gysylltiedig â hacio, megis y cyfnodolyn 2600.

Negeseuo electronig

Ym 1961, roedd y System Rhannu Amser Gyfatebol (CTSS) yn system amlddefnyddiwr boblogaidd, ond roedd diffyg nodweddion ganddi ar gyfer caniatáu cyfathrebu uniongyrchol.Fodd bynnag, tynnodd defnyddwyr y system sylw at yr angen hwn, a datblygu system ad-hoc ar gyfer anfon negeseuon i’w gilydd drwy ysgrifennu ffeiliau mewn cyfeiriadur cyffredinol gydag enw’r derbynnydd. Nid oedd hyn yn ddiogel – gallai unrhyw ddefnyddiwr ddarllen unrhyw negeseuon e-bost, ni waeth y derbynnydd y bwriadwyd eu hanfon ato.

Y cynnig cyntaf a ddogfennwyd ar gyfer system ffurfiol o anfon negeseuon oedd ‘Programming Staff Note 49’ gan Louis Pouzin, Glenda Shcroder a Pat Crisman ym 1964. Roedd hyn yn cynnig gorchymyn MAIL i weithredwyr hysbysu defnyddwyr am ddigwyddiadau.

Ym 1965, rhoddodd Noel Morris a Tom Van Vleck y gorchymyn MAIL ar waith. Er mai bwriad y cynnig gwreiddiol oedd i weinyddwyr ei ddefnyddio i anfon negeseuon at ddefnyddwyr, roedd ei weithredu’n galluogi defnyddwyr i anfon negeseuon at unrhyw ddefnyddiwr. Roedd angen defnyddio’r rhaglen MAIL mewn modd breiniol i’w gefnogi (cyfwerth ag UNIX setuid). Roedd ei nodweddion yn debyg i’r protocol post anffurfiol gwreiddiol. Roedd gan bob defnyddiwr ffeil blwch negeseuon e-bost a oedd yn cynnwys y negeseuon e-byst a oedd yn cyrraedd. Yn y system newydd, dyma ffeil breifat y gallan nhw yn unig ei darllen. Roedd y gorchymyn MAIL yn galluogi defnyddwyr mympwyol i atodi negeseuon i’r ffeil hon.

System arall a ddefnyddiwyd i gyfathrebu rhwng defnyddwyr oedd y gorchymyn .SAVED.Roedd hyn yn galluogi defnyddwyr i ysgrifennu negeseuon yn uniongyrchol ar derfynellau defnyddwyr eraill.Addaswyd y system hon i anfon hysbysiadau o e-byst newydd. Pan ddefnyddiwyd y gorchymyn MAIL, yn gyntaf, byddai’n ychwanegu’r neges at ffeil blwch negeseuon e-bost y derbynnydd, ac yna’n ysgrifennu neges at ei derfynell (os oedd wedi mewngofnodi) i roi gwybod iddo fod ganddo e-bost newydd.Dyma ddatblygiad pwysig o’r system ad-hoc hŷn, oherwydd ei fod yn rhoi uniongyrchedd i’r broses o ddarparu negeseuon e-bost electronig nad oedd yn bodoli o’r blaen.Nid oedd angen i ddefnyddiwr wirio ei ffeil negeseuon e-bost bob hyn a hyn mwyach i weld a oedd negeseuon newydd.

Roedd cyfrifiaduron yr oes hon yn beiriannau mawr a oedd â llawer o ddefnyddwyr yn gysylltiedig â nhw drwy derfynellau. Prin iawn roeddent wedi’u cysylltu â pheiriannau eraill. Defnyddiwyd negeseuon e-bost mewn ffordd debyg iawn i bost mewnol mewn sefydliad. Ni chafodd y systemau hyn eu hehangu i gefnogi rhwydweithiau nes 1971. Addasodd Ray Tomlinson y rhaglen negeseuon e-bost i anfon e-byst at beiriannau eraill drwy ARPANET - y system a fyddai’n datblygu i’r fewnrwyd yn ddiweddarach. Dyma’r defnydd cyntaf o’r arwydd @, a ddefnyddiwyd i ddynodi defnyddwyr @ (at) gyfrifiadur.

Yn y 1970au, gwelwyd y rhaglen anfon negeseuon gwib gyntaf. Ystyriwyd e-byst fel systemau anfon negeseuon anghydamserol - i gymryd lle llythyrau nad oedd disgwyl ymateb ar unwaith iddynt. Rhannodd y rhaglen ‘talk,’ a ysgrifennwyd ar gyfer y PDP-11 a’i gludo i UNIX yn ddiweddarach, y sgrîn i ddau ddefnyddiwr. Roedd yn caniatáu i destun a deipiwyd gan un defnyddiwr ymddangos ar waelod ei sgrîn ef ac ar ben uchaf y defnyddiwr arall. Roedd gan derfynellau’r oes hon fecanweithiau rheoli syml iawn, ac roedd y sgwrs yn eithaf annibynadwy - os oes dau ddefnyddiwr yn teipio ar yr un pryd roedd yn gallu amharu ar ddangosydd y cyfrifiadur. Roedd y broblem hon yn fwy anghyffredin gyda therfynellau diweddarach a’r mecanweithiau rheoli uwch.

System gyfathrebu un i un oedd negeseuon e-bost gwreiddiol. Ym 1978, cyflwynodd Ward Christensen y System Bwletin Cyfrifiadurol (CBBS) yn Chicago. Roedd hyn yn cynnig system ar-lein a oedd yn gyfwerth â'r hysbysfwrdd cymunedol. Byddai defnyddwyr yn cysylltu â’r MODEMau, yn lanlwytho ffeiliau newydd ac yn casglu’r rhai hynny a oedd yno’n barod. Cynhaliwyd y system wreiddiol ar FODEM sengl, ac roedd angen i ddefnyddwyr gysylltu un ar y tro. Daeth system o’r fath yn gynyddol boblogaidd, ac yn y pendraw, fe’i datblygwyd i’r math o fforymau sy’n boblogaidd ar y we heddiw.

Roedd systemau hysbysfyrddau bwletin yn rhwydweithiau syml iawn - fel arfer roeddent yn cynnwys un gweinydd y gallai cleientiaid gysylltu ag ef yn uniongyrchol. Ar yr un pryd, roedd ARPANET yn datblygu saernïaeth peiriant cyfoedion i gyfoedion gyda systemau mawr mewn prifysgolion a llywodraethau yn cael eu cysylltu â rhwydwaith. Ym 1979, rhoddodd Tom Truscott a Jim Ellis o Brifysgol Duke, fath o fwrdd negeseuon ar waith gan ddefnyddio’r UNIX to UNIX Copy Procotol (UUCP). Roedd hyn yn galluogi defnyddwyr i roi negeseuon ar beiriant lleol a fyddai wedyn yn cael eu trosglwyddo i gyfrifiaduron eraill ar y rhwydwaith. Daeth pobl i wybod am hyn fel USENET, sef cwtogiad o’r rhwydwaith i ddefnyddwyr. Ym 1985, byddai UUCP yn cilio’n raddol o blaid y Protocol Trosglwyddo Newyddion dros y Rhwydwaith (NNTP), a ddyluniwyd o ddim byd i ledaenu negeseuon yn effeithiol yn y rhwydwaith hwn.

Ym 1995, dechreuodd Deja News gynnal archif o gynnwys USENET.Roedd eu mynegai yn cynnwys negeseuon o mor gynnar â 1981. Roedd hyn yn ddadleuol ar y pryd, oherwydd roedd llawer o bobl wedi anfon negeseuon at USENET dros y ddegawd flaenorol gan ddisgwyl i’w negeseuon ddiflannu.

Roedd cyfathrebu gwib rhwng defnyddwyr ar gyfrifiaduron ar y pryd yn gyfyngedig i’r ddau ddefnyddiwr a oedd yn sgwrsio, a gefnogid gan y rhaglen ‘talk.’Ym 1980, lansiodd rhwydwaith Compurserve raglen o’r enw CB Simulator. Yn ystod y cyfnod hwn, oherwydd bod yr Amrediad i Ddinasyddion (Citizens’ Band) yn cael ei ddadreoleiddio’n fwy, a bod costau offer radio’n lleihau, daeth radio CB yn fwy poblogaidd a nod Compuserve oedd manteisio ar hyn. Cyflwynodd y CB Simulator ryngwyneb sgwrsio syml yr oedd llawer o bobl yn gallu siarad â’i gilydd arno. Rhannwyd y system i sianeli, yn debyg i’r system CB go iawn (er iddynt gael eu hadnabod yn ôl enwau yn hytrach na rhifau). Byddai testun a nodwyd i un yn cael ei drosglwyddo i bob defnyddiwr arall yn yr un sianel. Mae’r rhyngwyneb hwn yn boblogaidd o hyd heddiw mewn systemau mwy modern megis Internet Relay Chat (IRC) a Secure Internet Live Conferencing (SILC). Ym 1991, byddai’r CB Simulator yn cynnal y briodas ar-lein gyntaf.

Roedd Compuserve yn gyfrifol am ddau newyddbeth arall mewn negeseuon e-byst electronig. Ym 1982, gwnaethant gyflwyno pont i e-byst ar y rhyngrwyd, a oedd yn galluogi defnyddwyr Compuserve i gyfnewid negeseuon e-bost â defnyddwyr y rhyngrwyd. Cyn hyn, roedd darparwyr gwasanaethau ar-lein wedi cynnal systemau e-bost preifat, a thanysgrifwyr i’r system yn unig a oedd yn gallu cyfnewid negeseuon e-bost. Arweiniodd hyn at orfodi pobl i gynnal sawl cyfrif e-bost gwahanol er mwyn gallu cyfathrebu â phawb. Yr ail ddatblygiad sylweddol gan Compuserve oedd cyflwyno e-byst testun cyfoethog ym 1992, gyda golygydd WYSIWYG.

Roedd anfon negeseuon gwib yn dilyn patrwm tebyg i e-bost.Quantum Link (a ddaeth yn AOL yn ddiweddarach) oedd y system gyntaf i ganiatáu negeseuon gwib. Roedd yn galluogi defnyddwyr Commodore-64 i gyfnewid negeseuon ym 1985. Ym 1996, cyflwynodd y cwmni o Israel Mirabilis yr ICQ (‘I seek you’) a ddaeth â negeseuon gwib i’r rhyngrwyd. O ganlyniad i’r doreth o systemau anfon negeseuon gwib a oedd yn anghydnaws â’i gilydd, datblygwyd protocol Jabber yn 2000. Cafodd hyn ei safoni gan Dasglu Peirianneg y Rhyngrwyd (IETF), fel yr Extensible Messaging and Presence Protocol (XMPP) yn 2004.Yn 2005, cyflwynodd Google Google Talk, sef gweithrediad masnachol o’r safon hon.

David Chisnall

 

Deunyddiau Darllen Pellach

Hanes post electronig, gan Tom Van Vleck

Hanes yr e-bost cyntaf a anfonwyd drwy rwydwaith, gan Ray Tomlinson

Bywyd cymdeithasol y rhyngrwyd

"When technique enters into every area of life, including the human, it ceases to be external to man and becomes his very substances. It is no longer face to face with man but is integrated with him, and it progressively absorbs him." J. Ellul

Ar hyn o bryd, ymddengys fod fwyfwy o dechnolegau sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd yn cael eu creu a’u defnyddio at eu dibenion cymdeithasol. Mae’n gynyddol anos i ni wahanu’r technolegol rhag y cymdeithasol. Rhaglenni cymdeithasol a goblygiadau’r technolegau hyn sydd wedi galluogi’r rhyngrwyd i fod yn rhan hanfodol o’r gymdeithas ddynol.

Yn y rhan hon o’r Casgliad, ein prif nod yw cyflwyno’r cyfuniad agos rhwng technoleg a chymdeithas.

Victoria Wang

 

Seiberdroseddu

Ar hyn o bryd, mae technolegau amrywiol sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd wedi cynhyrchu mathau newydd o gyfathrebu a rhyngweithio i ddyn. Mae hyn wedi creu mathau newydd o weithgareddau economaidd, ymddygiad cymdeithasol a hyd yn oed strwythurau cymdeithasol newydd. Yn ogystal â’r rhain, mae ffenomen droseddegol newydd wedi deillio o ddatblygiadau mewn technolegau – seiberdroseddu.

Mae’n amlwg bod seiberdroseddu’n cyfrannu’n fawr at gyfanswm nifer y troseddau a gyflawnir yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae natur seiberdroseddu mor gymhleth, nad yw’n debygol o gasglu amcangyfrifon cywir a manwl, ond mae'n debyg bod cryn dipyn o droseddau’n gysylltiedig â'r rhyngrwyd a thechnolegau cysylltiedig.

Nid yw seiberdroseddu wedi’i ddiffinio’n swyddogol. Mae anghydfod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol o ran ei ddiffiniad. Mewn theori, mae diffiniadau’n destun addasiadau yn ôl y math o droseddau sydd mewn casgliadau ystadegol swyddogol o droseddau. Yn ymarferol, defnyddir diffiniadau swyddogaethol gwahanol mewn gwledydd amrywiol - mae hyd a lled y rhain yn eang, maent yn cwmpasu gwahanol droseddau o fewn categorïau troseddau cyfundrefnol, troseddau masnachol, troseddau sy'n gysylltiedig â rhyw a dibyniaeth mewn seiber-gymunedau. Yn ôl ymchwil, mae grwpiau troseddau cyfundrefnol (OC) yn defnyddio technolegau cyfrifiadurol i hwyluso troseddau traddodiadol a chreu mathau newydd o droseddau cyfundrefnol difrifol. Mae ymchwil wedi awgrymu mai’r sector masnachol yw’r targed mwyaf amlwg ar gyfer troseddau sy’n gysylltiedig â chyfrifiaduron, ac mae’r colledion ariannol o droseddau amrywiol yn y categori hwn yn sylweddol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae troseddau sy’n gysylltiedig â rhyw yn peri gofid mawr, oherwydd bod y defnydd o’r rhyngrwyd a thechnolegau cysylltiedig gan y diwydiant rhyw lawer yn fwy amlwg na darparu a gwerthu deunyddiau pornograffig. Mae ymchwil wedi dangos bod dosbarthiad pornograffi plant a’r broses o feithrin perthynas amhriodol â phlant ar-lein gan bedoffilyddion wedi bod yn cynyddu ar gyfradd gynyddol ers diwedd y 1990au.

Mae pa mor gyffredin y mae seiberdroseddu’n sylweddol. Fodd bynnag, mae’n anodd amcangyfrif pa mor gyffredin ac aml y mae’n digwydd oherwydd bod gan adroddiadau ystadegol o seiberdroseddau broblem gyffredin, sef eu bod yn tanamcangyfrif yn sylweddol. Caiff y broblem o dangyflwyno seiberdroseddau ei hachosi gan broblemau cyffredinol sy’n ymwneud â chasglu a dehongli ystadegau am droseddau, yn ogystal â phroblemau penodol sy’n berthnasol i ystadegau am seiberdroseddau’n unig.

Mae ymchwil wedi awgrymu bod gweithgareddau troseddol sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd, heb os, wedi’u cynnwys mewn adroddiadau ystadegol cyffredinol am droseddau. Fodd bynnag, nid arsylwir ar nodiadau penodol o ran cysylltiad y rhyngrwyd a thechnolegau cysylltiedig. Felly, mae’n anodd amcangyfrif i ba raddau y mae troseddau’n gwaethygu o ganlyniad i’r technolegau hyn. Mae’r rhan fwyaf o’r adroddiadau ystadegol swyddogol ac answyddogol am seiberdroseddau wedi’u targedau at y sector busnes. Mae crynswth yr adroddiadau hyn yn sylweddol, ond mae’n bosibl nad yw’r ffigurau a gynhyrchir yn gynrychioladol. Nid oes unrhyw adroddiadau ystadegol swyddogol am droseddau nac astudiaethau manwl am faint y troseddau/gwyriadau mewn seiber-gymunedau. Mae ymchwil wedi awgrymu nad yw asiantaethau’r llywodraeth efallai’n ystyried y troseddau hyn yn droseddol neu’n ymddygiad gwrthgymdeithasol troseddol, gan nad ydynt yn arwain at unrhyw niwed diriaethol/corfforol. Ymhellach, ceir cryn ddadlau o ran a yw’r amgylcheddau ar-lein hyn yn gymdeithasau newydd eu creu neu’n seiliau ar gyfer gemau rhithwir yn unig.

Er mwyn cael dealltwriaeth gynhenid o seiberdroseddu, mae’n bosibl bod angen i ni ail-werthuso’r term ‘seiberdroseddu’ drwy ei wahanu’n ddau derm - seiber a throsedd. Wrth astudio’r term ‘seiber,’ rydym yn archwilio rôl y rhyngrwyd a’i thechnolegau cysylltiedig. A yw’n cynhyrchu ymddygiad troseddol newydd? Dylai diffiniad a chategoreiddiad ‘seiberdroseddu’ fod yn seiliedig ar rôl y rhyngrwyd a thechnolegau cysylltiedig. Drwy ail-archwilio’r term ‘trosedd,’ rydym yn dadansoddi troseddau sy’n gysylltiedig â seiber, sy’n gwerthfawrogi’r diffiniad cyfreithiol a thraddodiadol o drosedd; ac sy’n gwerthuso posibilrwydd rhai troseddau yn y rhan o drosedd sy'n gysylltiedig â seiber sy'n galw am ail-werthuso’r diffiniad o droseddau.

Victoria Wang

Llywodraethu’r Seiberofod

A Declaration of the Independence of Cyberspace - John Perry Barlow

"Governments of the Industrial World, you weary giants of flesh and steel, I come from Cyberspace, the new home of Mind. On behalf of the future, I ask you of the past to leave us alone. You are not welcome among us. You have no sovereignty where we gather. ...

Governments derive their just powers from the consent of the governed. Youhave neither solicited nor received ours. We did not invite you. You do not know us, nor do you know our world. Cyberspace does not lie within your borders. Do not think that you can build it, as though it were a public construction project. You cannot. It is ân act of nature and it grows itself through our collective actions...

We will create a civilization of the Mind in Cyberspace. May it be more humane and fair than the world your governments have made before."

Davos, Y Swistir, 8 Chwefror, 1996.

  1. A ellir llywodraethu’r seiberofod?
  2. Sut mae’r gyfraith a thechnoleg yn addasu i nodweddion cymdeithasol unigryw y maes llywodraethu’r seiberofod?

Victoria Wang

Gwe’r DU

Y We a Phrifysgol Abertawe

Roedd David Dunbar, darlithydd mewn ffiseg ddamcaniaethol, yn ymweld â’r grŵp ffiseg gronyddol damcaniaethol yn ULCA yn ystod y flwyddyn academaidd 1993-94.Dangosodd grŵp ffiseg gronyddol arbrofol ULCA eu tudalennau gwe i David, a gosododd feddalwedd we ar beiriant SUN SPARC a oedd yn eiddo i’w westeiwr, grŵp ffiseg gronynnol damcaniaethol ULCA.

Soniodd David am y we a'i osodiad mewn e-byst gyda myfyrwyr a oedd wedi graddio yn ôl yn Abertawe. Ar eu menter eu hun, cymerodd Peter Coyle (myfyriwr PhD Ian Halliday) ac, yn benodol, Chris Abrahams (myfyriwr PhD Aled Williams) ddiddordeb a gosod y we ar beiriant grŵp ffiseg ronynnol Abertawe, Python.

Roedd Abrahams yn frigdonnwr brwd. Yn fuan, sylwodd y cyhoedd ar ei wefan i frigdonwyr, ac felly ymddangosodd ar Fap Ffordd Ziff-Davis o'r Rhyngrwyd, 1994. HTTPD fersiwn 1.3 oedd y feddalwedd a ddarganfuwyd cynharaf ar beiriant Python.

Tudalen we Swansea Surf

HoCC Facebook   HoCC Twitter  HoCC Flikr  HoCC Instagram

Blaen Nesaf