Cyfrifiadura cynnar yng Ngholeg Abertawe

Cyn 1989

Roedd peiriant PDP ar y safle ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyrsiau TG/rhaglennu. Cafodd ei ddigomisiynu oddeutu 1988/89.

Rhwng 1989 a 1992

Ym 1989, roedd gan Goleg Abertawe gyfrifiaduron Amstrad1512 a 1640 ac roedd gyrwyr disgiau caled yn y rhan fwyaf o beiriannau. Roedd y rhain naill ai'n yrwyr 20 neu 40MB.

Yna gosodwyd ethernet tew/tenau o amgylch y Coleg cyfan. Roedd cebl mawr melyn yn mynd ar hyd nenfwd bob llawr gyda throsdderbynnydd uwchben y nenfwd yn cyfeirio'r pŵer i orsaf ail-drosglwyddo â sawl porth.

Yna roedd y cebl tenau'n mynd i ystafelloedd neu ar hyd coridorau – gyda therfynydd ar ddiwedd pob coes. Pan oedd toriad yn y cebl ac nid oedd yr orsaf ail-drosglwyddo’n gallu gweld y terfynydd mwyach, roedd pob peiriant (hyd at 32) ar y goes honno o'r cebl yn diffodd. Roedd wedyn angen rhedeg o gwmpas gyda therfynydd yn ceisio dod o hyd i'r cysylltiad gwan.

486 yn seiliedig ar Intel o Gyfrifiaduron Mertec oedd y gweinyddion ffeiliau. Yna, rwy'n meddwl mai cyfrifiaduron Viglen 286 oedd y rhan fwyaf o gyfrifiaduron wedi hynny. Novell oedd system weithredu'r rhwydwaith, gyda Windows (3.11/12) ar gyfer grwpiau gwaith ar beiriannau.

Oherwydd bod y technegwyr cyfrifiaduron yn ystafell waith y labordy electroneg, roedd cryn gyfle i arbrofi. Yr arbrawf mwyaf llwyddiannus oedd clymu ynghyd ychydig o fotorau cam, gyrwyr, drychau a phort paralel, ychydig o gôd peiriant 8086 gyda C, a laser a fenthycwyd o'r Adran Ffiseg i greu sioe oleuadau yr oedd modd ei rheoli – roedd y cylchau'n hawdd ond roedd mynd yn rhy bell dros gorneli'r sgwariau'n broblem...

Cofnododd un daflen waith enwog sut y cafodd cwyn gan ddarlithydd nad oedd y gyriant caled yn gweithio ar gyfrifiadur Amstrad ei datrys. Y datrysiad oedd, "tynnwyd y gyriant o'r cwpwrdd a'i osod mewn peiriant."

HoCC Facebook   HoCC Twitter  HoCC Flikr  HoCC Instagram