Cyfrifiaduron Cynnar
Roedd y peiriannau cyfrifo cynnar, megis Peiriant Gwahaniaeth Charles Babbage oll yn fecanyddol. Nid oedd cyfrifiaduron trydanol yn bosibl nes i’r falf thermionig gael ei chreu.
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, dechreuodd cyfrifiaduron trydanol ddisodli peiriannau cyfrifo mecanyddol yn y byd corfforaethol. Roedd y rhain yn araf iawn yn ôl safonau heddiw, ac roedd angen eu cynnal a’u cadw cryn dipyn oherwydd nad oedd y falfiau’n para’n hir iawn.Roeddent hefyd yn ddrud iawn, a dim ond cwmnïau mawr oedd yn gallu fforddio cyfrifiaduron.Tua diwedd y ‘60au, dechreuodd dyluniadau a oedd yn seiliedig ar dransistorau germaniwm gymryd eu lle – roedd hyn yn ein galluogi ni i adeiladu cyfrifiaduron llawer rhatach (a llai). Er eu bod yn dal i fod yn ddrud, roedd llawer mwy o sefydliadau’n gallu eu fforddio.
Roedd y cyfrifiaduron cynnar yn beiriannau syml iawn, a sefydlodd nifer o gwmnïau yn y DU, gan gynnwys Cymru, er mwyn eu hadeiladu.
Deunyddiau darllen pellach: Simon Lavington, Early British Computers, Gwasg Prifysgol Manceinion, 1980.
Cyfrifiaduron Cartref Cynnar
O’r ‘80au cynnar, roedd nifer fawr o wneuthurwyr yn creu cyfrifiaduron rhad a adeiladwyd o amgylch unedau prosesu canolog (CPU) 8-bit oddi ar y silff - y MOS 6502 neu’r Zilog Z80 yn bennaf. Roedd y gystadleuaeth yn ffyrnig; torrodd un gwneuthurwr faint ei elw mor fach, fel bod angen iddo gadw’r arian o’i gwsmeriaid yn ei gyfrif banc am fis i gael llog arno nes ei fod yn gallu fforddio prynu’r cydrannau.
Roedd y rhan fwyaf o’r peiriannau hyn yn cael eu defnyddio i chwarae gemau yn bennaf, ond dangoswyd i genhedlaeth o blant ysgol sut i ddefnyddio a rhaglennu cyfrifiaduron gan beiriannau o’r dosbarth hwn. Cafodd hyn ei annog gan y Llywodraeth ar y pryd ym Mhrydain, drwy fentrau megis “Mircos in Schools” ac “IT82: The Information Technology Year”.