Datblygu

ADDYSG AC YMCHWIL

Sut rydym ni wedi dysgu i ddatblygu, cymhwyso a defnyddio cyfrifiaduron a meddalwedd? Ateb amlwg a diniwed fyddai drwy ysgolion, colegau a phrifysgolion. Ond mae graddfa a chryfder ein gallu yn awgrymu ein bod ni'n dysgu'r un faint drwy ddysgu anffurfiol â dysgu ffurfiol: mae pobl wedi dysgu eu hunain yn y gwaith a gartref, gyda chymorth gan gydweithwyr a ffrindiau. Yn ôl pob golwg, dyma faes ymchwil hanesyddol sydd wedi'i esgeuluso.

Mae'r Casgliad wedi talu rhywfaint o sylw at darddiad hanesyddol a thwf gwybodaeth a sgiliau pobl. Er enghraifft, mae'n cynnwys rhai deunyddiau sy'n ymwneud â'r

Mae hefyd yn cynnwys archif addysg gyfrifiadura yn Abertawe.

SEFYDLIADAU A BUSNESAU

Mae nifer fawr o sefydliadau a busnesau wedi chwarae rhan yn y gwaith o ddatblygu cyfrifiadura. Mewn unrhyw ardal, mae cyrff cyhoeddus megis cynghorau sirol, gwasanaethau iechyd, a chyrff llywodraethol wedi datblygu cymwysiadau data mawr i ymdrin â chyfrifon dinasyddion. Mae cyrff proffesiynol wedi casglu cudd-wybodaeth, wedi adeiladau eu gallu ac wedi meithrin rhwydweithiau o brofiad. Mae cyfrifiaduron wedi cael eu gweithgynhyrchu'n eang; ac mae cwmnïau gwasanaethau meddalwedd a rhaglenni cefnogi busnesau wedi chwarae rhan yn y gwaith o gynnal a gwella economïau lleol. Mae'r Casgliad yn cynnwys gwybodaeth am sampl gweddol fach o endidau o'r fath a'r ffyrdd y maen nhw wedi:

Cymdeithas Gyfrifiadurol Prydain (BCS)

Sefydlwyd Cymdeithas Gyfrifiadurol Prydain ym mis Ebrill 1957.Erbyn mis Hydref, sefydlwyd oddeutu 7 o ganghennau lleol a 22 o grwpiau astudio. Cynhaliwyd y gynhadledd flynyddol gyntaf yng Nghaergrawnt ym 1959. Tyfodd nifer yr aelodau'n genedlaethol, yn fras fel a ganlyn:

Dechreuwyd Cangen Caerdydd ym 1958. Pobl mewn llywodraeth a masnach leol a oedd yn gweithio ar broblemau oedd yn ymwneud â phrosesu data ac arian a gymerodd y cam cyntaf i'w sefydlu. Harry Mansfield, Trysorydd Cyngor Dinas Caerdydd oedd y cadeirydd cyntaf.

Ym mis Medi 1962, cynhaliwyd pedwaredd gynhadledd flynyddol Cymdeithas Gyfrifiadurol Prydain yng Nghaerdydd. Denodd oddeutu 450 o bobl o bob cwr o'r wlad; mae'n ddiddorol nodi mai 15 yn unig ddaeth o brifysgolion.

Ym 1963, newidiwyd Cangen Caerdydd i Gangen De Cymru.

J V Tucker

Deunyddiau darllen pellach: John Kavanagh, The British Computer Society: Celebrating Fifty Years, British Computer Society, 2007.

 

Haearn a Dur Guest Keen

O gwmpas y flwyddyn 1962, prynodd Guest Keen gyfrifiadur a oedd yn gyfrifol am gyflogres y cwmni yn ogystal â phethau eraill. Costiodd y peiriant tua £2.25 miliwn ac roedd yn llenwi ystafell fawr.

Roedd yn arfer cymryd oddeutu 1000 o oriau i gwblhau'r gyflogres â llaw ar gyfer dynion a oedd yn gweithio yn y cwmni, ond cwblhawyd hyn mewn 40 munud ar ôl cyflwyno cyfrifiadur.

Roedd gwaith y dynion yn cael ei gadw ar gardiau wedi'u tyllu a oedd yn cael eu bwydo i'r peiriant. System dalu gymhleth – gallai gwahanol swyddi a wneir gan un person gael eu talu ar wahanol gyfraddau – felly gallai un dyn fod wedi gweithio ar nifer o wahanol gyfraddau yn ystod diwrnod/mis/wythnos. Yn ogystal, roedd cyfraddau bonws yn cael eu talu ar gyfradd wahanol ar gyfer rhai o’r swyddi. Nid oedd yn anarferol i'r cyflog fod yn dâl sylfaenol o £11, yn ogystal â bonws gwerth £50 ar gyfer rhai gweithwyr am fis.

HoCC Facebook   HoCC Twitter  HoCC Flikr  HoCC Instagram