Gweithfannau

Ym 1963, gwnaeth Ivan Sutherland greu system a oedd yn seiliedig ar bwyntydd o’r enw Sketchpard. Roedd y system yn galluogi pobl i drin gwrthrychau graffigol yn uniongyrchol. Yn ddiweddarach daeth hyn yn ysbrydoliaeth i gynorthwy-ydd digidol personol Apple Newton (PDA). Roedd hi’n ddiwedd y 70au nes i bŵer cyfrifiadurol ddod yn ddigon crynodedig i beiriant a gynlluniwyd ar gyfer un defnyddiwr allu cynnal rhyngwyneb graffigol. Gweithfannau graffigol oedd y peiriannau cyntaf o’r math hwn - peiriannau drud fel y PERQ, maint oergell fach a oedd yn mynd o dan ddesg y defnyddiwr ac yn defnyddio dangosydd graffigol bach. Yn ystod y 1980au, gwnaeth pris y peiriannau hyn ostwng yn raddol nes eu bod wedi dadleoli peiriannau testun yn unig yn llwyr ym mhob un ond nifer fach o leoedd. Erbyn y 90au, roedd disgwyl hyd yn oed i’r cyfrifiaduron rhad gartref gynnwys rhyngwyneb defnyddiwr graffigol.

Mae’r rhan hwn o’r casgliad yn cynnwys rhai enghreifftiau nodedig o ddatblygiad y rhyngwyneb defnyddiwr graffigol.

ICL PERQ 

Yn y 1980au, gwelwyd cynnydd aruthrol mewn gweithgynhyrchwyr cyfrifiadura. Ychydig gannoedd yn unig roedd y cydrannau ar gyfer adeiladu cyfrifiadur rhad yn ei gostio, a thyfodd y galw’n sylweddol.

Y PERQ oedd un o’r gweithfannau graffigol cynharaf. Cafodd ei ddylunio gan Three Rivers Computer Corporation, a enwyd ar ôl y cydlifiad o afonydd yn Pittburgh, lle’r oedd sylfaenwyr y cwmni’n arfer gweithio ym Mhrifysgol Carnegie Mellon. Roedd International Computers Limited (ICL), cwmni o Brydain a sefydlwyd ym 1968, yn gyfrifol am y gwaith o ddosbarthu yn Ewrop ac am rywfaint o’r gweithgynhyrchu. 

Adeiladwyd y PERQ mewn oes pan oedd iaith raglennu Pascal yn boblogaidd. Mae Pascal yn aelod o deulu ALGOL. Fe'i dyluniwyd fel fersiwn syml ac ychydig yn ehangach o ALGOL ar gyfer addysgu, ond daeth yn boblogaidd mewn diwydiant oherwydd bod nifer fawr o fyfyrwyr wedi graddio yn gwybod amdano.

Er mwyn annog pobl i fabwysiadu’r iaith, ysgrifennwyd ‘pecyn trosglwyddo’ yn Zurich. Roedd yn cynnwys peiriant syml, rhithwir a oedd yn seiliedig ar bentyrru ac a oedd yn gweithredu set gyfarwyddyd o'r enw 'p-code'. Oherwydd bod y casglwr wedi’i ysgrifennu mewn Pascal, yr unig beth a oedd angen ei wneud i sicrhau bod y casglwr a phob rhaglen Pascal arall yn gweithio ar blatfform newydd oedd trosglwyddo’r peiriant rhithwir. Gellir ystyried peiriant rhithwir Java yn ddisgynnydd uniongyrchol o beiriant rhithwir p-code. Mae’r ddau’n seiliedig ar bentyrru, sy’n golygu bod yr holl weithrediadau’n llwytho data o’r cof i’r pentwr neu’n trin elfennau uchaf y pentwr. Er enghraifft, roedd modd ychwanegu dau rif at ei gilydd mewn peiriant rhithwir p-code gyda dilyniant o dri chyfarwyddyd. Byddai’r ddau gyntaf yn llwytho’r gwerthoedd ar y pentwr, a byddai'r trydydd yn disodli'r ddwy elfen uchaf ar y pentwr yn ôl eu swm.

Roedd gan y PERQ saernïaeth wedi’i microgodio, lle’r oedd y cyfarwyddyd cyhoeddus a osodwyd yn debyg iawn i p-code. Roedd hyn yn golygu bod cynnal côd Pascal yn syml iawn gan fod modd cynnal allbwn y casglwr symudol yn uniongyrchol. Roedd y system weithredu a theclynnau eraill wedi’u hysgrifennu’n Pascal.

Roedd angen dau PERQ ar Brifysgol Cymru, Abertawe ar ôl iddynt gael eu rhyddhau. Cafodd yr Athro Chen rywfaint o’i brofiad cyntaf o raglennu graffig ar un ohonynt.

David Chisnall

NeXT

Ym 1984, gwnaeth Steve Jobs, cyd-sylfaenydd Apple Computers ymddeol ar ôl brwydr fer dros bŵer gyda’r Prif Swyddog Gweithredol newydd, John Sculley. Ffurfiodd NeXT gyda’r bwriad o adeiladu’r cyfrifiadur perffaith.

Ym 1988, rhyddhaodd y cwmni’'r NeXT Cube - ciwb du magnesiwm un droedfedd. Galwyd y peiriant hwn yn ‘gyfrifiadur rhyngbersonol’ gan Steve Jobs a oedd yn credu mai dyma’r cam datblygu nesaf ar ôl y cyfrifiadur personol. Fe’i dyluniwyd gyda rhwydweithio mewn cof, ac roedd yn hanfodol wrth greu’r we fyd-eang pan ysgrifennodd Tim Berners-Lee y porwr cyntaf ar y we ar ei giwb, a’i ddefnyddio i gynnal y porwr cyntaf ar y we.

Roedd y ciwb yn eithaf prin yn yr oes honno oherwydd nad oedd gyriant disg hyblyg na gyriant disg caled ganddo, er bod modd dewis ychwanegu gyriant disg caled. Gwnaeth disg magneto-optegol ddisodli’r ddau ohonynt. Roedd y disg hwn yn storio 256MB o ddata ar ddisg symudadwy - swm enfawr mewn oes pan oedd disgiau caled 40MB yn gyffredin. Roedd hyn yn seiliedig ar y syniad y byddai defnyddwyr yn storio’u holl ddata ar ddisg ac yn gallu ei ddefnyddio ar unrhyw beiriant.

Oherwydd pris uchel y ciwb ($6,500 ym 1988 sef tua £6000 heddiw), nid oedd yn rhy lwyddiannus. Ym 1990, cafodd y NeXTstation ei gyflwyno fel dewis rhatach. Roedd hyn ychydig yn fwy confensiynol, a oedd â gyriant caled mewnol a gyriant hyblyg 3.5” yn hytrach na’r gyriant magneto-optegol. Roedd hefyd yn llai o faint ac roedd ar ffurf llechen a oedd yn mynd o dan fonitor.

Yn debyg i’r ciwb, roedd y peiriant yn cynnwys dangosydd cydraniad uchel a oedd yn cefnogi cydraniadau o 1120x832 mewn pedwar arlliw o lwyd neu 4,096 o liwiau (ar gyfer amrywiolion y lliw), cydraniad nad oedd ar gael ar y rhan fwyaf o gyfrifiaduron cartref am ddegawd arall.  Yn ogystal, roedd yn cynnwys prosesydd signal digidol ar gyfer allbwn sain, gan roi allbwn sain ansawdd CD â phrosesu effeithiau.

Caiff y peiriannau NeXT eu hystyried ymysg y datblygiadau masnachol go iawn cyntaf o'r cysyniad rhaglennu gwrthrych-gyfeiriadol. Roeddent yn defnyddio Objective-C ar gyfer datblygu cymwysiadau. Ysbrydolwyd yr iaith a'r amgylchedd datblygu gan Smalltalk - yr amgylchedd gwrthrych-gyfeiriadol go iawn, a ddatblygwyd yn Xerox PARC. Er bod NeXT wedi rhoi’r gorau i greu caledwedd ar ddechrau’r 90au, byddai’r amgylchedd hwn yn cael ei ddefnyddio’n ddiweddarach ar gyfer WebObjects, sef y fframwaith datblygu cymwysiadau ar y we cyntaf.

Ar ddiwedd y 90au, prynodd Apple NeXT a defnyddio ei system weithredu fel sylfaen Mac OS X, a gellir olrhain nifer o nodweddion o’r system weithredu i’r system hon. Mae'r fframwaith datblygu a grëwyd yn wreiddiol gan NeXT ar gyfer eu gweithfannau, a’i fireinio’n ddiweddarach ar y cyd â Sun, bellach wedi ei frandio fel Cocoa gan Apple.

David Chisnall

HoCC Facebook   HoCC Twitter  HoCC Flikr  HoCC Instagram

Blaen Nesaf