LlGDC @ 50Llyfrgell Glowyr De Cymru yn Hanner Cant
1. ‘Three Miners on a Bench’ gan Cyril Ifold
Mae’r paentiad hwn yn croesawu ymwelwyr â Llyfrgell Glowyr De Cymru pan fyddant yn cyrraedd y dderbynfa. Roedd yr arlunydd, Cyril Ifold, yn löwr a dynnodd ar ei brofiad o'r diwydiant mwyngloddio a thirwedd De Cymru er mwyn creu ei baentiadau. Mae gennym nifer o'i weithiau yn ein casgliad celf.
Dadorchuddiwyd y paentiad hwn gan Gadeirydd Tower Colliery, Tyrone O’Sullivan, ar 20fed Hydref 2006, mewn seremoni i nodi adleoli’r llyfrgell i Coach House Hendrefoelan.
2. Blwch Casglu Taith Band Arian 1926 Nine Mile Point
Rhwng mis Mai a mis Tachwedd 1926, yng nghanol y Streic Cyffredinol, aeth Band Arian Nine Mile Point ar daith, gan gasglu arian ar gyfer eu cymuned. Disgrifiodd Elvert Evans o Gwmfelinfach sut gwnaethon nhw gerdded i Lundain ar hyd arfordir deheuol Lloegr, gan dderbyn lifft pan oedden nhw’n gallu ac roedden nhw’n canu ar y strydoedd, mewn neuaddau Eglwysi neu mewn neuaddau Llafur ar y ffordd.
Casglodd y dynion dros £2,000 i’w anfon yn ôl er mwyn cynnal y ceginau cawl. Daeth y band â’i taith i ben drwy ganu yng nghyngerdd yr ‘Arddangosiad Unedig Mawr’ yn Neuadd Albert ym mis Tachwedd 1926, a oedd wedi’i threfnu gan Lansbury’s Labour Weekly.
3. A Woman’s Work is Never Done (1957) gan Elizabeth Andrews
Roedd Elizabeth Andrews yn actifydd gwleidyddol dylanwadol Cymreig ar ddechrau'r 20fed ganrif. Hi oedd Trefnydd Menywod cyntaf y Blaid Lafur yng Nghymru, amlygodd anghenion menywod y dosbarth gweithiol a helpodd i gyflwyno diwygiadau allweddol a wnaeth leihau'r baich cadw tŷ mewn cymunedau glofaol a gwella gwasanaethau mamolaeth a gofal plant.
Roedd Elizabeth ar flaen y gad yn ymgyrchu i gyflwyno baddonau ar bennau pyllau mewn glofeydd i leddfu'r pwysau ar fenywod yn y cartrefi. Cyn i faddonau gael eu cyflwyno ar bennau pyllau, roedd angen swm enfawr o waith tŷ i lanhau'r brynti diddiwedd a oedd yn dod o'r pyllau glo a pharatoi a chario baddonau tun i alluogi pob glöwr i ymolchi ar ôl ei sifft. Talodd menywod yn ddrud am eu rôl ddi-dâl wrth wasanaethu galwadau'r diwydiant glo. Roedd lludded rhoi genedigaeth a llafur domestig yn sylweddol, ac mewn rhai ardaloedd mwyngloddio yn ne Cymru, roedd cyfraddau marwolaeth menywod a oedd yn gweithio yn y tŷ yn uwch na rhai'r dynion a oedd yn gweithio yn y pyllau glo. Yn y diwedd, roedd yr ymgyrch am faddonau ar bennau pyllau'n llwyddiannus, a daethant yn orfodol ym 1924. Yn A Woman’s Work is Never Done (1957), mae Elizabeth yn disgrifio hanes yr ymgyrch hon, ei gyrfa ehangach fel actifydd gwleidyddol, a heriau parhaus ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn dilyn sefydlu’r GIG.
4. Llun o George Brinley Evans
Roedd George Brinley Evans (1925-2022) yn gyn löwr, arlunydd ac awdur o Banwen yng Nghwm Dulais. Roedd yn angerddol dros addysg oedolion ac yn gyfaill hirsefydlog i Lyfrgell y Glowyr, gan roi llawer o lyfrau a gweithiau celf i ni dros y blynyddoedd.
Dewiswyd yr eitem hon gan Mandy Orford, Cynorthwy-ydd Llyfrgell yn Llyfrgell Glowyr De Cymru.
“George was a dear friend to me and a massive supporter of the library and adult education, particularly at the DOVE Workshop. It's hard to think of Banwen and the DOVE without thinking of George and his huge contribution to local history, and his generosity to the whole community”. Mandy Orford
Ac yntau'n 14 oed, bu'n gweithio ym Mhwll Glo Banwen cyn ymuno â'r fyddin bedair blynedd yn ddiweddarach i wasanaethu yn Burma gyda'r Cychod Modur 856, yn gyntaf gyda 15fed Corfflu India ac yna gyda’r 12fed Fyddin.
Dychwelodd George i Bwll Glo Banwen ar ôl y rhyfel, gan briodi Peggy Jones a magu teulu gyda hi. Ar ôl colli llygad mewn damwain ar Ddrifft Cernyw (Cornish Drift), dechreuodd George ymarfer fel cerflunydd ac arlunydd, yn ogystal ag ysgrifennu sgriptiau i deledu annibynnol a'r BBC.
Ysgrifennodd dri llyfr am ei fywyd a'i brofiadau ac mae pob un ohonynt ar gael yn Llyfrgell Glowyr De Cymru.
5. Baner Ardal Nation Union of Mineworkers De Cymru
'Baneri yw cof mudiad.' Gwyn Alf Williams, Hanesydd.
Gwyddys fod o leiaf 50 o faneri glowyr wedi bodoli yn Ne Cymru a chedwir llawer ohonynt yn Llyfrgell Glowyr De Cymru, Prifysgol Abertawe. Dros y blynyddoedd, defnyddiwyd y baneri mewn protestiadau, gorymdeithiau ac arddangosiadau, gan gynnwys yn ystod streiciau'r glowyr ym 1972, 1974 a 1984-85.
Mae'r baneri'n cynnig ffynhonnell gyfoethog o hanes cymdeithasol a mewnwelediad unigryw a phwerus i hanes a thraddodiadau pobl Cymru.
Gwnaed Baner Ardal NUM De Cymru yn 1955. Anogodd yr undeb gyfrinfeydd i brynu baneri tebyg, gan beri bod gan sawl cyfrinfa faneri unigol neu un ar y cyd i orymdeithio y tu ôl iddi mewn gŵyl flynyddol neu mewn gwrthdystiadau. Ythemâu sydd i'w gweld yn holl faneri'r glowyr yw'r ymdrech dros waith, sosialaeth, rhyngwladoliaeth a heddwch byd.
A'r hen Faner Ardal wedi ei threulio wrth gael ei defnyddio, cafwyd baner newydd yn 1975. Dyluniwyd y faner gan aelod o Gyfrinfa Dulais a Maerdy ac mae ganddi'r slogan, 'Etifeddwn y gorffennol, adeiladwn y dyfodol trwy sosialaeth'. Caiff y faner ei defnyddio'n gyson o hyd. I ddysgu mwy am y baneri a gedwir yn Llyfrgell Glowyr De Cymru, gweler ein harddangosfa ar-lein:
Gwawrio Oes Newydd - Arddangosfa Baner · Croeso · Swansea University Digital Collections
6. Hysbysiadau Llyfrgell Neuadd Les a Sefydliad Aberaman
Sefydliadau a neuaddau lles Glowyr oedd ffocws bywyd addysgol, diwylliannol a chymdeithasol cymunedau'r pyllau glo. Cafodd sefydliadau eu hariannu drwy gyfraniadau o gyflogau'r glowyr yn aml gyda chefnogaeth perchnogion y pyllau glo a Chronfa Les y Glowyr. Roeddent yn cynnig gweithgareddau hamdden, gydag ystafelloedd biliards, neuaddau cyhoeddus, llyfrgelloedd a sinemâu.
Helpodd llyfrgelloedd ac ystafelloedd darllen y Sefydliad weithwyr i’w haddysgu eu hunain.
Dyma rai o hysbysebion llyfrgell Neuadd Les a Sefydliad Aberaman.
Mae’r hysbysiadau hyn yn cael eu harddangos yn Llyfrgell Glowyr De Cymru.
7. LP finyl Shoulder to Shoulder
Chwaraeodd cerddoriaeth ran bwysig mewn gweithgareddau codi arian yn ystod Streic y Glowyr 1984-85, gyda cherddorion yn perfformio mewn cyngherddau budd-dal ledled y wlad.
Mae’r albwm hwn, a gynhyrchwyd i godi arian ar gyfer y glowyr oedd ar streic, yn arbennig o unigryw gan ei fod yn cyflwyno cydweithrediad rhwng y South Wales Striking Miners Choir (a ffurfiwyd o gorau’r Creunant, Glyn-nedd ac Onllwyn) a’r band diwydiannol Test Dept o Lundain, yn adnabyddus am eu palet cerddorol arbrofol sy'n deillio o ddeunyddiau a achubwyd.
Mae’r ddau grŵp yn cyfrannu traciau yn unigol tan y darn ‘Comrades’, sy’n gweld cymysgedd arloesol o ganu corawl ac effeithiau ac offerynnau taro diwydiannol. Mae'r albwm hefyd yn nodedig am ei waith celf beiddgar wedi'i ysbrydoli gan constructivism a ddyluniwyd gan Brett Turnbull/Test Dept, yn seiliedig ar y poster a oedd yn cyd-fynd â thaith genedlaethol Shoulder to Shoulder.
8. Bathodynnau pin Ian Isaac
Yn 1974, dechreuodd Ian Isaac gweithio fel gweithiwr wyneb dilyn ei dad, taid a hen daid cyn fe. Cyn bo hir ar ôl dechrau gweithio yn y pwll glo, roedd Ian wedi cyflwyno cais am le yng ngholeg Ruskin ac yna cafodd ei dderbyn gyda bwrsariaeth gan Gyngres yr Undebau Llafur. Cafodd Ian gynnig i astudio'r Gyfraith yn Aberystwyth ar ôl casglu ei ddiploma Astudiaethau Cymdeithasol, ond ar ôl bod ar wahân i'w deulu, dewisodd weithio fel trefnydd undeb llafur. Erbyn iddo droi'n 26 oed, cafodd ei ethol yn ysgrifennydd amser llawn cangen Undeb Cenedlaethol y Glowyr (UCG) ym Mhwll Glo St John's.
Rhodded Ian Isaac yn garedig iawn, sawl bocs o lyfrau a deunyddiau sy'n gysylltiedig â mwyngloddio i'r Llyfrgell Glowyr De Cymru yn fis Rhagfur 2022. Mae rhodd hwn yn cynnwys amrywiaeth wych o fathodynnau pin. Mae'r bathodynnau hyn yn dangos cefnogaeth barhaus Ian i'r glowyr, yr UCG ac undebau eraill.
9. William Hazell’s Gleaming Vision (2014) gan Alun Burge
Mae llyfr Alun Burge yn manylu ar hanes William Hazell, glöwr a chwaraeodd ran bwysig yn natblygiad Cymdeithas Gydweithredol Ynysybwl ac a ddaeth yn awdur toreithiog ar y pwnc o gydweithio yn ystod dechrau i ganol yr ugeinfed ganrif. Mae Llyfrgell Glowyr De Cymru yn cadw amrywiaeth o ddeunyddiau sy’n ymwneud â’r mudiad cydweithredol yng Nghymru, gan gynnwys Casgliad Cydweithredol dynodedig, sy’n darparu adnodd gwerthfawr ar gyfer astudio’r traddodiad gwleidyddol pwysig hwn.
Mae cysylltiadau Alun â Llyfrgell y Glowyr yn ymestyn yn ôl i’r 1970au, pan oedd yn rhan o dîm yn cynnal cyfweliadau hanes llafar gyda dynion a merched y meysydd glo. Mae wedi bod yn ffrind ac yn gefnogwr i'r llyfrgell ers hynny.
10. Cerdyn Nadolig Grŵp Cymorth y Glowyr
Yn ystod streic y glowyr ym 1984-85, ymunodd miloedd o fenywod o gymunedau glofaol Cymru, Lloegr a'r Alban ag ymdrech y streic drwy sefydlu grwpiau cymorth. Cyfunodd grwpiau lleol i ffurfio grŵp cymorth cenedlaethol unedig o'r enw 'Women Against Pit Closures' (WAPC). Helpodd y menywod hyn i sefydlu rhwydwaith o geginau cawl a chanolfannau dosbarthu parseli bwyd yn gyflym gan fwydo dros 140,000 o lowyr a'u teuluoedd pan oedd y streic ar ei hanterth, gan ffurfio'r hyn a elwid yn 'system les amgen'. Ymunodd menywod hefyd â'r llinell biced, gan drefnu ralïau, a chodi miloedd o bunnoedd drwy ddigwyddiadau codi arian.
Cynhyrchwyd y cerdyn Nadolig hwn gan Grŵp Cymorth Glowyr Cymoedd Nedd, Tawe a Dulais ym 1985. Roedd y dyluniad hefyd yn ymddangos ar rifyn mis Rhagfyr o’u cylchgrawn hunangyhoeddedig Seren y Cymoedd [The Valleys’ Star], a gynhyrchwyd ganddynt yn ystod blynyddoedd y streic. Ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae undebau llafur a sefydliadau gwleidyddol dosbarth gweithiol eraill wedi defnyddio cardiau Nadolig pwrpasol fel modd o gyfleu eu negeseuon cyfiawnder a gobaith eu hunain.