LlGDC @ 50Llyfrgell Glowyr De Cymru yn Hanner Cant

11. Detholiad o bamffledi Gwrth-Apartheid o Gasgliad Hanef Bhamjee  

Mae pamffledi Hanef Bhamjee yn tystio i’w frwydr ddegawdau o hyd yn erbyn apartheid, gan ddechrau fel actifydd yn yr African National Congress (ANC) yn Ne Affrica ac yn ddiweddarach yng Nghymru, ei gartref mabwysiedig, fel sylfaenydd ac Ysgrifennydd Mudiad Gwrth-Apartheid Cymru.  
 

Tyfodd Hanef i fyny yn Pietermaritzburg, ond gadawodd Dde Affrica yn 19 oed yn dilyn erledigaeth gan awdurdodau'r wladwriaeth am ei gysylltiad â'r ANC. Bu’n darlithio mewn cymdeithaseg ym Mhrifysgol Caerdydd yn y 1970au ac yn ddiweddarach symudodd at yrfa yn y gyfraith, yn arbenigo mewn mewnfudiad. Fel Ysgrifennydd Mudiad Gwrth-Apartheid Cymru, helpodd i adeiladu clymblaid eang o gefnogaeth ar draws llinellau gwleidyddol, ieithyddol a chrefyddol yng Nghymru.  
 

Mae Casgliad Hanef Bhamjee, a gedwir yn Llyfrgell Glowyr De Cymru, yn cynnwys amrywiaeth o ffynonellau sy’n ymwneud â sosialaeth a’r traddodiad radical du, ac mae’n ategu casgliadau eraill yn y llyfrgell sy’n dogfennu gweithredaeth Gwrth-Apartheid yng Nghymru.  

12. Cofnodion Meddygol Maes Glo De Cymru, c.1890-1948 gan Anne Borsay a Sara Knight  

Daeth twf y diwydiant mwyngloddio yn Ne Cymru â risgiau sylweddol o afiechydon galwedigaethol ac anafiadau i weithwyr, yn ogystal â chaledi domestig i’w teuluoedd. O’r herwydd, roedd materion diogelwch, darpariaeth gofal iechyd a lles yn aml ar flaen y gad ym mrwydrau undebau llafur a brwydrau gwleidyddol eraill y dosbarth gweithiol.

Mae’r canllaw anodedig hwn, a gyhoeddwyd yn 2007, yn ganlyniad i brosiect a ariennir gan Ymddiriedolaeth Wellcome i nodi cofnodion meddygol yng Nghasgliad Maes Glo De Cymru, a gedwir yn Llyfrgell Glowyr De Cymru ac Archifau Richard Burton. Roedd y prosiect yn cynnwys cydweithrediad rhwng yr Ysgol Gwyddor Iechyd a'r Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’r canllaw yn ymateb i ddiddordeb cynyddol mewn astudio hanes meddygol ac yn amlygu’r deunyddiau niferus yn ein casgliadau sy’n ymwneud ag iechyd galwedigaethol a chymunedol.  

13. Llyfr ‘Prints of the Spanish Revolution of July 1936’ 

Llyfr dyfrlliw a grëwyd gan yr arlunydd Andalusaidd José Luis Rey Vila yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen yw ‘Estampas de la revoluciòn Española’. Gyda chynulleidfa ryngwladol mewn golwg, mae sylwadau ar bob llun mewn tair iaith: Ffrangeg, Saesneg a Sbaeneg. Cyn Guernica gan Pablo Picasso, roedd yr albwm hwn ymhlith y darnau celf fwyaf adnabyddus yn ymwneud â'r Rhyfel Cartref. Er mwyn amddiffyn ei deulu yn Siviglia, arwyddodd yr artist bob darn o’i waith gyda’r ffugenw ‘SIM’. 

 

14. Paentiad o Man Gwaredu Banwen gan George Little 

Yn Llyfrgell Banwen, sy’n gangen fechan o Lyfrgell Glowyr De Cymru, mae gennym ddarlun gan George Little sy’n darlunio Man Gwaredu Banwen, a elwir yn gyffredin fel y 'screens', y gellir ei weld o Weithdy DOVE. 

Mae George Little yn cofio “Treuliwyd y rhan fwyaf o fy mywyd mewn ardaloedd diwydiannol ac o'u cwmpas ac o'r rhain rwyf wedi dod o hyd i'r ysgogiad ar gyfer fy mhaentiadau a'm lluniau. Daeth y lliw, y gwead a’r siâp a ddaeth yn sgil dadfeiliad y diwydiannau copr, glo, dur a llongau, lle’r oeddent yn ffynnu a lle’r oeddent yn dirywio, yn ffynhonnell fy nghyfansoddiadau. Mae'r ardaloedd hyn bellach wedi'u glanweithio ac adeiladu arnynt ac mae nodweddion di-gymeriad wedi disodli'r harddwch hyll. Mae fy mhrif ffynhonnell syniadau wedi diflannu i raddau helaeth ac felly rwy’n edrych am bynciau newydd ac mae antur arall mewn peintio yn dechrau i mi.” 

(Wedi'i ddyfynnu yn George Little 1927-2017, Attic Galley. https://www.atticgallery.co.uk/index.php/our-artists/george-little.html) 

Ganed George Little yn Danygraig, Abertawe, ym 1927, gan fynychu Ysgol Danygraig ac Ysgol Ramadeg Abertawe. Aeth i Ysgol Gelf Abertawe ac Ysgol Arlunio Ruskin, Prifysgol Oxford, ac wedi hynny bu'n dysgu mewn ysgolion a cholegau celf ac yn olaf yng Ngholeg Prifysgol Abertawe. 

Yn ystod ei flynyddoedd olaf yn Abertawe, bu'n dysgu i AABO (Adran Addysg Barhaus Oedolion); lle bu’n arwain dosbarthiadau ym Mhrifysgol Gymunedol y Cymoedd (CUV) yng Ngweithdy DOVE ym Manwen yng Nghwm Dulais. 

Bu farw George Little ym mis Mehefin 2017 yn 89 oed. Roedd yn arlunydd ac yn ffigwr poblogaidd yn y byd celf. 

15. Stories of Solidarity (2018) gan Hywel Francis 

Stories of Solidarity (2018) oedd y llyfr olaf a gyhoeddwyd gan y diweddar Athro Hywel Francis. Mae’n cynnwys detholiad o rai o erthyglau ac areithiau gorau Hywel dros bum degawd, gan adlewyrchu ei waith fel hanesydd, addysgwr oedolion ac ymgyrchydd gwleidyddol. Mae’r drafodaeth yn amrywio o Gwm Dulais ei enedigol i’r llwyfan rhyngwladol, gan gyfleu a dathlu’r cysylltiadau undod sydd wedi bodoli ymhlith cymunedau glofaol De Cymru a rhwng y cymunedau hynny a’r byd ehangach. Ymhlith y pynciau mae streic Anthracite ‘anghofiedig’ 1925, cysylltiadau rhwng Paul Robeson ac actifiaeth Gwrth-Apartheid yng Nghymru, rôl menywod a’r gymuned LHDT yn Streic y Glowyr 1984-85, a'r ymgyrch a arweiniodd at Ddeddf Gofalwyr (Cyfle Cyfartal) (2004).

Fel yr ysgrifenna Hywel, 

‘It has always been my view that we should never apologise for celebrating communities which place great store on solidarity. That act of celebration should define us.’ (p.17) 

Mewn erthygl ar bwysigrwydd hanes llafar, mae Hywel hefyd yn myfyrio ar y modd y mae ‘straeon undod’ o’r fath yn cael eu casglu a’u cadw; gyda thystiolaeth bersonol yn aml yn datgelu ‘byd cudd’ y tu hwnt i hepgoriadau ac afluniadau dogfennau a naratifau swyddogol. Roedd Hywel yn un o sylfaenwyr a chefnogwyr Llyfrgell Glowyr De Cymru ers amser maith, ac mae ei hanes wedi’i blethu â llawer o’r straeon hyn, gan chwarae rhan yn eu casgliad a’u cadwraeth barhaus, nid yn lleiaf trwy ei harbenigedd mewn hanes llafar. 

16. Civil Defence Handbook No.10 - Advising the Householder on Protection Against Nuclear Attack (1963), pamffled gan y Swyddfa Gartref 

Ni fwriadwyd i’r cyhoeddiad hwn gael ei ddefnyddio gan y cyhoedd: roedd cyfarwyddiadau pellach i’w trosglwyddo dros y radio a chan y gwasanaethu brys. Ymhlith y penodau diddorol a goleuedig mae: “Basic Facts”, “Protective Measures”, “Emergency Equipment and Supplies” a “Life Under Fall-Out Conditions”. Mae “What Happens When the H-Bomb Explodes” yn rhoi cyngor fel “gorwedd i lawr y tu ôl i wal frics” ac yn cyflwyno’r argraff amlwg i’r darllenydd ei bod yn eithaf possible goroesi ymosodiad niwclear. 

Nod y disgrifiad a ddiogelu tai rhag y ffrwydrad drwy beintio’r ffenestri’n wyn a rhag yr holl ymbelydredd drwy guddio o dan y grisiau, yw tawelu meddyliau’r darllenydd. Search hynny, os yw’r darllenydd yn ddigon anffodus i fyw mewn un, ystyrir bod byngalos yn hynod agored i newed, gan gynnig lloches wael. O safbwynt modern, mae’r naratif ychydig yn rhy siriol gydag adrannau o hiwmor anfwriadol. 

[Dewiswyd yr eitem gan Joanne Waller, Uwch Gynorthwyydd Llyfrgell yn Llyfrgell Glowyr De Cymru.] 

17. Baner Grŵp Cymorth Castell-nedd, Dulais a Chwm Tawe

Crëwyd y faner hon ym 1984 ac roedd yng ngofal Hefina Headon, un o’r prif weithredwyr yn y grŵp cymorth menywod ar gyfer Cymoedd Castell-nedd, Dulais a Tawe. Mae’r faner bellach yng ngofal Llyfrgell Glowyr De Cymru. 

Yn ystod Streic y Glowyr 1984-85, ymunodd miloedd o fenywod o feysydd glo Cymru â’r ymdrech streic drwy sefydlu grwpiau cymorth. Buont yn trefnu ceginau cawl a chanolfannau dosbarthu parseli bwyd, yn ogystal ag ymuno â llinellau piced, a chodi arian trwy drefnu amrywiol weithgareddau codi arian. Sefydlwyd grwpiau tebyg mewn rhanbarthau glofaol eraill ym Mhrydain, gyda menywod o wahanol rannau o'r wlad yn cefnogi ei gilydd ac yn cyfnewid syniadau. 

Yn ystod cyfweliad gyda Dr Hywel Francis, fe soniodd Hefina Headon am yr amser yr aethon nhw i Barnsley a gorymdeithio gyda 10,000 o fenywod. 

“…we saw what the women in Barnsley were doing and how they had rallied, and they told us how they were managing and raising funds. It was good to hear all this, it opened our eyes, and we came back feeling good…” (SWCC AUD / 510 Cyfweliad gyda Hefina Headon). 

18. Het a chot Gwyn Thomas 

Cymynroddwyd Casgliad Gwyn Thomas i Lyfrgell Glowyr De Cymru ar ei dengmlwyddiant yn 1983. Mae'r casgliad yn cynnwys llyfrgell bersonol yr awdur a'r darlledwr enwog Gwyn Thomas, gan gynnwys argraffiadau cyntaf o'i weithiau, yn ogystal ag arteffactau eraill megis ei wobrau llenyddol a phosteri o gynyrchiadau amrywiol o'i ddramâu. Bydd het a chot Gwyn yn gyfarwydd i wylwyr o’i ddarllediadau teledu o’r 1960au a’r 1970au, wrth iddo fentro allan i ohebu o dirweddau De Cymru gyda’i hiwmor sych nodweddiadol a’i ddawn i arsylwi cymdeithasol. Pan bortreadodd Anthony Hopkins Gwyn Thomas yn y biopic BBC Selected Exits (1993), ail-greodd yr olwg eiconig hon. 

19. Waste of our Time: Pictures of a Changing Valley 

Ym 1983, cynhyrchodd Llyfrgell Glowyr De Cymru ffilm ddogfen yn cynnwys aelodau o’r gymuned o Gwm Dulais. Yn Waste of Our Time: Pictures of a Changing Valley, bu trigolion lleol yn trafod pentrefi Banwen, Onllwyn a Blaendulais ac effeithiau cloddio glo ar y dirwedd, pobl a bywyd gwyllt.

Yn 2021, dychwelodd Llyfrgell Glowyr De Cymru i’r un cymunedau i ymchwilio i sut roedd pethau wedi newid a chynhyrchodd y rhaglen ddogfen ddilynol Waste of Our Time: Renewing Pictures of a Changing Valley

Gallwch weld y ddwy raglen ddogfen yma: https://www.swansea.ac.uk/cy/llyfrgelloedd/llyfrgell-y-glowyr-de-cymru/arddangosfeydd-ymchwil/

20. Map yn dangos tarddiad gwirfoddolwyr y Frigâd Ryngwladol yn Ne Cymru 

Mae'r eitem hon o'n casgliad posteri yn dangos map o Dde Cymru a mannau tarddiad y dynion a ymladdodd dros y Brigadau Rhyngwladol yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen 1936-39. Mae'r ardal sydd wedi'i nodi o fewn y llinell las yn cynrychioli Meysydd Glo De Cymru, y rhanbarth a gynhyrchodd y rhan fwyaf o'r gwirfoddolwyr. O'r 206 Brigadydd Rhyngwladol o Gymru, roedd dros eu hanner yn lowyr.

Bu cymunedau glofaol hefyd yn arbennig o weithgar yn ymgyrch Aid Spain yn ystod y Rhyfel Cartref, gan gyfrannu arian, bwyd, a chyflenwadau hanfodol eraill i gynorthwyo achos y Gweriniaethwyr, yn ogystal â helpu i gefnogi plant o Wlad y Basg a symudwyd i Brydain ym 1937. Roedd rhai o wirfoddolwyr y Frigâd Ryngwladol, yn enwedig y rhai o Abercraf a Dowlais, yn perthyn i gymunedau mudol Sbaenaidd De Cymru, ac yn feibion i wŷr a menywod Sbaenaidd a oedd wedi teithio i Gymru ar gyfer gwaith yn gynharach yn yr ugeinfed ganrif. 

Cewch fwy o wybodaeth ar ein blog yma: https://tinyurl.com/4a987vs4