LlGDC @ 50Llyfrgell Glowyr De Cymru yn Hanner Cant

41. Left Book Club, Handbook for Local Groups (1939) 

Cafodd y Left Book Club ei sefydlu ym mis Mai 1936 gan y cyhoeddwr Victor Gollancz. Ei nod oedd adfywio'r asgell chwith ym Mhrydain yn ystod cyfnod pan oedd bygythiad cynyddol gan ffasgiaeth ac roedd ailarfogi ar gynnydd ledled Ewrop. Yn ei flwyddyn gyntaf, roedd gan y clwb 44,000 o aelodau, a dalodd danysgrifiad ac a gafodd lyfr dewisol unwaith y mis. Nid oedd y llyfrau hyn ar gael i'r cyhoedd ac roeddent yn trafod amrywiaeth eang o bynciau: gwyddoniaeth, gwleidyddiaeth, crefydd, llenyddiaeth a hanes, i enwi ychydig yn unig. Yn ogystal â'u cloriau coch digamsyniol, roedd gan y cyhoeddiadau un ffactor allweddol: roedd gan bob un ohonynt ogwydd a chynnwys asgell chwith amlwg. Roedd yr awduron a gyfrannodd yn cynnwys: George Orwell, Edgar Snow a Clement Attlee. 

 Roedd gan aelodau fynediad hefyd at amrywiaeth o ddarlithoedd, grwpiau darllen a thrafod, a drefnwyd gan yr aelodaeth yn lleol. Ym 1939, cyhoeddwyd y llyfryn ‘Handbook for Local Groups’, gan gynnwys cyngor ac arweiniad ar greu grwpiau lleol newydd, denu aelodau a nodi siaradwyr gwadd. Byddai aelodau newydd yn cael gwybod am eu grŵp agosaf a'u hannog i ddod i gyfarfodydd ac ymuno â'r frwydr arswydus o frys dros heddwch byd-eang a threfn gymdeithasol ac economaidd well, ac yn erbyn ffasgiaeth, drwy feithrin a rhannu gwybodaeth a fyddai'n lledaenu'r penderfyniad i wneud cyfraniad effeithiol at y frwydr hon.  

Daeth gweithrediadau cyhoeddi'r Left Book Club cyntaf i ben ym 1948. Mae gan Lyfrgell Glowyr De Cymru gasgliad bron yn gyflawn o’i chyhoeddiadau. 

42 – Edwin Clark, The Britannia and Conway Tubular Bridges 

Adeiladwyd Pont Britannia, sy'n darparu cyswllt rheilffordd rhwng Ynys Môn a thir mawr Cymru, rhwng 1846 a 1850. Adeiladwyd pont Conwy sy'n llai ac yn gynharach rhwng 1846 a 1849. Roedd y ddwy yn defnyddio technoleg arloesol lle'r oedd y drafnidiaeth yn cael ei chludo o fewn tiwb haearn gyrru neu drawst bocs anystwyth wedi'i gefnogi ar bileri cerrig. Roedd cyfoeswyr yn ystyried bod Pont Britannia yn benodol yn gampwaith peirianneg. 

Pan gwblhawyd y bont yn llwyddiannus, nodwyd yr achlysur drwy gyhoeddi gwaith tair cyfrol gan Edwin Clark, sef y peiriannydd arolygu a oedd yn gyfrifol am adeiladu'r bont. Dyma enghraifft ardderchog o gynhyrchu llyfr yn yr oes Fictoraidd, wedi'i argraffu ar bapur o ansawdd da, gan gynnwys nifer o lin-ysgythriadau, wedi'i rwymo â chlawr caled ag argraff albinaidd o Britannia ar y clawr blaen. Mae'n disgrifio'r broses o godi'r ddwy bont a hefyd y fathemateg a oedd yn sail i hynny - yn llyfr i'r amatur deallus a'r peiriannydd fel ei gilydd. 

Nid yw'r gwaith hwn yn arbennig o brin, ond yr hyn sy'n ddiddorol am y copi yn Llyfrgell Glowyr De Cymru (casgliad Sefydliad Bargoed) yw'r arysgrif ar y papur terfyn blaen: ‘Thomas Ellis Jr / from Saml Homfray Esqre / Tredegar Works’.  Samuel Homfray yw'r ail berson o'r enw hwnnw, mab i Samuel Homfray a sefydlodd waith haearn Tredegar ym 1800. Ef oedd rheolwr y gwaith haearn o 1818 tan 1853. Thomas Ellis, ac yntau’r ail i ddwyn yr enw hwnnw, oedd prif beiriannydd y gwaith haearn o 1828 tan 1854. Roedd yn ddyn diymhongar o dras ddirodres ond â gallu naturiol aruthrol. Mae'n hysbys o ffynonellau eraill fod gan Homfray feddwl mawr ohono (‘a careful, calculating and steady engineer’, oedd ei ddisgrifiad ohono ar achlysur arall), ac mae cyflwyno’r gyfrol ddrud hon iddo yn dyst arall i hyn. 

Nid yw'n hysbys sut daeth y gyfrol hon i feddiant Sefydliad Bargoed, ac yn anffodus Cyfrol II yn unig sydd gan Lyfrgell y Glowyr. 

Gan  Paul R Reynolds

43. Smiling and Splendid Women 

Cynhyrchwyd Smiling and Splendid Women gan Grŵp Hanes Menywod Abertawe a Llyfrgell Glowyr De Cymru ym 1985. Mae'n adrodd hanes chwe mis olaf Streic y Glowyr 1984/85 ac yn amlygu’r rôl bwysig a chwaraewyd gan grwpiau cymorth gwragedd y glowyr wrth gefnogi glowyr ar streic a'u teuluoedd yn ystod y streic 12 mis o hyd. 

Drwy hyd a lled Abertawe, Castell-nedd a Chwm Dulais, bu grwpiau cymorth gwragedd y glowyr yn pacio ac yn dosbarthu miloedd o barseli bwyd, yn trefnu picedi a ralïau torfol, yn casglu arian, yn trefnu partïon Nadolig i blant glowyr ar streic a hyd yn oed yn trefnu meddiannu glofeydd. 

Mae Smiling and Splendid Women yn cofnodi'r gweithredoedd pwysig hyn ac yn dangos nerth ysbryd, cyfeillgarwch a dyfalbarhad y menywod hyn yn ystod cyfnod o ansicrwydd ac adfyd dwys. 

44. Triptych Black Friday gan Andrew Turner 

Ym 1976, adneuodd Undeb Cenedlaethol y Glowyr (Ardal De Cymru) bortread dramatig Andrew Turner o gload allan 1921 gydag Amgueddfa Glowyr De Cymru. Parhaodd y cload allan am dri mis gan effeithio ar filiwn o lowyr ym Mhrydain. Sbardunwyd hyn gan y penderfyniad i ail-breifateiddio'r diwydiant glo ac anfodlonrwydd yr undeb i dderbyn telerau newydd y perchnogion a fyddai'n golygu cynnydd mewn oriau a thorri cyflogau. Dechreuodd y cload allan ar 1 Ebrill 1921 a daeth i ben yn gynnar ym mis Gorffennaf. 

Wythnos ar ôl dechrau’r cload allan, gofynnodd Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr (MFGB) am gefnogaeth aelodau eraill y 'Gynghrair Driphlyg', a sefydlwyd ym 1914 gydag Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd a Ffederasiwn Cenedlaethol y Gweithwyr Trafnidiaeth. Galwodd yr MFGB ar y Gynghrair i gyhoeddi streic rheilffordd a thrafnidiaeth genedlaethol i gefnogi'r glowyr. Fodd bynnag, ddydd Gwener 15 Ebrill 1921, datganodd y Gynghrair na fyddent yn cefnogi cais yr MFGB. Arweiniodd hyn at dorri'r Gynghrair Driphlyg, diwrnod a gafodd ei adnabod ers hynny fel 'Dydd Gwener Du'. 

Mae tri phanel triptych Andrew Turner yn dangos cydsafiad, brad a gorchfygiad. Yn 2010, cafodd y Triptych ei fenthyca i Amgueddfa Glo Genedlaethol Lloegr ar gyfer arddangosfa o waith Andrew Turner o'r enw, The Pits & The Pendulums - Coal Miners versus Free Markets. I gael rhagor o wybodaeth am gload allan 1921, ewch i'r arddangosfa ar-lein - Dydd Gwener Du a Chload Allan 1921 - a ddatblygwyd mewn partneriaeth ag Archifau Richard Burton. 

45. Tystysgrif a gyflwynwyd i Annie Powell, cynghorydd a maer Rhondda 

Ganwyd Annie Powell i deulu Cymraeg yn Ystrad, Y Rhondda, ym 1906. A hithau'n athrawes yng Nghwm Rhondda, gwelodd y tlodi a'r caledi a dioddefwyd gan deuluoedd y pyllau glo a'r gweithwyr di-waith yn ystod y 1920au a'r 1930au. I ddechrau, arweiniodd y profiadau hyn ati'n ymuno â'r Blaid Lafur, ond ar ôl cyfnod o ddarllen ac ymddiddori mewn damcaniaeth wleidyddol, penderfynodd ymuno â'r Blaid Gomiwnyddol ym 1938.   Roedd cefnogaeth sylweddol i Gomiwnyddiaeth yn y Rhondda yn ystod y cyfnod hwn, daeth ymgeisydd y Blaid Gomiwnyddol yn agos iawn at guro ymgeisydd y Blaid Lafur yn Etholiad Cyffredinol 1945. Er i Gomiwnyddiaeth barhau'n gryf yn yr undebau llafur, gwnaeth leihau fel grym etholiadol yn y 1950au. Serch hynny, llwyddodd Annie i fynd yn groes i'r tueddiadau hyn ym maes llywodraeth leol. Cafodd ei hethol i Gyngor Bwrdeistref Y Rhondda ym 1955 yn gynghorydd ar gyfer Penygraig. Gwnaeth ei gwaith o feithrin ymddiriedaeth a pharch y gymuned leol ei helpu i oresgyn rhagfarn etholiadol wrth-gomiwnyddiaeth a bu'n gwasanaethu fel cynghorydd am bron tri deg o flynyddoedd. 

Yn ystod yr amser hwn, bu'n arbennig o weithgar mewn ymgyrchoedd i wella cyflwr tai, gwasanaethau iechyd, addysg feithrin a phensiynau yn Y Rhondda. Gwnaeth ymyrryd hefyd i roi terfyn ar wahaniaethu hiliol mewn busnesau lleol. Ym 1979, cafodd ei hethol yn Faer Y Rhondda, yr unig Gomiwnydd i gael ei ethol yn faer yng Nghymru. Pan fu farw ym 1986, daeth dros 700 o bobl i'w hangladd. 

46. Casgliad Ursula Masson

Hanesydd a ffeminydd Cymreig oedd Ursula Masson (1945-2008). Ar ôl graddio o Brifysgol Keele gydag MA, daeth yn ddarlithydd Hanes ym Mhrifysgol Morgannwg o 1994. Roedd ganddi angerdd dros hanes cymdeithasol a gwleidyddol menywod Cymru, gan amlygu'r angen dybryd i gadw cofnodion yn ymwneud â'r hanes hwn cyn iddynt eu colli am byth. Felly, ar ôl derbyn cyllid i ddogfennu hanes y Mudiad Rhyddid Menywod yn Ne Cymru, llwyddodd Ursula i gyd-sefydlu Archif Menywod Cymru yn 1997. Bu hefyd yn gweithio gyda Gwasg Honno i gynhyrchu’r gyfres Clasuron Merched Cymru, gan helpu i ddod â gweithiau awduron benywaidd Cymreig o’r 19eg a’r 20fed Ganrif yn ôl i brint.

Mae gennym yr anrhydedd o gartrefu ei chasgliad gwych o lyfrau yn Llyfrgell y Glowyr, gan gynnwys rhai o’i hysgrifau ei hun, fel rhan o Gasgliad Ursula Masson.

47. The Volunteer for Liberty, 1937 – 1938

Cyhoeddwyd Volunteer for Liberty yn Sbaen rhwng 1937 a 1938. Mae'r rhifyn rhwymedig a gedwir yn Llyfrgell Glowyr De Cymru'n cynnwys cofnod cyflawn o'r cronicl hanesyddol hynod bwysig hwn. Volunteer for Liberty oedd cyfnodolyn swyddogol bataliynau Saesneg eu hiaith y Frigâd Ryngwladol, a fu'n ymladd dros achos y Weriniaeth yn ystod Ail Ryfel Annibyniaeth Sbaen, 1936 – 1939, a elwid hefyd yn Rhyfel Cartref Sbaen. Roedd y cwmnïau a oedd yn siarad Saesneg yn cynnwys Lincoln, British, Mackenzie-Papineau a'r 24ain Bataliynau.

Daeth gwirfoddolwyr y Frigâd Ryngwladol o ystod eang o gefndiroedd, gan gynnwys awduron, academyddion, dynion gwaith ac yn achos Cymru, nifer sylweddol o lowyr. Yr un peth a oedd yn gyffredin rhyngddynt oedd eu parodrwydd i beryglu eu bywydau drwy ateb yr alwad i amddiffyn gweriniaeth Sbaen rhag ymgais ffasgaidd Franco (a gefnogwyd gan yr Eidal a'r Almaen) i ddymchwel y broses ddemocrataidd ddilys a'i chanlyniad: y llywodraeth Weriniaethol.

Ysgrifennwyd Volunteer for Liberty ar gyfer y partisaniaid gwleidyddol ymwybodol hyn a chanddynt. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ym Madrid ar 24 Mai 1937, a'r rhifyn olaf, sef y 63ain rhifyn ym Marcelona ar 7 Tachwedd 1938. Roedd ymagwedd dwy ran i'r cyhoeddiad: roedd e'n bapur newydd wythnosol (ac yna'n achlysurol) a oedd yn cynnwys erthyglau golygyddol, newyddion tramor a chartref, llythyrau, cyfweliadau, ffotograffau, mapiau, cartŵns, jôcs a gohebiaeth o'r rhyfel - ond roedd hefyd yn offeryn propaganda pwysig ac yn gymorth i roi hwb i forâl y dynion a'r menywod yr oedd yn cael ei ysgrifennu ar eu cyfer ac a ysgrifennwyd ganddynt.

48. The Pickwick Papers gan Charles Dickens

Nofel gyntaf gan Charles Dickens oedd The Pickwick Papers. Roedd ei gyhoeddwr, Chapman & Hall, wedi gofyn i Dickens ddarparu disgrifiad ar gyfer cyfres o ddarluniau comig gan Robert Seymour a’u cyfuno i greu nofel a ddaeth The Posthumous Papers of the Pickwick Club. Cyhoeddwyd y nofel mewn 19 rhifyn dros 20 mis o fis Mawrth 1836 hyd fis Tachwedd 1837. 

Roedd y rhifyn hwn unwaith yn eistedd ar silffoedd llyfrgell Sefydliad Parc a Dare ym mhentref Treorci, Cwm Rhondda. Roedd nofelau clasurol gan awduron fel Dickens yn boblogaidd ar draws llawer o lyfrgelloedd y sefydliadau sydd bellach yn Llyfrgell Glowyr De Cymru. Tystia’r llyfrgelloedd hyn i fywyd diwylliannol a deallusol rhyfeddol y meysydd glo a fu’n ffynnu yn ystod degawdau cynnar i ganol yr ugeinfed ganrif. Ar wahân i weithiau llenyddiaeth, roeddent yn cynnwys amrywiaeth o destunau yn ymdrin â phynciau fel athroniaeth, gwleidyddiaeth, hanes, celf a'r gwyddorau naturiol. 

  

Mae Do Miners Read Dickens? (2014), hanes Hywel Francis a Sian Williams o Lyfrgell Glowyr De Cymru, yn cymryd ei enw o hanesyn lle “two Swansea University Professors in 1983 looked slightly bemused as they scanned the shelves of the South Wales Miners’ Library. One said to the other, ‘Do miners read Dickens?’”. 

  

I ateb y cwestiwn: roedd y glowyr yn wir wedi darllen Dickens a llawer mwy!

49. Do Miners Read Dickens?

Wedi'i ysgrifennu yn 2014 i nodi 40 o flynyddoedd ers agor Amgueddfa Glowyr De Cymru, mae Do Miners Read Dickens? yn archwilio gwreiddiau a datblygiad y llyfrgell ers iddi gael ei sefydlu ym 1973 hyd heddiw. Mae'n olrhain datblygiad y llyfrgell o'i dyddiau cynnar, ei chasgliadau'n deillio o weddillion llyfrgelloedd sefydliadau a neuaddau lles, i'w rôl heddiw fel llyfrgell ymchwil sy'n gartref i gasgliadau o bwys lleol, rhanbarthol a rhyngwladol. Mae'r llyfr hwn yn cyfeirio at lawer o'r eitemau sydd wedi cael eu cynnwys yn yr arddangosfa 50 eitem hon ac, oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy, mae copi o'r llyfr ar gael i'w fenthyca gan y llyfrgell.

50. Baner Cyfrinfa Risca 

Wrth i'r llyfrgell edrych tua'r dyfodol a'r hyn a allai fod yn yr arfaeth yn y 50 o flynyddoedd nesaf, mae slogan baner Cyfrinfa Risca yn teimlo'n addas - Gwawriad Oes Newydd. Wedi'i chreu ym 1947 i nodi Deddf Gwladoli Glo newydd y Llywodraeth Llafur, mae'r faner yn cynrychioli gobaith ar gyfer dyfodol y diwydiant. Yn wir, gwnaeth sefydlu'r Bwrdd Glo Cenedlaethol lawer i newid amodau gweithio yn ne Cymru er gwell, gan wella iechyd a diogelwch a chyflwyno baddonau pen pwll. 

Mae slogan cadarnhaol y faner a'i delweddau a ddewiswyd yn ofalus - haul yn codi ac ysgub gwenith - yn symboleiddio gobaith, cydweithredu a digonedd, pethau mae Amgueddfa Glowyr De Cymru yn dyheu amdanynt am y 50 mlynedd nesaf. I ddysgu rhagor am y baneri mae'r Amgueddfa yn gofalu amdanynt a'r symboliaeth a geir ar faneri cyfrinfeydd gwahanol, ewch i'n harddangosfa ar-lein - Gwawriad Oes Newydd.