LlGDC @ 50Llyfrgell Glowyr De Cymru yn Hanner Cant
31. Poster Cyngres Cymru i Gefnogi Cymunedau Glofaol
Sefydlwyd Cyngres Cymru i Gefnogi Cymunedau Glofaol yn hydref 1984 gan grŵp amrywiol o sefydliadau gyda’r nod o atgyfnerthu’r ‘wladwriaeth les amgen’, a adeiladwyd gan grwpiau cymorth glowyr yn ystod Streic y Glowyr 1984-85, ac ymestyn cefnogaeth i streic yr NUM ledled Cymru.
Cydlynodd y gyngres wrthdystiadau, hyrwyddo cynghrair ddemocrataidd gwrth-Thatcheraidd eang yng Nghymru, a'i nod oedd ysgogi trafodaeth am gymunedau glofaol Cymru. Derbyniodd gefnogaeth ar unwaith gan amrywiaeth eang o ffigurau gwleidyddol yng Nghymru, y Blaid Lafur, Plaid Cymru a’r Blaid Gomiwnyddol, yn ogystal â llywodraeth leol, undebau llafur, eglwysi, y celfyddydau, ffermwyr, y mudiad heddwch, a’r mudiad menywod.
Mae'r poster hwn yn hyrwyddo cyfarfod i'w gynnal ar 1 Mehefin 1985 yn Neuadd y Dref Maesteg.
Yng Nghasgliad Maes Glo De Cymru, rydym yn cynnal cyfres o recordiadau o Gyngres Cymru ym Maesteg yn cynnwys nifer o areithiau, trafodaethau a phenderfyniadau am streic y glowyr, glowyr a garcharwyd, a’r diwydiant mwyngloddio yn gyffredinol. Ymhlith y rhai sy'n siarad mae Kim Howells ac Ann Clwyd.
https://lisweb.swan.ac.uk/swcc/video/vid16.htm
Mae gennym hefyd ddetholiad o bosteri eraill yn ymwneud â Chyngres Cymru y gellir eu gweld yn y llyfrgell ar gais.
32. The Inverse Care Law, wedi'i theori gan Julian Tudor Hart
Roedd Julian Tudor Hart (1927-2018) yn feddyg teulu, awdur ac actifydd gwleidyddol a symudodd i Dde Cymru yn y 1960au. Ei bractis ym mhentref Glyncorrwg, Cwm Afan, oedd y cyntaf yn y DU i gael ei gydnabod fel practis ymchwil, gan arwain astudiaethau meddygol a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Feddygol. Ef hefyd oedd y meddyg cyntaf i fesur pwysedd gwaed ei gleifion fel mater o drefn, gan weithio mewn partneriaeth â’r gymuned leol i leihau cyfraddau marwolaethau cynamserol 28% o gymharu â chymunedau tebyg. Chwaraeodd cydweithredu lleol ran hanfodol yn yr astudiaethau a'r strategaethau gofal iechyd ataliol, ac roedd hyd yn oed yn cynnwys glowyr yn mynd â photeli sampl wrin o dan y ddaear gyda nhw ar eu sifftiau i gasglu'r data gofynnol.
Cynigiodd Julian Tudor Hart yr ‘inverse care law’ mewn erthygl ar gyfer The Lancet ym 1971. Mae’r gyfraith, sydd â’i theitl yn pwn ar ‘the inverse-square law’ yn ffiseg, yn nodi: ‘The availability of good medical care tends to vary inversely with the need for it in the population served. This inverse care law operates more completely where medical care is most exposed to market forces, and less so where such exposure is reduced.’ Mae'r gyfraith yn parhau i fod yn bwnc pwysig mewn dadleuon ynghylch anghydraddoldeb iechyd a marchnata'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Ar ôl ymddeol fel meddyg teulu, parhaodd Julian Tudor Hart â'i ymchwil fel cymrawd Ysgol Feddygol Abertawe. Roedd yn awdur toreithiog, gan gynhyrchu cyfoeth o bapurau a llyfrau, gan gynnwys A New Kind of Doctor (1988) a The Political Economy of Health Care (2006). Roedd hefyd yn un o sylfaenwyr y Gymdeithas Iechyd Sosialaidd ac yn hyrwyddwr diflino egwyddorion sylfaenol y GIG. Mae Llyfrgell Glowyr De Cymru yn gartref i Gasgliad Julian Tudor Hart, sy’n cynnwys adran o’i lyfrgell bersonol a deunyddiau’n ymwneud â’i ymchwil.
33. Transatlantic Exchange LP gan Paul Robeson
Ym mis Gorffennaf 1950, tynnwyd pasbort Paul Robeson yn ôl ac felly nid oedd modd iddo deithio i unrhyw le y tu allan i'r Unol Daleithiau. Ar wahân i fod yn ganwr ac yn actor blaenllaw, roedd Robeson hefyd yn ymgyrchydd dros achosion sosialaidd a hawliau sifil ac felly roedd yn cael ei ystyried yn fygythiad gan Adran Wladwriaeth yr Unol Daleithiau yn ystod cyfnod McCarthyaeth. Serch hynny, llwyddodd Robeson i berfformio yn Negfed Eisteddfod Flynyddol y Glowyr ym Mhorthcawl ym 1957, ei berfformiad cyntaf i gynulleidfa yng Nghymru ers 1949. Roedd hyn yn bosibl yn sgîl y system ffôn drawsatlantig newydd a ddechreuodd ym 1956. Daeth cynulleidfa o fwy na dwy fil o bobl i Bafiliwn Porthcawl i glywed ei lais anhygoel yn atseinio dros y dechnoleg newydd hon o stiwdio yn Efrog Newydd.
Canodd yr emyn Didn't My Lord Deliver Daniel, This Little Light of Mine, All Men Are Brothers o Nawfed Symffoni Beethoven, a'r suo-gân gan Schubert. Canodd hefyd fersiwn o All Through the Night, gan orffen gyda'r geiriau Cymraeg 'ar hyd y nos'. Yna, canodd Côr Meibion Treorci yn Gymraeg yn ôl i Paul Robeson: 'Ni fydd diwedd byth ar sŵn y delyn aur'. Mae'r cyngerdd yn dathlu digwyddiad arwyddocaol yn y frawdoliaeth hirsefydlog a sefydlwyd rhwng Paul Robeson a glowyr Cymru, a ddechreuodd ar ôl iddo gwrdd ar hap â grŵp o lowyr di-waith o Gymru yn canu ac yn gorymdeithio drwy Lundain ym 1929.
34. Pamffled Diwrnod Gala Glowyr Cymru
Cynhaliwyd Diwrnod Gala Blynyddol Glowyr Cymru am y tro cyntaf ddydd Sadwrn 19 Mehefin 1954 yng Ngerddi Soffia, Caerdydd. Roedd llawer o lowyr a'u teuluoedd yn ystyried mai'r digwyddiad hwn oedd uchafbwynt cymdeithasol y flwyddyn, a dechreuodd gyda gorymdaith o faneri a bandiau pres o Barc Cathays i Erddi Soffia. Dilynwyd hyn gan areithiau gan y Gwir Anrh. Aneurin Bevan (AS Glynebwy ar y pryd) ac Arthur Honer (Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Cenedlaethol y Glowyr).
Roedd digwyddiadau'r prynhawn, a oedd yn llai ffurfiol na rhai'r bore, yn cynnwys cystadlaethau bandiau pres, twrnamaint rygbi saith bob ochr, dawnsio gwerin, digwyddiadau trac i blant a chystadleuaeth gwisg genedlaethol.
Ym mis Mehefin 1960, cynhyrchodd y gwneuthurwr ffilmiau, Derrick Knight, ac Undeb Cenedlaethol y Glowyr, ffilm fer a lwyddodd i gyfleu hwyl a chyffro'r diwrnod gala blynyddol. Yng ngeiriau Derrick Knight, mae Miners’ Gala Day, â sylwebaeth gan Gwyn Thomas, yn cyfleu ‘[t]he Welsh people’s love of playing, singing, dancing, but above all the love of colour and gaiety which gets so little chance of release in the drab surroundings of the mining villages...’
Gellir gwylio copi o'r ffilm yn Llyfrgell Glowyr De Cymru.
35. Nofelau ‘Cilhendre’ Menna Gallie, Strike for a Kingdom (1959) a The Small Mine (1962)
Ganed yr awdur, Menna Gallie ym mhentref Ystradgynlais ym mhen uchaf Cwm Tawe ym 1919. Daeth hi o gefndir dosbarth gweithiol, gan dyfu i fyny mewn ardal lofaol yn ystod y blynyddoedd o galedi oedd yn nodedig o’r Streic Gyffredinol yn 1926 a Dirwasgiad y 1930au. Roedd Menna yn fyfyrwraig ddawnus, ac aeth hi ymlaen i astudio Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe. Yno cyfarfu â'r athronydd Bryce Gallie a phriodwyd y ddau yn fuan ar ôl iddi raddio. Dechreuodd ysgrifennu ffuglen yn gymharol hwyr yn ei bywyd pan oedd hi'n 40 oed. Fel y myfyriodd yn ddiweddarach, doedd ei rôl fel gwraig a mam ddim wedi gadael 'llawer o amser i fod yn fi, dim llawer o amser i gofio na meddwl am y syniad sydd wedi llithro'n daclus i lawr y sinc gyda'r dŵr golchi llestri, neu wedi’i wasgu’n sych gyda’r cewynnau' (Angela V. John, Rocking the Boat (2018), p.272).
Mae ei nofel gyntaf, Strike for a Kingdom (1959), wedi’i lleoli ym mhentref glofaol ffuglennol ‘Cilhendre’. Modelwyd y lleoliad ar Ystradgynlais ei phlentyndod, a leolir yn y maes glo carreg ar ymyl gorllewinol Bannau Brycheiniog. Mewn fideo a gynhaliwyd yn Llyfrgell Glowyr De Cymru, mae Menna yn trafod ei bywyd cynnar yn Ystradgynlais a’r Creunant a sut y ceisiodd, wrth greu Cilhendre, osgoi darluniau un dimensiwn o gymunedau glofaol Cymru. Yn hytrach fe geisiodd ddal eu naws, tensiynau, a gwrthddywediadau niferus, yn ogystal â’u hiwmor, y byddai’n ei ysgrifennu ‘gydag acen Gymreig’. Cafodd y nofel dderbyniad da, yn enwedig yn UDA lle cafodd ei hadolygu'n ffafriol yng nghylchgrawn Time Magazine. Cyhoeddodd bum nofel arall, gan gynnwys un arall oedd wedi’i gosod mewn Cilhendre o'r enw The Small Mine (1962).
Mae ei dwy 'nofel lofaol' yn sefyll allan o enghreifftiau eraill o'r genre am eu portread arbennig o sensitif o fenywod a phlant mewn cymunedau glofaol. Maent yn edrych ar sut caiff menywod eu hymyleiddio o agweddau ar fywyd gwleidyddol, yn archwilio sut mae menywod o bob dosbarth wedi'u cyfyngu gan eu rolau cymdeithasol, ac yn amlygu'r moesoli gormesol a oedd yn aml yn cyd-fynd â materion rhyw, priodas a genedigaeth. Mae'r nofelau hefyd yn llawn cyfeiriadau at lafur domestig menywod, gan ddangos pa mor hanfodol oedd cynnal a chadw gwead cymdeithasol ac economaidd y cymunedau glofaol. Yn y fideo, mae Menna yn esbonio sut y cafodd ei hagwedd wleidyddol ei ffurfio gan ei ‘Aunt Tillie’ [Griffiths], gan honni, ‘I’m not much of an “-ist” except that I’m a socialist' (Menna Gallie, Vid/132). Roedd Tillie yn wraig i gyn-athrawes Menna, Brinley Griffiths, y mae ei llyfrgell unigryw o gyhoeddiadau radical yn Llyfrgell y Glowyr, a ysbrydolodd gymeriad y prifathro sosialaidd caredig yn The Small Mine.
Mae nofelau Menna Gallie ymhlith y nifer sydd ar gael yn ein llyfrgell fenthyca, sy’n ategu ein casgliadau eraill ac yn cynnig cyfoeth o ffynonellau ar hanes a diwylliant De Cymru.
36. Cyfweliad hanes llafar gyda Tom Davies
Cyfwelwyd â Tom Davies (ganwyd 1899) fel rhan o'r prosiect cyntaf ar faes glo de Cymru ym 1973. Mae'r cyfweliad hwn yn unigryw ymysg mwy na 600 o gyfweliadau a gynhaliwyd am sawl rheswm. Mae natur frwdfrydig, ffraeth a swynol Mr Davies yn mynd â'r darllenydd yn llawn hwyl ar hyd ei hanes amrywiol a lliwgar. Mae'r recordiad hwn yn trafod gyrfa dynwared menywod Mr Davies cyn, yn ystod ac ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf a gellir dadlau ei fod yn enghraifft lachar yn hanes LHDT+ ym maes glo de Cymru nad ymchwiliwyd yn ddigonol iddo hyd yn hyn.
“I left school at fourteen years of age and I had a lovely voice, nicer than Vera Lynn, nicer than that...And I was a very high kicker, and there wasn’t a lot of high kickers about in those days, nor female impersonators.”
37. Underground Poland Speaks (1941), pamffled gyda Rhagair gan Philip Noel-Baker
Mae'r pamffled hwn yn arwyddocaol iawn fel cofnod uniongyrchol o helyntion y gwrthsafwyr yng Ngwlad Pwyl yn ystod meddiannaeth y Natsïaid. Mae'r rhagair yn apêl uniongyrchol ar y cyhoedd ym Mhrydain i ymgymryd ag achos amddiffyn Gwlad Pwyl, ac yn alwad i ryngwladoliaeth yn wyneb unbennaeth. Mae'r perygl y bu cyfranwyr y pamffled yn ei wynebu yn dod â naws bygythiad y gellir ei deimlo i'r testun. Mae'r datganiad, “the manifesto gives us the assurance that he [Hitler] cannot win”, yn arwydd o gryfder penderfynoldeb y Mudiad a'i gred y bydd ewyllys rydd, cyfiawnder hanfodol a threfn heddychlon yn dychwelyd yn y pen draw.
38. Poster wedi'i lofnodi o 3ydd albwm stiwdio Public Service Broadcasting, Every Valley
Ar 7 Gorffennaf 2017, gwnaeth Public Service Broadcasting yn Llundain ryddhau ei 3ydd albwm stiwdio, Every Valley. Mae'r albwm, sy'n cofnodi esgyniad a chwymp y diwydiant glo ac effaith hyn ar gymunedau lleol, yn cynnwys llu o artistiaid o Gymru - James Dean Bradfield, Lisa Jên Brown a Chôr Meibion Cendl i enwi ychydig. Roedd Every Valley yn llwyddiannus iawn, gan gyrraedd rhif pedwar yn siartiau'r DU a chael ei ganmol gan gefnogwyr a beirniaid cerddoriaeth fel ei gilydd.
Ers ei albwm cyntaf yn 2013, mae PSB wedi ceisio 'addysgu'r gwersi a ddysgwyd o'r gorffennol drwy gerddoriaeth y dyfodol'. Mae'r band yn gwneud hyn drwy ddefnyddio samplau archifol yn ei gerddoriaeth ac yn Every Valley, mae darnau o gasgliad hanes llafar Llyfrgell Glowyr De Cymru wedi'u cynnwys ar sawl cân (e.e. They Gave Me A Lamp, All Out a Mother of the Village). Yn They Gave Me a Lamp, mae PSB yn cyfuno clipiau fideo o Smiling and Splendid Women, ffilm ddogfen a gynhyrchwyd gan Lyfrgell Glowyr De Cymru a Grŵp Hanes Menywod Abertawe ym 1985, gyda chlipiau sain hanes llafar sy'n archwilio themâu ystrydebu ar sail rhyw ac adfywiad gwleidyddol yn ystod Streic y Glowyr 1984/85:
“A lot of women weren’t as fortunate as me…they weren’t taught how to wire a plug, they were taught to make a sponge. They weren’t taught how to change the wheel on a car, they were taught how to iron a white shirt. You can’t climb up this tree, you’re a girl. You can’t come with us, you’re a girl… It made me determined to do it, and it stuck with me. So, I didn’t see any reason why I shouldn’t be out there doing what I was doing… picketing, in the support group or whatever. I think a lot of women found their feet” (SWCC/AUD/509)
Ar 20 Hydref 2023, traddododd un o aelodau sefydlu PSB, J Willgoose Ysw., ddarlith pen-blwydd yn 50 oed Llyfrgell Glowyr De Cymru - 'Dathlu 50 Mlynedd o Lyfrgell Glowyr De Cymru' - gan rannu â'r gynulleidfa gipolwg diddorol ar ymchwil a phroses greadigol y band.
Os na welsoch y ddarlith, cadwch lygad ar wefan Llyfrgell Glowyr De Cymru. Byddwn yn lanlwytho copi o'r recordiad yn fuan iawn...
39. UP THE DOVE!
Up The DOVE! : Cyhoeddwyd Gweithdy Hanes DOVE yn Banwen gan Mair Francis yn 2008.
Gofynnwyd i Mair Francis, un o sylfaenwyr DOVE, i ysgrifennu hanes DOVE gan y rheolwyr Julie Bibby a Lesley Smith pan oedden nhw’n agosáu at ugain mlynedd o weithgareddau.
I fyny'r colomennod! Yn dathlu cyflawniadau Gweithdy DOVE trwy lwyddiant y myfyrwyr, tiwtoriaid a dysgwyr. Mae’n stori bwysig o benderfyniad a menter gan grŵp o fenywod rhyfeddol ar adeg o newid dwys.
Sefydlwyd Gweithdy DOVE yn Banwen gan grŵp o ferched o Gwm Dulais yn sgil Streic y Glowyr 1984-85, gan adeiladu ar y cysylltiadau a luniwyd yn y grŵp cymorth glowyr lleol. Trawsnewidiwyd hen swyddfeydd pwll glo brig ganddynt yn ganolfan addysg a hyfforddiant fywiog, gan weithio gyda darparwyr addysgol fel Prifysgol Abertawe a Choleg Castell-nedd i ddarparu cyfleoedd dysgu i'r gymuned leol, yn enwedig menywod, yn ystod cyfnod o ddiweithdra uchel. Yn draddodiadol, roedd cyflogaeth menywod yn yr ardal wedi’i chyfyngu i waith cyflog isel, statws isel a rhan-amser.
‘Ychydig o fynediad oedd gan fenywod yn y cymoedd i addysg neu hyfforddiant, gofal plant neu gludiant. Roedd angen cymryd rheolaeth a gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain’
Mair Francis
Bwriad gweithdy DOVE oedd darparu cyfleoedd dysgu hyblyg; darparu cyfleusterau gofal plant, cael bws mini i gludo pobl i ddosbarthiadau, a chartrefu cangen o Lyfrgell Glowyr De Cymru a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion penodol oedolion a dysgwyr rhan-amser. Trwy ddarparu gwasanaethau hanfodol fel y rhain, fe wnaeth merched gweithdy DOVE helpu cannoedd o bobl i ddychwelyd i addysg a dysgu sgiliau newydd.
Mae gweithdy DOVE wedi datblygu i fod yn ganolbwynt cymunedol hanfodol yn y cwm, gan barhau i gefnogi pobl yng nghanol heriau marchnad lafur newidiol a darparu dosbarthiadau i wella iechyd, lles a'r amgylchedd lleol.
I ddysgu mwy am Weithdy DOVE, gallwch ddarllen y llyfr Up The DOVE! gan Mair Francis neu cysylltwch â’r DOVE: https://www.doveworkshop.org.uk/
40. Clip sain o gyfweliad gyda chyn-weithwyr arfau rhyfel yn y Royal Ordnance Factory ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Yn y cyfweliad hanes llafar hwn, a recordiwyd yn 1975, mae Nellie Jones, Kitty Williams ac Agnes Owen yn rhannu eu hatgofion o weithio yn y Royal Ordnance Factory ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bu miloedd o fenywod yn ne Cymru'n gweithio mewn ffatrïoedd arfau rhyfel fel hyn, a sefydlwyd yn siroedd Morgannwg a Threfynwy. Roeddent yn chwarae rhan allweddol yn ymdrech rhyfel Prydain, gyda ffatri Pen-y-bont ar Ogwr yn cyflogi gweithlu o fenywod yn bennaf, tua 35,000 ar ei anterth – gan ei gwneud yn un o’r ffatrïoedd mwyaf yn hanes Prydain.
Roedd gwaith y ffatrïoedd arfau rhyfel yn beryglus yn aml. Roedd staff yn wynebu cyrchoedd awyr, peirianwaith peryglus a bygythiad parhaus o ffrwydradau ar y llinell gynhyrchu. Roedd y powdr TNT a ddefnyddid wrth weithgynhyrchu arfau hefyd yn troi croen a gwallt gweithwyr yn felyn, gan roi'r llysenw 'caneris' iddynt.
Er gwaethaf yr heriau hyn, rhoddodd cyflogaeth yn ystod y rhyfel dipyn o annibyniaeth i fenywod a oedd yn seibiant o fywyd pob dydd. Ffurfiwyd grwpiau cymdeithasol, megis corau a thimau chwaraeon, gyda chydweithwyr yn y ffatrïoedd, ac roedd y cyflogau - a oedd yn aml yn fwy hael o'u cymharu â chyfleoedd cyflogaeth blaenorol - yn rhoi mwy o gyfle i fenywod feithrin bywydau cymdeithasol y tu hwnt i'r cartref a'u cymunedau.