Dathlu Abertawe

Mae'r Brifysgol yn awyddus i gynnwys ei holl aelodau staff a myfyrwyr - rhai presennol a blaenorol - yn ei digwyddiadau dathlu'r canmlwyddiant, a fydd yn dechrau'r haf hwn ac yn para drwy gydol 2020. Mae'n gyfle gwych i hyrwyddo ein rhagoriaeth ac i ddangos ein bod yn Brifysgol fyd-eang, sy'n falch o'n treftadaeth ddiwydiannol yng Nghymru.

Mae'r llun hwn – ‘The Foundation Stone Ceremony, 19 July 1920’ gan Percy Gleaves - yn rhan o gasgliad celf y Brifysgol. Mae wedi cael ei adfer i'w hen ogoniant yn ddiweddar ac, yn fuan, bydd yn cael ei arddangos yn Abaty Singleton i bawb ei weld.

Bydd Prifysgol Abertawe'n dathlu ei chanmlwyddiant ym mis Gorffennaf 2020. Dyma gyfle heb ei ail i hyrwyddo ein rhagoriaeth ac i ddangos ein bod yn Brifysgol fyd-eang, sydd â'i gwreiddiau yn nhreftadaeth ddiwydiannol Cymru a phresenoldeb rhanbarthol cryf o hyd.

Bydd Ymgyrch y Canmlwyddiant yn dathlu llwyddiant academaidd a chyflawniadau balch aelodau staff presennol a chyn-aelodau staff y Brifysgol a'n myfyrwyr a'n cyn-fyfyrwyr. Caiff ei hysbrydoli gan ein gorffennol ysblennydd a bydd yn arwain y ffordd i'n dyfodol.

Fel rhan o'r ymgyrch, bydd nifer o weithgorau'n canolbwyntio ar weithgareddau penodol y canmlwyddiant, gyda grŵp llywio'r canmlwyddiant yn cydlynu'r cyfan. Bydd pob Ysgol, Coleg a Chyfarwyddiaeth, ynghyd ag Undeb y Myfyrwyr, yn dewis hyrwyddwr y canmlwyddiant i fod yn rhan o'r grwpiau hyn, a fydd yn cynnwys Fforwm Ymgysylltu Staff a Myfyrwyr; Grŵp Casgliadau Hanes ac Ymchwil; Fforwm Marchnata a Digwyddiadau; ac amrywiaeth o grwpiau codi arian.

Sut gallwch chi helpu

Mae Emily Hewitt, Archifydd Cynorthwyol yn Archifau Richard Burton Prifysgol Abertawe, yn gweithio ar brosiect sylweddol i gatalogio casgliadau archifau'r Brifysgol ac i wella mynediad iddynt. Mae'r casgliadau'n cynnwys deunyddiau megis llyfrau cofnodion swyddogol a chofnodion adrannol, ffotograffau, papurau newydd Undeb y Myfyrwyr, deunydd clyweledol a phapurau personol cyn staff a myfyrwyr.

AAr ben y deunydd hynod ddiddorol sydd eisoes yn yr Archifau, y gobaith yw y caiff rhagor o ddeunydd archifol ei ddarganfod i gyfoethogi a datblygu'r casgliadau presennol. Os oes gennych chi neu gan eich adran ddeunydd sy'n ymwneud â hanes y Brifysgol, byddai Emily wrth ei bodd yn clywed gennych. Cysylltwch â hi yn: e.k.hewitt@abertawe.ac.uk

Mae Emily hefyd yn darparu cymorth archifol i Dr Sam Blaxland o Goleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau ar y prosiect hanes llafar, Lleisiau Prifysgol Abertawe, y cyfeiriwyd ato yn ein rhifyn diwethaf. Nod y prosiect hwn yw recordio a chofnodi atgofion a phrofiadau unigolion sydd wedi astudio a/neu weithio ym Mhrifysgol Abertawe yn y gorffennol. Os ydych mewn cysylltiad â chyn-gydweithwyr neu gyn-fyfyrwyr a hoffai gyfrannu at y prosiect, cysylltwch â Sam: s.blaxland@abertawe.ac.uk 

Mae'r Fforwm Ymgysylltu Staff a Myfyrwyr yn datblygu platfform a thudalen we i chi gyflwyno syniadau ar gyfer y canmlwyddiant. Byddwn yn darparu rhagor o fanylion pan fydd hyn ar waith.

Ymgyrch y Canmlwyddiant

Caiff Ymgyrch y Canmlwyddiant ei lansio'n ffurfiol yn y cinio i Gymrodorion Er Anrhydedd ar ôl dathliadau graddio'r haf. Caiff ei lansio'n gyhoeddus yn ystod Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe ym mis Medi a chaiff sylw hefyd yn ystod penwythnos cyrraedd myfyrwyr eleni. Y myfyrwyr newydd hyn fydd ein Graddedigion y Canmlwyddiant.

Cynhelir gweithgareddau'r Canmlwyddiant o 19 Gorffennaf 2019 - blwyddyn cyn dyddiad y canmlwyddiant ei hun - tan 31 Rhagfyr 2020. Byddwn yn achub ar bob cyfle i hyrwyddo treftadaeth gyfoethog Prifysgol Abertawe a'i henw fel prifysgol draddodiadol, ond blaengar, o safon ryngwladol. Gobeithiwn y byddwch yn falch o gymryd rhan.

Delyth Thomas (delyth.m.thomas@abertawe.ac.uk)
Swyddfa Digwyddiadau'r Canmlwyddiant