Gwobr Ysgrifennu Canmlwyddiant

Cystadleuaeth ysgrifennu creadigol sydd ar agor i bob myfyriwr presennol ym Mhrifysgol Abertawe.

Fel rhan o’r prosiect Traethodau’r Canmlwyddiant, rydym ni am glywed gennych chi. Gallwch gyflwyno eich barddoniaeth, eich rhyddiaith, eich ysgrifennu ffeithiol creadigol neu’ch drama i gael y cyfle i ennill talebau, gwobr a chyhoeddi eich gwaith ar wefan Traethodau’r Canmlwyddiant.

Caiff Gwobr y Canmlwyddiant ei beirniadu’n ddwyieithog gan staff academaiddd adran Ysgrifennu Creadigol Abertawe a staff Academi Hywel Teifi.

Rydym yn chwilio am gynigion sy’n adlewyrchu ysbryd Abertawe/y Brifysgol – beth bynnag mae hynny’n ei olygu i bob unigolyn!

Croesewir cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Rheolau Gwobrau'r Canmlwyddiant

Rhaid cyflwyno pob cais ar ffurf atodiad i e-bost a'i anfon i digitalhumanities@abertawe.ac.uk rhwng 23 Ionawr a 6 Ebrill 2020. Hysbysir yr enillwyr tua diwedd mis Mai a chynhelir noson wobrwyo yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ym mis Mehefin - dyddiad i'w gadarnhau. Caiff y ceisiadau eu beirniadu gan aelodau o adran Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Abertawe ac Academi Hywel Teifi.

Dylid cyflwyno gwaith ar ffurf ffeil .doc yn ffont Times New Roman 12pt ag un llinell rhwng pob llinell. Dylai ysgrifenwyr gyflwyno un cais yr un yn unig. Dylai ymgeiswyr gynnwys eu rhif myfyriwr a theitl eu cais ar frig y dudalen gyntaf; dylid rhifo pob tudalen ddilynol. Mae penderfyniad y beirniaid yn derfynol.

 

Barddoniaeth

Caiff beirdd gyflwyno rhwng un a dwy gerdd, hyd at 50 llinell yr un. Nid yw'r uchafswm geiriau'n cynnwys y teitlau. Rhaid mai gwaith gwreiddiol y bardd yw pob cais a rhaid nad yw wedi'i gyhoeddi rywle arall ar adeg cyflwyno'r cais.

Rhyddiaith (Ffuglen/Drama/Gwaith Creadigol Ffeithiol)

Caiff awduron gyflwyno uchafswm o 2,000 o eiriau mewn unrhyw genre. Rhaid mai gwaith gwreiddiol yr awdur yw pob cais a rhaid nad yw wedi'i gyhoeddi rywle arall ar adeg cyflwyno'r cais.

Ffuglen Fflach

Caiff awduron gyflwyno uchafswm o 250 o eiriau. Rhaid mai gwaith gwreiddiol yr awdur yw pob cais a rhaid nad yw wedi'i gyhoeddi rywle arall ar adeg cyflwyno'r cais.

Pwy sy'n gymwys?