Traethodau Canmlwyddiant

Ysbrydolwyd y Traethodau hyn gan angerdd a chymhelliant yr Athro Hywel Francis a oedd yn Gadeirydd Panel Golygyddol Traethodau’r Canmlwyddiant. Ysgrifennwyd y deyrnged hon i waith a bywyd Hywel Francis gan yr Athro John Spurr.

Mae adrodd stori can mlynedd gyntaf Prifysgol Abertawe'n dasg gyffrous a heriol. Yn y gyfres hon o draethodau wedi'u comisiynu, bydd amrywiaeth eang o awduron yn archwilio ystod o bobl a syniadau sy'n ymwneud â hanes balch ac unigryw'r Brifysgol. Agorodd Coleg y Brifysgol, fel y'i hadwaenid bryd hynny, ei ddrysau ym 1920 - ac roedd hwn yn gyfnod anarferol i sefydliad addysg uwch gael ei sefydlu. Mae ei hanes ers hynny wedi bod yn nodedig ac yn amlochrog; mae ein traethodwyr Canmlwyddiant yn seilio eu gwaith ar ymchwil ysgolheigaidd a phrofiad personol i gyflwyno hanes o Brifysgol Abertawe sy'n fyw ac yn hanfodol ac, yn bwysicaf oll, sy'n adlewyrchu pobl.

Mae'r traethodau hyn yn cyd-fynd Swansea University: Campus and Community in a Post-War World, 1945 - 2020  a ysgrifennwyd ac a ymchwiliwyd gan Dr Sam Blaxland o Adran Hanes y Brifysgol ac a gaiff ei gyhoeddi yn haf 2020 gan Wasg Prifysgol Cymru. Prif ffocws y gwaith hwn yw'r cyfnod ar ôl 1945 ac mae'n defnyddio hanes y sefydliad i egluro agweddau amrywiol ar newid cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol ym Mhrydain a Chymru ar ôl y rhyfel, ynghyd â natur prifysgolion sy'n datblygu mewn byd sy'n newid yn gyflym.

Mae ein traethodau’r Canmlwyddiant yn rhoi dealltwriaeth fanwl na all neb ond myfyrwyr a staff – blaenorol a phresennol –ei chynnig drwy eu profiadau eu hunain. 

Bydd cyfres ddarlithoedd, “Prifysgol Gymunedol ar Lwyfan y Byd”, i’w chynnal pan fydd amgylchiadau’n caniatáu, yn galluogi ein hysgrifwyr i gyflwyno darlithoedd ar eu dewis pwnc – yn y Gymraeg neu’r Saesneg – ledled y cymunedau y mae’r Brifysgol wedi’u gwasanaethu’n falch dros y ganrif ddiwethaf. 

Bydd y gyfres ddarlithoedd hon yn adlewyrchu themâu’r traethodau eu hunain: Prifysgol sydd wrth ganol ymchwil, dysgu a thrafod deallusol a arweinir gan ysgolheigion sy’n adnabyddus yn rhyngwladol; Prifysgol sydd bob amser wedi meddu ar ymrwymiad parhaus i ymgysylltu dinesig; a myfyrwyr sy’n ddinasyddion gweithredol yn ein cymunedau lleol. 

Croesawir traethodau pellach, yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan staff a myfyrwyr ar eu profiadau. Os oes gennych chi syniad a hoffech chi gyfrannu, cysylltwch â ni: 

Steve Williams, Llyfrgellydd y Brifysgol: s.r.williams@swansea.ac.uk
Siân Williams, Pennaeth Casgliadau Arbennig: s.f.williams@swansea.ac.uk