Cyhoeddiad Hanes y Brifysgol

Ynglŷn â'r prosiect

Mae Prifysgol Abertawe'n dathlu ei chanmlwyddiant yn 2020. Yn y cyfnod cyn hwn, rydym yn ymchwilio ac yn ysgrifennu am hanes y Brifysgol. Arweinir y prosiect hwn gan Dr Sam Blaxland, sy'n gymrawd ôl-ddoethurol yn yr Adran Hanes.

Pan agorodd Coleg Prifysgol Cymru, Abertawe, ei ddrysau ym 1920, cofrestrwyd llai na chant o fyfyrwyr. Heddiw, mae'r sefydliad yn Brifysgol ffyniannus â llawer o gampysau lle bydd miloedd o bobl yn astudio ac yn gweithio. Mae'r broses o newid yn cynnwys llawer o feysydd a chyfnodau diddorol o hanes, a nod Sam yw archwilio i hyn.

Mae ei waith yn cynnwys dau faes ymchwil sylweddol. Yn gyntaf, mae'n cynnal prosiect hanes llafar uchelgeisiol â'r nod o ymgysylltu â chynifer o bobl amrywiol sy'n gysylltiedig â'r Brifysgol â phosib. Y nod yw cyfweld â phobl sy'n cynrychioli pob agwedd ar fywyd yn y Brifysgol. Bydd eu hatgofion a'u 'tystiolaethau llafar' yn llunio archif hanes llafar y bydd archifyddion y Brifysgol yn gyfrifol amdani ac yn ei goruchwylio, a bydd hon ar gael at ddibenion ymchwilio.

Ar y llaw arall, bydd Sam yn defnyddio'r casgliad deunyddiau mwy traddodiadol ond ardderchog yn Archif y Brifysgol i ymchwilio i'r hanes. Bydd y ddau faes ymchwil hyn yn sail llyfr y bydd Sam yn ei lunio am y Brifysgol i nodi ei chanmlwyddiant.

 

Pobl

Gwnaethpwyd Dr Sam Blaxland yn gymrawd ôl-ddoethurol yn Adran Hanes Prifysgol Abertawe ym mis Tachwedd 2016. Mae'n ymchwilio i hanes y Brifysgol yn y cyfnod cyn ei chanmlwyddiant yn 2020. Ysgrifennodd draethawd ymchwil PhD yn yr adran ar y Blaid Geidwadol yng Nghymru, 1945-1997, a chyn hynny, astudiodd am raddau BA ac MA mewn Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd. Fe'i ganwyd a'i magwyd yn Sir Benfro ac ers hynny, mae ef wedi byw, gweithio neu astudio yng Nghaerdydd, Llundain a Rhydychen. Mae ei ddiddordebau ymchwil ehangach yn gysylltiedig â maes hanes gwleidyddol a chymdeithasol Prydain. Mae gan Sam ddiddordeb ehangach mewn gwleidyddiaeth a materion cyfoes ac mae wedi ymddangos sawl gwaith yn ddiweddar ar sianeli a rhaglenni newyddion megis BBC News 24, The Sunday Politics Wales, a Bay TV Swansea. Mae hefyd wedi ysgrifennu i sefydliadau megis The Conversation, The Western Mail a The Institute for Welsh Affairs ac mae ef wedi siarad neu gyflwyno papurau cynadleddau ar ei ymchwil mewn lleoedd megis Llyfrgell Bodleian Rhydychen a Phrifysgol Harvard.


Cyswllt

Os hoffech ragor o wybodaeth am y prosiect hwn, os hoffech gymryd rhan mewn cyfweliad hanes llafar neu os oes gennych ddeunyddiau rydych yn meddwl allai fod o ddiddordeb, byddai Dr Sam Blaxland yn falch o glywed gennych.

Manylion cyswllt:

E-bost: s.blaxland@abertawe.ac.uk

Ffoniwch: 01792 513219

Cyfeiriad: Adran Hanes, Adeilad James Callaghan, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe, SA2 8PP.