Canmlwyddiant Prifysgol Abertawe 2020

Mae'r wefan hon yn hyb canolog lle gallwch gymryd rhan yn nathliadau Canmlwyddiant y Brifysgol, dysgu rhagor am orffennol y Brifysgol a chyfrannu'ch syniadau eich hun ynghylch sut y dylwn i ddathlu carreg filltir o'r fath yn hanes y Brifysgol.

Bydd Prifysgol Abertawe'n dathlu ei chanmlwyddiant ddydd Sul 19 Gorffennaf 2020. Bydd y Brifysgol yn cynnal digwyddiadau dathlu penodol a gweithgareddau â ffocws rhwng mis Ionawr 2020 a mis Gorffennaf 2021.

Mae'r canmlwyddiant yn adeg i ni ganolbwyntio ar y dyfodol disglair sydd o'n cwmpas ni, ynghyd â bod yn gyfle unigryw i ddathlu cyflawniadau a thaith y Brifysgol dros y 100 mlynedd diwethaf.

 

Telerau Defnyddio

Mae'r traethodau ar y wefan wedi'u trwyddedu dan Creative Commons Attribution-NonCommercial 4.0 International License

Mae'r drwydded hon yn caniatáu i ddefnyddwyr ddefnyddio'r traethodau mewn unrhyw ffordd, cyhyd â bod lluniwr y gwaith gwreiddiol yn cael ei gydnabod ac ar yr amod nad yw'n cael ei ddefnyddio at ddibenion masnachol.

Perchnogion Hawliau

Gwnaethpwyd pob ymdrech i gysylltu â'r deiliaid hawliau i gael eu caniatâd i ddefnyddio'r deunydd hawlfraint yn y traethodau. Os ydym wedi defnyddio deunyddiau heb ganiatâd, yn ddiofal, ac rydych yn credu eich bod yn berchen ar hawliau ynddynt, gofynnwn i chi gysylltu â ni cyn gynted â phosib.

E-bostiwch Lyfrgelloedd Prifysgol Abertawe yn digitalhumanities@abertawe.ac.uk