Sinema

Dros y blynyddoedd, mae'r Neuadd wedi cefnogi llawer o weithgareddau hamdden, gan gynnwys biliards, cyngherddau bandiau pres a nosweithiau ffilm.

Poster advertising film screenings at Tylorstown Welfare Hall and Institute (1960)

Gellir gweld y taflunwyr gwreiddiol o'r 1930au yn y Neuadd o hyd ac mae cynlluniau ar y gweill i alluogi'r cyhoedd i weld y rhain fel rhan o arddangosfa amgueddfa.

Ystafell Daflunio Neuadd Les Pendyrus

Tylorstown Welfare Hall Projector Image 1
Tylorstown Welfare Hall Projector Image  2
Tylorstown Welfare Hall Projector Image 3
Cinema Projection Room (2021)

Y Pictures

"The Hub of Tylorstown" - Tony Maz

Yn ôl un o'r preswylwyr lleol, Tony Maz, y pictures, fel roedd pobl yn eu hadnabod ar lafar, oedd yr unig le a oedd yn cynnig adloniant fforddiadwy i deuluoedd, chwe diwrnod yr wythnos.

Cyfweliad gyda Tony Maz, 17 Mehefin 2021

Mae'n mynd ymlaen i ddisgrifio sut roedd yn gallu fforddio pris mynediad i'r sinema, losin, loli neu hufen iâ a bag o sglodion, i gyd am ddeuswllt.

Cyfweliad gyda Tony Maz, 17 Mehefin 2021

Yn y neuadd ffilmiau ei hun, mae Tony yn cofio am y cymylau trwchus o fwg a arferai arnofio'n uchel uwchben y gynulleidfa.

"Back then everybody smoked. If you went upstairs, you had to look through this cloud of smoke which was pierced by the projectionist lamp and the images that were being portrayed onto the screen. It's something people of today would never, ever experience... It was a wonderful memory. Something that we experienced and I know that my children and my grandchildren would never, ever experience".

Hall Balcony and Ceiling (2021)

Golygfa o falconi a nenfwd y Neuadd, Gorffennaf 2021

Betty Gosling, un o gyn aelodau staff y Neuadd yn disgrifio diwrnod nodweddiadol yn gwerthu hufen iâ a sut gwnaeth yr enillion gynyddu'n sylweddol yn ystod ei chyfnod hi yn y swydd. Cyn i Betty ddechrau gweithio yn y Neuadd, mae llyfr cofnodion ar gyfer 1938 yn datgelu bod barau hufen iâ siocled wedi cael eu dosbarthu ymhlith y staff ar fwy nag un achlysur 'owing to the slowness of sale'.

Cyfweliad gyda Betty Gosling, 17 Gorffennaf 2021

Choc Ices distributed among staff (1938)

Cyfarfod Pwyllgor Cyllid, Mehefin 29, 1938

Mae Betty yn mynd ymlaen i gofio pa mor aml roedd ffilmiau'n cael eu dangos ac mae’n disgrifio sut byddai ciwiau'n ymestyn ar hyd yr heol pan oedd ffilm boblogaidd yn cael ei dangos.

Cyfweliad gyda Betty Gosling, 17 Mehefin 2021

View of Stage from Projection Room (2021)

Golygfa o falconi a nenfwd y Neuadd, Gorffennaf 2021

Mae Terry Williams sy'n byw yn lleol ac wedi bod yn ymweld â'r Neuadd ers amser maith hefyd yn cofio pa mor brysur oedd y sinema.

Cyfweliad gyda Terry Williams, 17 Mehefin 2021

Mae'n mynd ymlaen i gofio sut byddai'r ysgolion yn dod â grwpiau o blant i'r sinema unwaith y flwyddyn.

Cyfweliad gyda Terry Williams, 17 Mehefin 2021

Cyngherddau a Sioeau

Yn ogystal â dangos ffilmiau'n rheolaidd, roedd y Neuadd hefyd yn cynnal cyngherddau, sioeau ysgol ac Eisteddfodau. Yn y blynyddoedd diweddar, mae'r Neuadd hefyd wedi cynnig lle i Gôr Meibion Pendyrus a Band Pres Pendyrus ymarfer a chynnal cyngherddau.

Photograph of Tylorstown Band and Choir

Ffotograff o Fand a Chôr Pendyrus

Photograph of School Concert

Ffotograff o Gyngerdd yr Ysgol

Concert ticket for an evening of Italian Opera at Tylorstown Welfare Hall and Institute (1953)

Tocyn cyngerdd ar gyfer noson o Opera Eidalaidd yn Neuadd Les a Sefydliad Pendyrus

Tylorstown Eisteddfod programme (1950)

Rhaglen ar gyfer Pumed Eisteddfod Gadeiriol Flynyddol Pendyrus

Tylorstown Co-operative Children's Choir (c. 1952)

Ffotograff o Gôr Plant Cydweithredol Pendyrus, c. 1952

Roedd Eva Thomas, sy’n un o wirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr y neuadd, yn aelod o Gôr Plant Cydweithfa Pendyrus yn ystod y 1950au ac mae hi’n cofio ennill yr Eisteddfod yn Aberystwyth.

"I think the whole of Tylorstown was so thrilled that we'd won it... Out of all the choirs that were up there, it was Tylorstown that done it".

Isod ceir detholiad o'r cofnodion sy'n ymwneud â rôl y Neuadd fel lleoliad digwyddiadau a sinema.

Licence for the Performance of Stage Plays (01)

Trwydded i Gynnal Dramâu Llwyfan

Western Electric Agreement, p1 (1941)

Cytundeb gyda'r Western Electric Company ynghylch y Ddeddf Difrod Rhyfel

Employment Returns for Tylorstown Cinema and Institute, 1945 front

Cofnodion Cyflogaeth ar gyfer Sinema a Sefydliad Pendyrus

Tylorstown Band Annual Concert (1937)

Cyngerdd Blynyddol Band Pendyrus

Blaen Nesaf