Hanes y Neuadd

Old photo of the Tylorstown Welfare Hall

Ffotograff o Neuadd Les a Sefydliad Pendyrus, d.d.

Agorwyd Ystafell Ddarllen a Sefydliad yn Rhif 1 Commercial Buildings, Pendyrus ym 1902. Adeiladwyd yr adeilad presennol, Neuadd Les a Sefydliad Pendyrus, ym 1933 wedi'i ariannu gan Gronfa Llesiant y Glowyr a chyfraniadau gan gyflogau gweithwyr, cwmnïau glo a'r cyhoedd. Diben gwreiddiol yr adeilad oedd darparu lle i amrywiaeth eang o weithgareddau hamdden - roedd yr islawr yn cynnwys llyfrgell, ystafell ddarllen, ystafell snwcer a gemau ac mae bob amser wedi cael ei ddefnyddio fel lle i sefydliadau lleol gyfarfod. Ar y ddau lawr uchaf, ceir awditoriwm sy'n cynnig lle mawr i gynnal dawnsfeydd ac adloniant ac roedd hefyd yn cael ei ddefnyddio fel sinema. Mae'r taflunwyr gwreiddiol yno o hyd ac mae pobl yn gofyn yn fynych i'r sinema gael ei hailagor.

 

Social Club formed in Tylorstown (1902)

Sefydlwyd Clwb Cymdeithasol ym Mhendyrus.

Tylorstown Reading Room and Institute to open (1902)

Ystafell Ddarllen a Sefydliad Pendyrus i agor

Opening night at Tylorstown Reading Room and Institute (1902)

Noson agoriadol Ystafell Ddarllen a Sefydliad Pendyrus

Tylorstown Welfare Hall Cash Book, 1933

Llyfr Arian Parod Neuadd Les Pendyrus

 

Mae'r Neuadd yn adeilad rhestredig Gradd II a hon yw Neuadd Les y Glowyr olaf yn y Rhondda Fach. Bu cyfraniadau rheolaidd o gyflogau glowyr lleol yn helpu i adeiladu a chynnal sefydliadau megis Neuadd Les Pendyrus.

Cyfweliad gyda Eva Thomas, 17th Mehefin 2021

Old photo of the Tylorstown Welfare Hall

Ffotograff a Neuadd Les a Sefydliad Pendyrus, d.d.

Yn ôl un o'r preswylwyr lleol, Tony Maz, a Betty Gosling a fu’n gweithio yno, roedd tu allan y Neuadd yn eithaf arbennig yn ei ddydd.

Old photo of the Tylorstown Welfare Hall

Ffotograff a Neuadd Les a Sefydliad Pendyrus, d.d.

Mae etifeddiaeth y diwydiant glo â gwreiddiau dwfn yn niwylliant Pendyrus ac, am bron 90 o flynyddoedd, mae'r Neuadd wedi bod wrth galon y gymuned, gan ddod â phobl ynghyd. Yn y blynyddoedd diweddar, caewyd y llyfrgell leol a'r cyfleuster i bobl ifanc, felly mae'r adeilad yr un mor bwysig heddiw ag yr oedd ym 1933. Tony Maz

Dangosir detholiad o gofnodion y Neuadd isod, ac maent yn rhoi syniad o bwysigrwydd y Neuadd i'r gymuned dros y blynyddoedd a sut mae cefnogaeth y bobl leol wedi sicrhau ei llwyddiant parhaus. Betty Gosling

Spanish Aid Committee collection (1938)

Casgliad y Pwyllgor Cymorth i Sbaen

Christmas Donations (1939)

Rhoddion y Nadolig

War Bonus issued to Tylorstown Welfare Hall staff (1940)

Bonws Rhyfel wedi'i roi i staff Neuadd Les Pendyrus

Free Show at Tylorstown Welfare Hall (1941)

Sioe am ddim yn Neuadd Les Pendyrus

Christmas Donations (1944)

Rhoddion y Nadolig

VE day in Tylorstown, 1945 (page 1)

Diwrnod VE ym Mhendyrus

VJ day in Tylorstown (1945)

Diwrnod VJ ym Mhendyrus

List of donations granted by Tylorstown Welfare Hall (July 1953)

Rhoddion

Donation of TV set to local hospital (1954)

Rhodd o deledu i'r ysbyty lleol

Photograph of Clock Commemorative Plate (2021)

Ffotograff o Blât Coffaol Cloc

Clock installed at Institute (1954)

Cloc wedi'i osod yn yr athrofa

Tylorstown Library and Institute letter of support (n.d.)

Llythyr o gefnogaeth gan Lyfrgell a Sefydliad Pendyrus

        

Blaen Nesaf