O’r Ffosydd i Gadair Prifysgol: Ffurfiant yr Athro Henry Lewis

gan Gethin Matthews (ENG / CYM)

Cyflwyniad

Henry Lewis oedd un o’r academyddion cyntaf a apwyntiwyd gan y sefydliad newydd, Coleg y Brifysgol, Abertawe. Derbyniodd ei gadair yn 1921, ac ef oedd Pennaeth Adran y Gymraeg tan iddo ymddeol yn 1954.  Enillodd enw iddo’i hunan drwy ei awdurdod academaidd a’i feistrolaeth o faes gramadeg yr ieithoedd Celtaidd.  Adargraffwyd ei lyfr, Datblygiad yr Iaith Gymraeg, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1931 ac a ddiweddarwyd yn 1948, gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1983. Gellir dadlau mai ei  gyfraniad mawr arall oedd cydweithio gyda Holger Pederson i gyhoeddi cyfieithiad a diweddariad o gyfrol Pederston, A Concise Comparative Celtic Grammar (1937, diweddariad 1961). Mae’r cyfraniadau hyn wedi ennill parch mawr iddo a than yn ddiweddar gwelwyd arlun ohono yn adeilad Keir Hardie y Brifysgol yn syllu ar y rhai a ddaw i mewn. Roedd yn aelod  cydwybodol o nifer o bwyllgorau’r    Brifysgol, a chyfrannodd i weithgareddau nifer o gymdeithasau a byrddau golygyddol, ac yn sgîl hyn dyfarnwyd iddo’r C.B.E. ym mlwyddyn ei ymddeoliad. Felly mewn llawer ffordd y mae rhan olaf bywyd Lewis yn dilyn llwybr academyddion hynod eraill, drwy gyfuno gwaith academaidd, a gweithio ar bwyllgorau a chyfrannu fel gŵr cyhoeddus, parchus at waith y tu allan i gylchoedd y Brifysgol.  
 

Fodd bynnag, fel gyda llawer o’i gyfoedion, ymyrrodd y Rhyfel Byd Cyntaf ym mywyd a gwaith Lewis. Hwyrach y byddai wedi derbyn swydd academaidd allweddol ymhen amser heb ymyrraeth y rhyfel a’i ganlyniadau, ond gellir dadlau mai effeithiau’r rhyfel fu’n gyfrifol am ei roi ar lwybr a’i harweiniodd ar hyd y ffordd i’r Gadair yn Abertawe. Mae manylion bywyd preifat Henry Lewis yn cael eu datgelu gan archif hynod a gyflwynwyd i Archifau Richard Burton yn y Brifysgol yn 2017.  Mae dyddiaduron o 1916 i 1918 yn ein galluogi i olrhain ei syniadau a’i farn yn ystod y blynyddoedd hyn ac mae’n ddadlennol i’w cymharu ag erthyglau a gyhoeddodd. Gwelwn ŵr ifanc a chanddo rhywbeth i’w ddweud am Gymru, y byd a’r ddynoliaeth. Yn y ffosydd y daeth o hyd i’w lais fel ffigwr cyhoeddus mewn cylch diwylliannol Cymreig. Mae’r cyfnod yn nodi ei ymwneud cyntaf fel sylwebydd ar faterion yn ymwneud â diwylliant, iaith a chyfundrefn addysg Cymru.

Dechrau Addawol

Ganwyd Henry Lewis yn Ynystawe yn Awst 1889, yn fab ifancaf William Lewis a’i wraig Sarah. O ysgol sirol Ystalyfera aeth i astudio’r Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol  Cymru, Caerdydd. Dywed adroddiad ychydig o flynyddoedd yn  ddiweddarach, iddo raddio gydag anrhydedd y dosbarth cyntaf mewn Cymraeg, rhywbeth na wnaeth ond rhyw hanner dwsin o fyfyrwyr ers sefydlu Prifysgol Cymru.  Tra yng Nghaerdydd cyhoeddwyd ei gyfraniad cyhoeddus cyntaf mewn llythyr ym mhapur y Coleg yn 1910 pryd mae’n dweud, ‘If we neglect our native tongue … we lose our hold on the Welsh masses to whom their language is almost everything.’  Aeth ymlaen i Goleg Iesu, Rhydychen, lle bu’n astudio dan arolygaeth Syr John Rhys, cyn dychwelyd i ddysgu yn ei hen ysgol, ac yna symud i Ysgol Sirol Llanelli  yn gynnar yn 1915. Ymunodd â’r Gwarchodlu Cymreig (Welsh Guards) ym mis Rhagfyr pan oedd yn 26 oed. Er mai gwirfoddolwr ydoedd, erbyn hyn roedd gorfodaeth filwrol ar y gorwel  ac roedd pwysau ar ŵyr ifanc o nifer o sefydliadau i ymuno’n wirfoddol yn hytrach na chael eu gorfodi i listio. 

Wedi sawl mis o rag-hyfforddiant, cyrhaeddodd Ffrainc ar 1 Medi 1916, a dyna pryd dechreuodd ysgrifennu yn ei ddyddiadur. Mae llawer cofnod yn fyr, ond maent yn ymwneud â sefyllfa Lewis yn Ffrainc, ei ohebiaeth â’i deulu, a’i sylwadau ar faterion diwylliannol, crefyddol a gwleidyddol. Ysgrifenna mewn Cymraeg a Saesneg, gan newid iaith oddi mewn i rai o’i sylwadau. 
 

Ni chafodd flas ar yr awyrgylch yn y Corfflu Cymreig - elît y fyddin Brydeinig yn eu tŷb ei hunan. Yn ystod ei amser yn Ffrainc dengys ei ddyddiadur nad oedd yn meddwl llawer am feddylfryd ‘spit and polish’ ei gatrawd. Mae’r cofnod am 1 Tachwedd 1916 yn darllen:

‘Gds Dvn [Guards Division] in review by H R H Duke of Connaught – grand military sight, but such affairs are useless + from point of view of the pvte [private] soldier are a positive humbug. A fine day for it fortunately.’

Bu sawl gwrthdaro rhyngddo â phennaeth ffyslyd, fel y dengys cofnod 21 Tachwedd:

Braced up to S M [Sergeant Major] for missing pde [parade] yesterday, + tho my case was quite clear was told that I was telling pack of lies. Put under open arrest: this removed after Sgt Griffiths’ explanation that my case was correct. I have never felt enamoured of Bland – but he is an utter pig. It is simply scandalous that free-born British citizens who of their own free will have sacrificed all for their country’s sake should receive a dog’s treatment from such hollow, empty-headed wasters as this acting S M of ours. I feel physically unwell.

Ac eto yn yr un wythnos wrth i Henry Lewis wrthwynebu mân swyddogion oedd yn creu’r rheolau, roedd yn paratoi ysgrif ‘Gwladgarwch ac Ymerodraeth’[5]. Mae’r ysgrif hon sy’n nodi ei fod gyda’r Corfflu Cymreig yn Ffrainc, yn llawn optimistiaeth am ddyfodol Cymru. Mae’n rhagweld y bydd Cymru yn cyrraedd ei llawn dwf trwy ei haberth yn ystod y rhyfel presennol, ac wrth iddi dyfu mewn hunan-hyder bydd y wlad yn cynnig buddion i weddill Prydain a’r Ymerodraeth. Mae Lewis yn dechrau ar nodyn cadarnhaol, yn hyderus fod Cymru yn ffynnu.

Llawenydd i galon Cymro ar faes y gad yw gweled arwyddion amlwg bod "rhyw gynnwrf yn y gwersyll" yng Nghymru'r dyddiau hyn, a bod Cymry gwlatgar yn ymdrechu'n ddycnach nag erioed at ddiogelu enaid y genedl rhag unrhyw niwed yn y tywyllwch a orchuddia'r byd yr awr hon[6].

Craidd dadl yr ysgrif yw bod yr Ymerodraeth Brydeinig yn rym da yn y byd, yn caniatáu i’r gwledydd sydd o dan ei hadain i ddatblygu a blodeuo yn eu hamser eu hunain o dan ei nawdd a gofal. Nid dadl newydd oedd hon gan fod llawer o wleidyddion Cymru ynghyd ag arweinwyr barn yn coleddu syniadau da ac yn annog y Cymry i gefnogi’r anturiaethau ymerodrol[7]. Canlyniad y syniadau hyn oedd ei bod hi’n iawn i Gymry gwladgarol i ymladd dros yr Ymerodraeth yn erbyn yr ymosodwr gormesgar a byddai hyn yn arwain at ddyfodol llewyrchus i Gymru balch a hyderus, a gawsai eu gwobrwyo am eu cyfraniad gan yr awdurdodau yn Llundain.

Cyhoeddodd:

Y mae Cymru’n rhan o’r Ymerodraeth fwyaf a welodd y byd erioed, a magodd feibion sydd ymhlith arweinwyr disgleiriaf yr Ymerodraeth honno. ... Gan fod Cymru’n aelod o’r Ymerodraeth hon dylai ymegnïo i’w gwneuthur ei hun yn hanfodol i’r Ymerodraeth. ... Gall Cymru ddysgu iddo werth yr ysbrydol, oblegid profodd mai hwnnw yw prif obaith y bobl[8].

Ystyriodd fod gan Brifysgol Cymru rôl arbennig mewn cynnal a hyrwyddo traddodiadau Cymreig. Dylai fod yn cynhyrchu ‘dinasyddion a fo dinasyddion yn wir’)[9]. Yn wahanol i’r syniad ‘Deutschland über Alles’ a oedd wedi meddiannu meddwl yr Almaenwr, gallai Cymry ddyrchafu ‘ffyrdd rhinwedd a daioni’. Y gwir ddinesydd fyddai’r ‘neb a gadwo’i olwg ar enaid y genedl, ac a ymdrecho i’w gadw’n bur a difefl’[10].

Fodd bynnag, yn fuan wedi gorffen yr ysgrif hon, dechreuodd iechyd Lewis waethygu, ac ar 25 Tachwedd 1916 cymerwyd ef i’r ysbyty. Neffritis oedd y diagnosis (llid yr arennau). Roedd yn ollyngdod iddo glywed y newydd ei fod yn mynd yn ôl i Brydain (neu ‘Blighty’, ys dywed yntau) i atgyfnerthu, ac mae llawer o gofnodion y dyddiadur yn bositif. Roedd ar y llong yn ôl i Loegr, 6-7 Rhagfyr 1917, a dechreuodd ei feddwl droi at faterion gwleidyddol:

… What about the Gov[ernmen]t? I think that a change is needed. It appears to me Asquith rather represents “petticoat govt.” & it is time we were rid of it. Get off boat about 10am. See in paper that Lloyd George is Prime Minister. Excellent. …

Roedd yn hyderus ac optimistaidd wrth lunio ‘Calennig i Blant Cymru’ a ymddangosodd yn Y Darian, papur newydd a gyhoeddwyd yn Aberdâr[11]. Anelwyd yr anogaeth at blant Cymru, neu i fod yn fanwl, at fechgyn gan eu cymell i anelu’n uchel a chyrraedd eu hamcanion er mwyn i Gymru lwyddo.

Siaredir llawer am draddodiadau Cymru, ac y maent yn aml a dyrchafol iawn. Ar yr un pryd, y mae hefyd ddiffyg traddodiad yn bod mewn llawer cylch, ac ni allaf lai na chredu mai un o ddiffygion mawr ein haddysg, yn enwedig ein haddysg uchradd, ydyw bod ein hysgolion – a’n Prifysgol o ran hynny – heb fagu iddynt eu hunain draddodiadau digon cryf i danio dychymyg yr ysgolheigion[12].

Adleisir yr hyn a fynegir yn yr erthygl hon gan un arall a ysgrifennwyd tua’r un pryd ac a gyhoeddwyd yn Y Dysgedydd, cylchgrawn misol yr Annibynwyr. Defnyddiodd fel teitl llinell o’r Anthem Genedlaethol, ‘O bydded i’r Heniaith barhau’. Mae’r cylchgrawn yn nodi i’r erthygl gael ei hysgrifennu tra bod ‘Corporal Henry Lewis’ yn atgyfnerthu mewn ysbyty yn Cheltenham. Fel yr ysgrif yn Y Darian, mae Lewis yn cael ei symbylu gan y posibilrwydd o golled anadferadwy y diwylliant Cymreig, ac mae’n annog y darllenwyr i weithredu er mwyn diogelu na chollant olwg ar werth y Gymraeg ymhlith colledion eraill y rhyfel.

Y mae’r genedl Gymraeg hithau wedi cyd-dyfu â’r iaith Gymraeg, ac ni bydd byw’r naill heb y llall mwyach. Pan ballo’r iaith, peidia’r genedl â bod, ac yna ni bydd y Cymry ond megis erthylod egwan dirmygedig. Eithr os byddwn ffyddlon i’r iaith, a myfyrio’i llenyddiaeth, trosglwyddwn i’r oesoedd a ddêl draddodiadau am fywyd syml a phur, am feddyliau glân a chalonnog. Cadwn yn fyw ddelfrydau aruchel a dyrchafol, a pharatown y ffordd i genedl gref ac uniawn fyned rhagddi i gyflawni ei gorchwyl a mynegi ei neges i’r byd[13].

“The Dreadfulness of War” (Erchylltra Rhyfela)

Fodd bynnag, mewn cyferbyniad i’r ystyriaethau hyn, mae’r dyddiadur yn dangos iddo gael amser tra yn yr ysbyty i ystyried cyflwr y milwr â chanddo rheswm i gwyno, ac ystyried ystyr y rhyfel. Pan ddaeth achosion gwael eraill i’r ysbyty, ysgrifennodd (3 Ionawr 1917):

This brings home the dreadfulness of war. To hear these poor chaps groaning in the anguish of their pain - + to think of so-called “conscientious objectors”. It is strange what enormities are committed in these times in the name of the most sacred things. Thus like the low beastlike treatment meted out to Tommy in France. How far we are from being human ...

Dengys y sylwadau hyn fod Lewis yn ymwybodol o’r paradocsau annatodadwy a achosai benbleth ar adeg ryfel. I feddylwyr rhyddfrydol fel Lewis a gredant fod y rhyfel yn gyfiawn, roedd y syniad o orfodaeth filwrol yn wrthun ar sail moesoldeb, ond eto roedd drwgdybiaeth fod y rhai a wrthododd ymuno â’r lluoedd arfog yn osgoi eu dyletswydd. Cydnabu yntau’r anghenraid i wrthsefyll athroniaeth dreisgar filitaraidd yr Almaen, ond fe gasaodd y llithriad tuag at filitariaeth gyffelyb ar ochr y Cynghreiriaid. Mae darnau o’r dyddiadur ar goll: mae’n ymddangos fod y tudalennau am fis ar ôl 13 Ionawr 1917 wedi eu rhwygo allan yn fwriadol. Pan mae’n parhau, hanner ffordd drwy’r cofnod am 16 Chwefror, mae’n amlwg fod Lewis wedi ei ddadrithio.

… fed up with this life. It is as aimless, as purposeless, & in it so little of what really makes life. It intensifies in us all the perfect futility, the utter wrongness of war.

Erbyn hyn roedd wedi ei ddadrithio gan y Gwarchodlu Cymreig. Pan welodd yn y papur newydd fod Sergeant Major Bland wedi derbyn y Military Cross, y sylw a wnaeth oedd ‘What an infernal shame’ (5 Ionawr 1917). Penderfynodd gael comisiwn mewn catrawd arall, ond pan ddarganfu fod yn rhaid iddo ymgymryd â’r ‘loatheful horrid journey’ yn ôl i ganolfan y Gwrchodlu Cymreig er mwyn gwneud hyn datganodd ei fod yn teimlo’n dost. Ar 14 Mai 1917 mae Lewis yn taranu yn erbyn agwedd y fyddin at ei dynion gan gwyno am yr hyn a ddywed oedd yn ‘disgusting treatment meted out to free citizens who have undertaken military service in order to save their country’. Mae’n amlwg mai Cymru oedd y wlad y cyfeiria ati, ac nid ‘Prydain’ na’r ‘Deyrnas Unedig’[14]. Un asgwrn y gynnen i Annibynnwr fel Lewis oedd y flaenoriaeth a roddwyd i Eglwys Loegr.

The only Church Pde is for C of E. This is what is supposed to be a Welsh regiment ... Every Sunday the fatigues must be done by men who do not attend C of E.

Mae’n adrodd stori am y prif swyddog yn arswydo at y syniad o bregeth yn y Gymraeg, ac yn gwneud y sylw, ‘Oh most sublime ignorance! A service in the Welsh tongue associated with rebellion. Yet we are not in the time of the early Edwards!!’ (20 Mai 1917).

Yn ystod y cyfnod hwn roedd Lewis yn dal i ysgrifennu llythyrau ac yn danfon ysgrifau i’r Darian. Wrth ysgrifennu am Gymru a Rwsia, wedi chwyldro mis Chwefror, mae’n llawenhau fod ‘gwerin’ Rwsia wedi milwrio yn erbyn unbennaeth ormesol y Tsar, ac yn gobeithio y bydd rhinweddau ffydd, undeb a‘r gonestrwydd a amlygwyd gan y Rwsiaid i’w gweld yng Nghymru yn y dyfodol[15]. Unwaith eto, mae’n pwysleisio mai addysg oedd yr allwedd i lwyddiant, ac mae’n annog ei gydwladwyr i amddiffyn Prifysgol Cymru a oedd yn gynnyrch ‘Breuddwyd Glyn Dwr’[16].

Gan fod rhannau o’r dyddiaduron ar goll, nid oes unrhyw cofnod am Lewis yn symud at y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig (Royal Welsh Fusiliers). Wedi cael hyfforddiant fel swyddog, cafodd ei gomisiynu yn Is-Lifftenant ar 30 Hydref 1917. Dau ddiwrnod yn ddiweddarach roedd ganddo ysgrif olygyddol ‘Galw ar Weithwyr Cymru’ yn y Darian. Mae’n alwad cenedlaetholgar ar y Cymry i amddiffyn eu diwylliant a’u traddodiadau rhag pwysau Seisnigeiddio. Yn nhermau gwleidyddol, golyga y dylai’r Blaid Lafur yng Nghymru fod yn blaid Gymreig. Y mae Lewis yn uniaethu gwerin Cymru â’r dosbarth gweithiol – gwahaniaeth sylfaenol rhyngddo ac O. M. Edwards, a uniaethai’r werin â’r Cymry gwledig[17].

Y mae gan y gweithiwr Cymreig ei farn ei hun ar bynciau a phethau. Y mae ei ddelfrydau o’u hiawn fesur mor wahanol, er enghraifft, i’r Sais ag yw ei iaith i’w iaith yntau. Y mae tuedd ei feddwl yn wahanol, ac osgo’i fryd yn annhebig. Yn sicr, gall ymladd am yr un peth a’r Sais, a gall pob un o’r ddau gynorthwyo’i gilydd i ennill y gamp a gais. Eithr yn y pen draw, nid yr un defnydd a wna’r ddau o’r ennill, am eu bod mor wahanol i’w gilydd. Nid cyffelyb fu eu maeth, ac arall fu’r traddodiadau a etifeddodd y naill a’r llall ohonynt. Rhaid i’r Cymro frwydro fel Cymro, ac nid dynwared dull y Sais[18].

Mae’r dyddiadur yn parhau gyda chyfrol newydd yn 1918. Ar ddechrau’r flwyddyn roedd Lewis yn teithio drwy ogledd Ffrainc, ar ei ffordd i Ffrynt y Gorllewin.

Er nad oedd trefn arferol y Ffiwsilwyr Cymreig yn corddi gymaint ag eiddo’r Gatrawd Gymreig, roedd yn dal yn ddig wrth weithredoedd rhai o’r swyddogion uwch. Yn sicr, mae un yn cael y teimlad o’i ddyddiaduron nad oedd Lewis yn goddef ffyliaid yn llawen, ond eto bu’n rhaid iddo ddygymod ag ufuddhau i ddynion a oedd â grymoedd deallusol llai nag yntau. Wedi iddo orfod dioddef ‘Bayonet fighting course which was under a foot of mud in the torrent’ ar 26 Ionawr 1918 mae Lewis yn cofnodi ‘The terrible infant who is O.C.Coy [Officer Commanding, Company] absolutely fairs on my nerves with his foppish infantile ways.’ Ar 13 Chwefror bu’n rhaid i’r dynion fartsio am bedwar milltir yna sefyll yn y glaw am o leiaf chwarter awr cyn martsio heibio’r Brigadier General gan wisgo eu ‘small box respirators’ (mygydau nwy) am chwarter awr arall. Sylw Lewis oedd ‘Scandalous.’

Ar 23 Ionawr 1918, darllenodd gyda chymeradwyaeth erthygl ar ‘Cymru Fydd’ a ysgrifennwyd gan William George, brawd y Prif Weinidog, yn Y Beirniad[19]. Ynddi, mae George yn tanlinellu pwysigrwydd iaith, llenyddiaeth, addysg, tirlun a chrefydd yn arbennig i ddiogelu’r genedl Gymreig. Yn wir, roedd Lewis yn frwd dros gadw traddodiadau Cymreig, hyd yn oed yn awyrgylch diarth a chreulon y ffosydd. Mae cofnod wrth y mwyafrif o Suliau am y gwasanaeth a fynychodd, yn aml gyda sylw ar y bregeth. Yr oedd hefyd yn dal i weithio ar ysgrifau hynafol Cymru, a danfonodd gyfres o ysgrifau i’r Darian. Ynddynt mae’n rhannu ei waith ar gyfieithiadau canoloesol o destunau’r Beibl[20]. Dichon y gellid dehongli rhain fel rhan o strategaeth Lewis i ddal ei afael ar ei hunaniaeth ef ei hunan wrth iddo weld erchyllterau ymladd yn y ffosydd: ffordd i ddiogelu ei le fel Henry’r ‘ysgolhaig Celtaidd,’ yn hytrach nag fel ‘Is-Lifftenant Lewis’, y swyddog milwrol.

Mae’r dyddiadur yn cynnwys rhai darnau deifiol yn disgrifio ei brofiadau. Ar ddydd Sadwrn 23 Chwefror:

Take working party up to Armentières through the city. Dinas distryw – mor aethus a phetai dyn mewn bedd. Pawb wedi ffoi, a’r tai oll yn ddrylliau. The fine church a pitiful sight. Some of the smaller houses heartbreaking, with the sore signs of hasty evacuation. All this shambles gives a direct no to all lovers of war - & yet peace-mongers ought to see it. The Boche shells battery not far from us, & we detect some lachrymator gas.

Ar 1 Mawrth:

Gŵyl Dewi Sant. Bore godidog, ynghanol y fath haerllugrwydd hwn. Boche shells around here & in evening one of ours dropped short near Coy HQ. A very wild night – heavy strafe on both our flanks.’

Ar 10 Mawrth:

4.30am, frightfully heavy barrage round SPY[21] making it impossible to leave dug-out. Rum jars[22] , 4.2’ to 5.9’ lasting til 6am. An hour & a half of real hell. Boche raids posts. After the barrage, the loathsome ungodly loss of life & blood, making war ten thousand times worse of an utter abomination. My platoon – 1-3[23]. A glorious day, granted by God, reveals all this damnable unmeaning destruction by man.

Ar 12 Mawrth:

Resting a little, & weighing on my mind the damnable abomination of war. It’s all very well for London politicians to talk of the “last drop of blood”. The Daily Mail + a few more of them should have been in SPY. What if the people at home really knew. The Daily Mail would no more talk in its hypocritical way as the soldier’s friend. Its attitude + policy is the soldier’s worst enemy - & Tommy knows it.

Ffrynt y Gorllewin

Hyd yn hyn, roedd byddinoedd y Cynghreiriaid wedi bod yn wynebu’r Almaenwyr ar Ffrynt y Gorllewin ers ymhell dros dair blynedd, gydag ond ychydig iawn o symud i’r llinell flaen er gwaetha’r colledion trychinebus. Fel y noda’r cofnodion uchod, bu colled parhaol o ddynion trwy athreuliad; ond yn rhannau helaeth o’r Ffrynt arhosodd y llinell flaen yn agos iawn i le cloddiwyd y ffosydd yn hydref 1914. Fodd bynnag, bu newid o bwys yn narlun ehangach y rhyfel ar ddiwedd 1917 oherwydd bu i’r Rwsiaid ildio i’r Almaenwyr, ac felly rhyddhau cannoedd o filoedd o filwyr Almaenig ar gyfer gwasanaeth yn y gorllewin. Gydag Unol Daleithiau America wedi ymuno â’r ymgyrch yn 1917, gwyddai cadfridogion yr Almaen mai eu hunig obaith o ennill y rhyfel byddai i daro’n galed ar Ffrynt y Gorllewin cyn i luoedd yr Americanwyr gyrraedd maes y frwydr.

Dechreuodd rhuthr yr Almaenwyr, ‘Ymgyrch Michael’, ar 21 Mawrth. Er bod safle Lewis wedi cael ei fomio’n ffyrnig â nwy, ni ymosodwyd yn uniongyrchol arnynt. Ar Wener y Groglith, 29 Mawrth, cwynodd Lewis nad oedd yn Hebron, Clydach, y capel a fynychai pan oedd adre; ar Sul y Pasg cafodd ddiwrnod i orffwys, a myfyriodd ar neges yr Atgyfodiad mewn amser mor gythryblus. Symudwyd ei uned sawl gwaith yn ystod y dyddiau nesaf - nid yw’n glir ai cilio trefnus ydoedd, neu ymateb i’r sefyllfa mewn panig. Yn y cofnod ar ddydd Sul 14 Ebrill, ysgrifennodd, ‘Rhyw hiraeth am fod gartref a chlywed tôn a phregeth Gymraeg’. Erbyn y Sul canlynol roedd wedi cael ei symud i’r rhes flaen i baratoi ar gyfer gwrthgyrchiad. Mae cofnod 22 Ebrill yn darllen:

Letter from Billie Davies, recalling fresh memories. Barrage 7.30pm, seeing the troops go over a glorious sight. Hit 7.45pm, & devotedly attended to by my orderly Littler. Bosche come over in droves. Am carried by 4 of them, pass thro 131 Fd Amb to 129 Fd Amb, where I am dressed by F T Rees (Major)[24]. After a warm-up, car to No 3 Canadian Staty Hosp [Stationary Hospital] (C.C.S.) [Casualty Clearing Station] at Doullens.

 

Achoswyd y clwyf a gafodd Lewis gan shrapnel a rwygodd ochr chwith ei ben ôl. Symudwyd ef mewn trên i Ysbyty’r Groes Goch (Rhif 2) yn Rouen ar 24 Ebrill. Arhosodd yno yn atgyfnerthu, pan dderbyniodd newyddion ar 5 Mai gan filwr arall o’r Ffiwsilwyr Cymreig mai dim ond un swyddog oedd ar ôl yng Nghwmni D y 13eg Bataliwn (ei uned ef). Ei sylw yn ei dyddiadur oedd, ‘Diffyg synnwyr a phwyll yn unig a eill gyfiawnhau rhyfel – gwneuthur difrod ac anfri ar gyrff pobl er mwyn setlo rhyw faterion’. A’r diwrnod canlynol, ‘Marw Capt Wells MC, RAF, ar ol brwydr galed am ei fywyd. “I ba beth y bu y golled hon?”[25].

Ar 9 Mai cafodd Lewis lawdriniaeth a achosodd boen iddo am sawl diwrnod ar ôl hynny. Tua diwedd y mis cafodd wybod ei fod i ddychwelyd i ‘Blighty’, a oedd yn rhyddhad mawr wrth iddo sylweddoli bod y rhyfel wedi dod i ben iddo yntau. Mynegodd ei rwystredigaeth ar y ffordd yr arweiniwyd y rhyfel ar 30 Mai: ‘More push by Boche – some tantalising futility about our Higher Command. We were taken completely by surprise.’

Dychwelyd i Gymru

Hwyliodd o Le Havre yng nghyfnos 1 Mehefin, ac roedd wrth ei fodd iddo gael dychwelyd i Gymru, gan gyrraedd Ysbyty Edward VII yng Nghaerdydd erbyn noswaith 2 Mehefin. Ar unwaith ailafaelodd yn ei waith academaidd gan ymddiddori yn y cecri o fewn i Goleg y Brifysgol, Caerdydd. Cafodd lu o ymwelwyr, o gartref ac o’r byd academaidd. Galwodd yr Athro Thomas Powel, a oedd newydd ymddeol o Gadair y Celtaidd ond nid oes sicrwydd ai W.J. Gruffydd, olynydd Powel, yw’r ‘William John’ a alwodd am sgwrs neu ddwy[26]. Mae’r dyddiadur hefyd yn cyfeirio at ymweliad gan Miss Gwladys Thomas, a briododd yn 1921.

Yn fuan, roedd Lewis wedi dechrau ysgrifennu yn trafod pynciau’r dydd. Dechreuodd ddadlau â gohebydd yn Y Darian am ryw agweddau astrus o ramadeg[27]. Ysgrifennodd adolygiadau o destunau academaidd i’r Western Mail a’r Dysgedydd[28]. Trafododd bynciau addysgol a gwleidyddol gyda’i ymwelwyr, ac mewn un cofnod dadlennol yn ei ddyddiadur ar 30 Awst, ysgrifennodd:

Siarad hefyd am yr ymgais i gael rhyw fath o “military training” yn yr ysgolion – a minnau’n gryf yn ei erbyn. Gwneud dynion sy’n bwysig – nid rhyw beiriannau dall-ufudd.

Yn hwyr ym mis Medi roedd wedi gwella digon i dalu ymweliad â’i gartref, ac yna fe’i symudwyd i gartref cryfhau yn Llandâf. Yng Nghaerdydd dechreuodd ymweld â chydnabod yng Ngholeg y Brifysgol i drafod swydd gwag darlithydd yn y Gymraeg, gan gwrdd â’r cofrestrydd ar 18 Hydref. Cynigwyd y swydd iddo ar 21 Hydref, ar yr amod y gallai ddechrau gweithio mewn wythnos. Fodd bynnag, rhwystrodd biwrocratiaeth y fyddin y cynllun pan ddywedwyd wrtho na fyddai cyfle i’r bwrdd meddygol ystyried ei ryddhau am chwe mis arall. Yna, wedi’r Cadoediad prysurodd pethau ac ar 2 Rhagfyr argymhellodd y bwrdd meddygol ei fod yn cael ei ryddhau: ‘Feel very elated & relieved.’

Yn wleidyddol, erbyn hyn, roedd Lewis yn gefnogwr cryf o’r Blaid Lafur. Fe’i siomwyd gan ymgyrch Lloyd George a’i Glymblaid, gan ddatgan ar 25 Tachwedd; ‘I feel fed up with affairs in this country in general – centring around the General Election. … Am much heartened by reading “The New Statesman” which sets forth the claims of the Labour Party in really noble terms. I don’t think I have ever read any political literature with such a grounding about it – really profound.’ Ar 14 Rhagfyr, mae ei gofnod yn darllen:

The General Election. I hope Labour will poll heavily. It is our only hope. See “The Yellow Ticket” – a scathing comment on the secret police of old Russia[29]. And yet our politicians hold up their hands with awe and cry out “Bolsheviks”! Ll G [Lloyd George] & Co are like so many fattened geese on a farm yard a few weeks before the Xmas kill.

Fe’i siomwyd yn llwyr gan ganlyniad yr etholiad, pan enillwyd buddugoliaeth lwyr gan Glymblaid Lloyd George, a gyfansoddwyd yn bennaf gan Geidwadwyr. Y cofnod yn y dyddiadur am 28 Rhagfyr yw, ‘Y wlad yn hollol feddw. Pa beth a ddaw o hyn oll?’

Wrth i’r flwyddyn dynnu tua’i therfyn, mae’n ymddangos fod gwahanol elfennau ym mywyd Henry Lewis mewn cytgord, ac yn caniatáu’r ffordd ymlaen iddo osod cwrs y byddai’n ei ddilyn am weddill ei yrfa. Mae’r dyddiadur yn cynnwys cyfeiriadau at faterion gwleidyddol, mân bethau’r brifysgol, y gweithgareddau diwylliannol a roddodd bleser iddo, y pregethau a glywodd, a sylwadau ar statws yr iaith Gymraeg. Byddai pob un o’r rhain yn elfennau o bwys yn ei fywyd a’i ymdrechion am yr hanner canrif nesaf. Ar 31 Rhagfyr cyfeiriodd at gyfarfod hawddgar a gafodd gyda’r Parchg Tywi Jones, gweinidog gyda’r Bedyddwyr a golygydd Y Darian, a rannodd y newydd annymunol am y dadlau yn Ysgol Merched Aberdâr, lle roedd y brifathrawes yn ymgyrchu yn erbyn yr iaith Gymraeg[30]. Ond mae sylw olaf y flwyddyn yn bositif: ‘Diwedd blwyddyn yn gynhyrfus – gobeithio iddi fod yn droad dalen wen iawn!’

Bu Henry Lewis yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg yng Nghaerdydd am ddwy flynedd arall cyn derbyn y Gadair ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Mehefin 1921[31]. Mae dyddiaduron eraill yn yr archif o 1919 a 1922, ond dyddiaduron gwaith yw rhain, yn cynnwys gwybodaeth am drefniadau a phwyllgorau, yn hytrach nag yn cynnwys ei safbwynt a’i syniadau. Fodd bynnag, mae’r adroddiadau o fisoedd cynnar 1919 yn ddigon personol i ni weld fod Lewis bellach yn ymladd yn erbyn difaterwch y myfyrwyr ac ystyfnigrwydd rheolwyr y Brifysgol, yn hytrach na brwydro yn erbyn strwythurau anystwyth y Fyddin[32].

Y mae, wrth gwrs, yn gwbl bosibl y byddai un a chanddo dalent a chynneddf ddeallol tebyg i eiddo Lewis, wedi codi i Gadair Prifysgol yn ei dridegau cynnar heb ymyrraeth y rhyfel. Eto y mae’n anodd edrych ar gwrs ei fywyd, yn y blynyddoedd 1916 i 1918 pan oedd mewn iwnifform, heb gredu i’r cyfnod fod yn allweddol i’w lwyddiant. Yn yr amser hwn dechreuodd ennill enw iddo’i hunan fel ffigwr cyhoeddus, a thyfodd ei hyder i rannu ei syniadau â’r cyhoedd. Beth bynnag ei syniadau cenedlaetholgar cyn 1916, erbyn 1918 roedd yn gadarn ei safbwynt ar genedlaetholdeb Cymreig ac yn uchel ei lais wrth gefnogi’r iaith a thraddodiadau Cymraeg. Sylw Ben Bowen Thomas yw y byddai’r Henry Lewis aeddfed yn gwrido at ei safbwynt o blaid pleidio achos Imperialaeth yn ‘Gwladgarwch ac Ymerodraeth’ (1916), ond nid oes awgrym iddo newid ei safbwynt ar graidd ei ddadl ei fod yn iawn i’r Cymry amddiffyn eu magwraeth a’u traddodiadau[33]. Y mae’r cyfan a ysgrifennodd ynglŷn â’r Gymraeg yn y cyfnod hwn yn gyson â hyrwyddo’r iaith. Dichon iddo goleddu’r safbwynt cyn 1916 fod Cymru fel gwlad wedi ei thrwytho mewn diwylliant a chyda’r potensial o gyfoethogi Ewrop a’r byd; ond mae’n ymddangos mai’r rhyfel a’i gwnaeth yn bosibl iddo benderfynu mai ei dynged oedd i amddiffyn a hyrwyddo’r Gymru hon.

 

Gwelwn newid yn ei safbwynt gwleidyddol wrth iddo droi (fel llu o bobl eraill cymoedd y de) o fod yn deyrngar i Lloyd George i fod yn gefnogwr o’r Blaid Lafur. Gweddnewidiwyd hefyd ei berthynas â’r sefydliad milwrol. Wedi iddo wirfoddoli i ymuno â’r Gwarchodlu Cymreig yn 1915, yr oedd wedi blino o galon â’r gatrawd prin flwyddyn yn ddiweddarach. Er iddo ddod yn un o is-swyddogion y Ffiwsilwyr Cymreig, y mae’n amlwg eu fod yn dal gwg yn erbyn mawrion y Fyddin. Er y byddai’n anacronistaidd i ddefnyddio ymadrodd fel ‘Lions led by Donkeys’, sy’n perthyn i’r chwedegau, y mae’n amlwg mai i’r cyfeiriad hwnnw y mae ei feddwl yn troi wrth iddo gyfeirio at ryfel fel ‘perfect futility’ ac at ‘tantalising futility’ yr arweinwyr[34]. Ac eto mae’n amlwg iddo barhau i gredu ei fod yntau a’i gymheiriaid yn ymladd yn erbyn y drwg, a ni chydymdeimlai â gwrthsafiad gwrthwynebwyr cydwybodol.

Roedd gwreiddiau cadarn gyda Henry Lewis; roedd ei ymroddiad i’w fro ei hun yng ngwaelod Cwm Tawe yn ddiffuant. Mabwysiadodd syniadau ‘y werin’ a boblogeiddiwyd gan O. M. Edwards, a’u haddasu fel bod ffocws ei feddwl ar gymunedau o weithwyr a busnesau bach a siaradai Gymraeg yn ei ran ef o ardaloedd diwydiannol De Cymru. Mae’n wir ei fod yn euog o ddelfrydu trigolion y gymdeithas hon, wrth iddo ganolbwyntio ar eu rhinweddau a’u traddodiadau creadigol. Efallai mai canlyniad oedd hyn o gael ei rannu o wres a chysur y gymdeithas hon, a’i wthio i amgylchfyd gwahanol, lle rheolai iaith arall, a ble roedd poen a dioddefaint yn fygythiad a deimlid bron bob dydd. Dichon mai ei ryddhad o gael bod allan o beryglon rhyfel ynghyd â’i awydd i roi gwerth ar y ryfel a’i ysgogodd o 1918 ymlaen i gysegru ei fywyd i amddiffyn a maethu ei genedl[35].

Troednodyn

[1] Ar gyfer astudiaethau bywgraffiadol o Lewis, gweler Ben Bowen Thomas, ‘Henry Lewis: Gwerinwr, Cymro’, Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 17.2 (Gaeaf 1971), 121-35; T. J. Morgan, ‘In Memoriam: Dr Henry Lewis’, Journal of the Welsh Bibliographical Society, 10.2 (1968), 1-3, a’r erthygl amdano yn y Bywgraffiadur Cymreig, [cyrchwyd 10 Hydref 2018]. Ceir rhestr o’i gyhoeddiadau yn D. Ellis Evans, ‘Rhestr o gyhoeddiadau Dr. Henry Lewis’, Journal of the Welsh Bibliographical Society, 10.3 (Gorffennaf 1970), 144-52.

[2] Hoffwn gydnabod haelioni Mrs Eleri Bines wrth ymddiried y trysorau teuluol hyn i Archifau Richard Burton. Maent i’w darganfod o dan y cyfeirnod 2017/14/1-6. Mae’r dyddiaduron ym mlwch 6: mae gan ddyddiadur 1918 y cyfeirnod 139; dyddiadur 1916-17, 140; a dyddiadur 1919, 143.

[3] ‘Cymrodorion’, Llanelly Star, 6 Chwefror 1915, t.4.

[4] Cap and Gown, Mai 1910, dyfynnwyd yn Ben Bowen Thomas, ‘Henry Lewis’, t.127.

[5] Mae’r adroddiad yn y dyddiadur ar gyfer 17 Tachwedd yn nodi ei fod yn gweithio ar yr erthygl hon.

[6] Henry Lewis, ‘Gwladgarwch ac Ymerodraeth’, Y Beirniad, 6.4 (Gaeaf 1916), 217-223, t.217. Gellir dod o hyd i hysbysebion ar gyfer y rhifyn hwn o’r Beirniad ym mhapurau newydd Cymru o ddechrau Ebrill 1917 ymlaen.

[7] Ynglŷn â’r pwynt hwn, gellid dyfynnu nifer o areithiau T. E. Ellis, arweinydd answyddogol y Rhyddfrydwyr Cymreig tan ei farwolaeth gynnar yn 1899 (gweler, er enghraifft, ei araith i’r gymuned Gymreig yn Kimberley, a ddyfynnwyd yn T.I. Ellis, Thomas Edward Ellis: Cofiant Cyfrol 2, 1886-1899 (Lerpwl, 1948), t.131); gellid hefyd dyfynnu nifer o areithiau Lloyd George, yn y dyddiau pan y’i ystyriwyd yn ‘radical’ yn ogystal ag yn y cyfnod wedi iddo ddod yn aelod allweddol o’r Cabinet (gweler, er enghraifft, Cyril Parry, David Lloyd George (Dinbych: Gwasg Gee, 1984) t.47). Un sylwebydd allweddol arall oedd Owen M. Edwards a oedd, ymysg ei gyfraniadau eraill i fywyd cenedlaethol Cymru, sylfaenydd a golygydd y cylchgrawn misol Cymru. Ar gyfer ei safbwynt ffafriol tuag at yr Ymerodraeth Brydeinig gweler yr erthygl ‘Yr Ymylwe Geltaidd’, Cymru, 18.105, 15 Ebrill 1900, 197-202 a’r drafodaeth yn Aled Jones a Bill Jones, ‘Empire and the Welsh Press’, yn Simon J. Potter (gol.), Newspapers and Empire in Ireland and Britain (Dublin: Four Courts Press, 2004), tt.75-91, tt.83-7.

[8] Henry Lewis, ‘Gwladgarwch ac Ymerodraeth’, tt.219-21.

[9] Henry Lewis, ‘Gwladgarwch ac Ymerodraeth’, t.218.

[10] Henry Lewis, ‘Gwladgarwch ac Ymerodraeth’, p.219.

[11] ‘Calennig’ yw’r rhodd draddodiadol (o losin neu lo) i gyfeillion neu gymdogion adeg y Flwyddyn Newydd.

[12] Y Darian, 4 Ionawr 1917, t.3.

[13] Henry Lewis, ‘O bydded i’r Heniaith barhau’, Y Dysgedydd, Mawrth 1917, tt.122-4.

[14] Ni chyfeiria at ‘Brydain’ neu’r ‘Deyrnas Unedig’ yn y dyddiaduron. Ceir sôn yn y dyddiaduron am ‘Blighty’, sef ymadrodd milwyr y Rhyfel Mawr am eu gwlad (neu’r ddelwedd ramantus o’u gwlad) – gair a ddaeth yn lledneisair am anaf a oedd yn ddigon dwys i sicrhau trosglwyddiad i ysbyty ym Mhrydain. Nid oes awgrym fan hyn nad oedd Lewis yn gweld ei hunan fel Prydeiniwr oherwydd mae’n amlwg ei fod yn falch o safle Cymru ym Mhrydain a’r Ymerodraeth, ond y gwir yw mai prif hunaniaeth Lewis oedd fel Cymro. Gweler Ben Bowen Thomas, ‘Henry Lewis’, t.128.

[15]‘Rwsia a Chymru’, 19 Ebrill 1917, t.7. Gellir gweld datganiadau tebyg ar gyfer gobaith am ddyfodol disglair i Rwsia yn ysgrifau O. M. Edwards yn ei gylchgrawn Cymru: gweler Gethin Matthews, ‘‘Un o Flynyddoedd Rhyfeddaf Hanes’: cyflwyno’r Rhyfel Mawr yn nhudalennau Cymru yn 1917’, yn Creithiau: Dylanwad y Rhyfel Mawr ar Gymdeithas a Diwylliant yng Nghymru, gol. Gethin Matthews (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2016), tt. 163-82, t.169.

[16] ‘Rwsia a Chymru’, 26 Ebrill 1917, t.7. Cyhoeddwyd llythyr arall yr wythnos ganlynol ar faterion ieithyddol Cymraeg: ‘Llythyrau at y Golygydd’, 3 Mai 1917, t.5.

[17] Datblygwyd cysyniad y ‘gwerin’, gyda’r awgrym gryf mai dyma bobl ‘go iawn’ Cymry, amddiffynwyr traddodiadau’r genedl, yn ysgrifau Owen M. Edwards, ac fe ddaeth yn syniad grymus.

[18] Henry Lewis, ‘Galw ar Weithwyr Cymru’, Y Darian, 1 Tachwedd 1917, t.5. Dilynwyd hon gan erthygl arall, ‘Plaid Llafur Gymreig’, ar 6 Rhagfyr 1917, t.2.

[19] William George, ‘Cymru Fydd’, Y Beirniad, Rhagfyr 1917, tt.161-76.

[20] ‘Cymraeg Hen’, Y Darian, 13 Rhagfyr 1917, t.3; ‘Cymraeg Hen’, Y Darian, 24 Ionawr 1918, t.6; ‘Hen Gymraeg’, Y Darian, 21 Chwefror 1918, t.3. Yn y llythyr cyntaf mae’n nodi bod y testun yn dod o lawysgrif Hafod 22 yn Llyfrgell Caerdydd. Yn ddiweddarach fe ehangodd ei ymchwil ar hwn a’i gyhoeddi yn ‘Darnau o’r Efengylau’, Y Cymmrodor, 31 (1921), 193-216.

[21] ‘S.P.Y.’ oedd ‘Strong Point Y’, un o’r safleoedd amddiffynedig ar y llinell yn ardal Armentières. Gweler ‘The Official History of the New Zealand Rifle Brigade’, t.90, < http://nzetc.victoria.ac.nz/tm/scholarly/tei-WH1-NZRi-t1-body-d5-d1.html> [cyrchwyd 28 Tachwedd 2018].

[22]Dyma ymadrodd sathredig y milwyr ar gyfer trench-mortar a ddyfeisiwyd gan y milwyr Almaenig: gweler ‘The Rum Jar, the Flying Pig, and the Ypres Express: WWI Slang for Germany’s Terrifying Munitions’, [cyrchwyd 28 Tachwedd 2018].

[23] Mae’n debyg ystyr hwn yw bod un wedi ei ladd a thri wedi eu hanafu.

[24] Mae’n debyg mai dyma’r F. T. Rees y soniwyd amdano’n enill y Military Cross (fel capten gyda’r RAMC) yn 1917: gweler ‘Cymru a’r Rhyfel’, Y Cymro, 26 Medi 1917, t.7.

[25]William Lewis Wells: gweler [cyrchwyd 18 Rhagfyr 2018].

[26] https://biography.wales/article/s-POWE-THO-1845, https://biography.wales/article/s2-GRUF-JOH-188[cyrchwyd 18 Rhagfyr 2018].

[27] ‘Gair o’r Ysbyty’, Y Darian, 11 Gorffennaf 1918, t.6; ‘Henry Lewis yn ateb’, Y Darian, 8 Awst 1918, t.6.

[28] ‘Reprints of Welsh MSS’, Western Mail, 19 Gorffennaf 1918, t.3; ‘Adolygiad’, Y Dysgedydd, Awst 1918, t.306.

[29] Heb os cyfeiria hyn at ffilm Americanaidd: gweler y cofnod ar yr Internet Movie Database, [cyrchwyd 28 Tachwedd 2018].

[30] Ar gyfer Tywi Jones gweler Noel Gibbard, Tarian Tywi: Cofiant y Parch. J. Tywi Jones (Caernarfon: Gwasg y Bwthyn, 2011).

[31]Y tair gadair gyntaf a hysbysebodd y sefydliad newydd oedd rheiny yn Ffangeg, Saesneg a Chymraeg. Ymgeisiodd Lewis am y swydd ar 18 Mai 1921 a chafodd ei chynnig iddo ar 16 Mehefin. Mae’n bosibl iawn felly mai ef oedd yr Athro cyntaf i gael ei benodi gan y Coleg.

[32]Am enghreifftiau, gweler yr adroddiadau ar 4 Chwefror (‘Present students rather disappointing on the whole. They lack vigour somehow, & require far more assertiveness’) a 19 Chwefror 1919 (‘callous indifference of most of the Coll. Authorities … utter ignorance of their point of view is positively disgusting’).

[33]Ben Bowen Thomas, ‘Henry Lewis’, t.128.

[34]Cofnodion yn y dyddiaduron ar gyfer 16 Chwefror 1917 a 30 Mai 1918, a ddyfynnir uchod. Yr un a boblogeiddiodd (ac efallai dyfeisiodd) yr ymadrodd Saesneg hon oedd Alan Clark yn ei The Donkeys (London: Hutchinson, 1961).

[35]Cyfeiriaf at y sylwadau yn ail baragraff Ben Bowen Thomas, ‘Henry Lewis’.