Menywod Blaenllaw Cymru
Creu'r Faner
Cyhoeddodd Being Human, gŵyl genedlaethol y celfyddydau yn y DU, mai ‘Torri Tir Newydd’ (Breakthroughs) fyddai ei thema yn 2022. Arweiniodd hyn at bartneriaeth rhwng Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe a Llyfrgell Glowyr De Cymru, a luniodd gynnig llwyddiannus i gynnal digwyddiad ar gyfer yr ŵyl o'r enw ‘Menywod Blaenllaw Cymru’.
Gwnaeth staff yn Llyfrgell Glowyr De Cymru ac Archifau Richard Burton waith ymchwil a churadu craidd, gan nodi a chasglu ffynonellau a oedd yn berthnasol i'r pwnc hwn a rhoi pwyslais ar ddeunyddiau o'u casgliadau priodol. Roedd y rhain yn cynnwys lluniau, clipiau fideo, cyfweliadau hanes llafar, sloganau, bathodynnau protestio a baneri amrywiol. Lluniwyd testunau i gyd-fynd â'r deunyddiau hyn hefyd, er mwyn cynnig cyd-destun hanesyddol a chyfleu'r ymdeimlad penodol o dorri tir newydd ym mhob enghraifft.
Yna bu'r deunyddiau a'r testunau hyn yn sail am gyfres o bum gweithdy, a gynhaliwyd yn ystod gŵyl Being Human o 10 tan 19 Tachwedd 2022.
https://www.beinghumanfestival.org/2022/event-series/breakthrough-welsh-women
Cynhaliwyd y gweithdai drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Roedd dau weithdy ar agor i'r cyhoedd ac fe'u cynhaliwyd yn Llyfrgell Glowyr De Cymru, Abertawe, a Gweithdy DOVE, Banwen. Roedd y tri gweithdy arall yn ymwneud â gweithio gyda phlant mewn ysgolion lleol, sef,
|
Cwm Glâs Primary School |
|
Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe |
|
Ysgol Gyfun Ystalyfera Bro Dur |
Yn ystod y gweithdai, gwnaeth Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe, ac Eve Moriarty, sy'n astudio am PhD ym Mhrifysgol Abertawe, draddodi cyflwyniadau ar thema ‘Menywod Blaenllaw Cymru’ a hwyluso'r gweithdai. Ymunodd staff Llyfrgell Glowyr De Cymru, Sian Williams, Pennaeth Casgliadau Arbennig, Lucy Donald, artist lleol, a Mark Heycock, Cydlynydd Casgliad Celf ac Ymgysylltu Creadigol Prifysgol Abertawe, â hwy, gan helpu cyfranogwyr i ddefnyddio eu deunyddiau hanesyddol, eu dyluniadau eu hunain a delweddau symbolaidd eraill i greu collage. Crëwyd dwy faner – y naill yn cynnwys testun Cymraeg a'r llall yn cynnwys testun Saesneg – a defnyddiwyd blanced wlân a wnaed yng Nghymru fel cefndir.
Dadorchuddiwyd y baneri mewn digwyddiad cyhoeddus arbennig a gynhaliwyd yn Oriel Gelf Glynn Vivian, ar 19 Tachwedd 2022. Agorwyd y baneri am y tro cyntaf gan Mair Francis, un o sylfaenwyr Gweithdy DOVE; Sally Burton, Llywydd Llyfrgell Glowyr De Cymru; a Jill Burgess, a fu gynt yn aelod o Gyngor Prifysgol Abertawe.
Yna gwahoddwyd aelodau'r gynulleidfa i greu bathodynnau i addurno'r baneri ymhellach, gan adlewyrchu traddodiadau'r gorffennol o glymu bathodynnau protestio wrth faneri undebau llafur y glowyr.
Mae'r baneri wedi'u hychwanegu at Gasgliad Maes Glo De Cymru a gedwir yn Llyfrgell Glowyr De Cymru.