Menywod Blaenllaw Cymru
Awduron & Artistiaid
Amy Dillwyn
Roedd Elizabeth Amy Dillwyn (1845-1935) yn nofelydd radical o Gymru, yn fenyw busnes ac yn gymwynaswr cymdeithasol. Hi oedd un o ddiwydianwyr benywaidd cyntaf Prydain Fawr.
Fe’i ganwyd yn Sgeti, yn Abertawe, i deulu amlwg. Roedd ei thad yn ddiwydiannwr ac yn wleidydd Lewis Llewelyn Dillwyn, ei chwaer hŷn yn wynfynegwraig, Thereza Dillwyn Llewelyn a’i thad-cu ar ochr ei mam yn ddaearegwr ac yn baleontolegydd, Henry De La Beche.
Ysgrifennodd Amy Dillwyn chwe nofel gan gynnwys The Rebecca Rioter (1880), Chloe Arguelle (1881), A Burglary (1883), Jill (1884), Nant Olchfa (1886/7), Jill and Jack (1887) a Maggie Steele’s Diary (1892). Roedd ei themâu'n cynnwys ffeministiaeth, diwygio cymdeithasol a barn ffafriol ar derfysgoedd Beca. Mae ymchwil i fywyd Dillwyn hefyd wedi dangos perthynas agos â'i ffrind Olive Talbot drwy lythyron, a chyfeiriodd ati fel ei 'gwraig' mewn dyddiaduron. O hyn, mae rhai'n damcaniaethu bod y cariad annychweledig yn ei nofelau wedi cael ei ysbrydoli gan y berthynas go iawn hon.
Roedd Dillwyn yn fenyw fusnes frwdfrydig ac ym 1892 etifeddodd weithfa sinc ei thad yn Llansamlet, Abertawe. Gwnaeth hi reoli'r diwydiant yn bersonol, gan droi ei busnes yn gwmni cofrestredig ym 1902 – a chan ad-dalu dyledion ei thad hi hefyd a oedd yn fwy na £100,000 erbyn 1899 (a fyddai’n cyfateb i £8 miliwn neu fwy heddiw!). Bu'n gwasanaethu mewn amryw rolau dinesig, gan gynnwys aelodaeth o bwyllgor trefnu'r Eisteddfod Genedlaethol a Chadeirydd Bwrdd yr Ysbyty - ac yn ystod y cyfnod hwnnw cododd arian ar gyfer adain ymadfer newydd.
Roedd Dillwyn yn gefnogwr cyfiawnder cymdeithasol cryf, a byddai’n ymgyrchu dros y bleidlais i fenywod a hi oedd un o’r menywod cynharaf yng Nghymru i ymuno â’r Undeb Cymdeithasau Etholfraint Menywod Cenedlaethol.
Bu farw yn 90 oed ym 1935, ac mae ei bywyd yn parhau i ysbrydoli gwaith academaiddd, drama a chelfweithiau. Mae’r Athro Kirsti Bohata yn ysgrifennu astudiaeth am Amy Dilwyn fel rhan o brosiect ymchwil ar gyfer y Ganolfan Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith Saesneg Cymru ym Mhrifysgol Abertawe. Yn 2018, cafodd Amy Dillwyn ei dewis fel un o’r 100 Menyw Orau yng Nghymru gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru.
Angela V. John
Hanesydd a bywgraffydd o Bort Talbot yw Angela V. John. Ar hyn o bryd mae hi'n Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn llywydd Llafur, Cymdeithas Hanes Pobl Cymru. Dan ddylanwad 'History from Below' gan E.P. Thompson a datblygiadau ym maes astudio hanes menywod yn y 1970au, dechreuodd Angela wneud ymchwil academaidd arloesol i fywydau menywod dosbarth gweithiol, hanes rhywedd a’r hawl i bleidleisio. Yn fwy diweddar, mae hi wedi troi ei sylw at hanes bywgraffyddol ac mae hi wedi cyhoeddi hanes bywgraffyddol nifer o fenywod y mae eu bywydau'n taflu goleuni ar agweddau ar hanes diwylliannol a gwleidyddol Cymru.
Ar hyn o bryd mae hi'n rhan o banel ‘Monumental Welsh Women’, sy'n gweithio i godi cerfluniau o fenywod pwysig yn hanes Cymru ar hyd a lled Cymru. Cafodd y cerflun cyntaf - o'r brifathrawes arloesol Betty Campbell - ei ddadorchuddio yng Nghaerdydd yn 2021.
Elaine Morgan
Awdur Cymreig oedd Elaine Morgan, a anwyd i deulu glofaol tlawd yn Nhrehopcyn, ger Pontypridd, ym 1920. Daeth ei dawn ysgrifennu yn amlwg o oed ifanc a chyhoeddodd ei stori fer gyntaf mewn papur newydd pan oedd yn 11 mlwydd oed. Gan ddechrau yn y 1950au, ysgrifennodd ddramâu ar gyfer y teledu, colofnau papur newydd a chyfres o lyfrau ar anthropoleg esblygiadol. Dechreuodd ysgrifennu sgriptiau ffilm ar gyfer y teledu yn ystod cyfnod pan oedd awduron benywaidd yn dal i gael eu tangynrychioli i raddau helaeth yn y maes.
Dilynwch y ddolen hon i raglen y BBC, Hidden Heroines am ei bywyd:
https://www.bbc.co.uk/programmes/profiles/5SQ4jD8FVf10RlhG7mjcPPJ/elaine-morgan
Roedd ei gwaith teledu yn cynnwys addasiadau o How Green Was My Valley (1975), Off to Philadelphia in the Morning (1978), The Life and Times of David Lloyd George (1981) a phenodau o Dr. Finlay’s Casebook (1963-1970). Enillodd ddwy wobr BAFTA, dwy wobr Urdd yr Awduron, ac enillodd Wobr Awdur y Flwyddyn gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol am ei gwaith yn addasu Testament of Youth gan Vera Brittain am gyfres deledu (1979). Roedd ei llyfrau ar ddamcaniaeth esblygiadol, megis The Descent of Woman (1972), yn herio safbwyntiau oedd wedi'u dominyddu gan ddynion ar stori esblygiad dynol. Ym mis Mawrth 2022, codwyd cerflun er anrhydedd iddi yn Aberpennar, y dref lle bu'n byw am y rhan fwyaf o'i bywyd.
Menna Gallie
Ganed yr awdur, Menna Gallie (Humphreys gynt) ym mhentref Ystradgynlais ym mhen uchaf Cwm Tawe ym 1919. Daeth hi o gefndir dosbarth gweithiol, gan dyfu i fyny mewn ardal lofaol yn ystod y blynyddoedd o galedi oedd yn nodedig o’r Streic Gyffredinol a ‘lockout’ y glowyr yn 1926 a Dirwasgiad y 1930au.
Roedd Menna yn fyfyrwraig ddawnus, ac aeth hi ymlaen i astudio Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe. Yno cyfarfu â'r athronydd Bryce Gallie a phriodwyd y ddau yn fuan ar ôl iddi raddio. Dechreuodd ysgrifennu ffuglen yn gymharol hwyr yn ei bywyd pan oedd hi'n 40 oed. Fel y myfyriodd yn ddiweddarach, doedd ei rôl fel gwraig a mam ddim wedi gadael 'llawer o amser i fod yn fi, dim llawer o amser i gofio na meddwl am y syniad sydd wedi llithro'n daclus i lawr y sinc gyda'r dŵr golchi llestri, neu wedi’i wasgu’n sych gyda’r cewynnau'. Mae ei nofel gyntaf, Strike for a Kingdom (1959), wedi'i gosod mewn pentref glofaol a fodelwyd ar Ystradgynlais ei phlentyndod. Cafodd y nofel dderbyniad da, yn enwedig yn UDA lle cafodd ei hadolygu'n ffafriol yng nghylchgrawn Time Magazine. Cyhoeddodd bum nofel arall, gan gynnwys un arall oedd wedi’i gosod mewn cymuned lofaol yn Nhe Cymru o'r enw The Small Mine (1962).
Mae ei dwy 'nofel lofaol' yn sefyll allan o enghreifftiau eraill o'r genre am eu portread arbennig o sensitif o fenywod a phlant mewn cymunedau glofaol. Maent yn edrych ar sut caiff menywod eu hymyleiddio o agweddau ar fywyd gwleidyddol, yn archwilio sut mae menywod o bob dosbarth wedi'u cyfyngu gan eu rolau cymdeithasol, ac yn amlygu'r moesoli gormesol a oedd yn aml yn cyd-fynd â materion rhyw, priodas a genedigaeth. Mae'r nofelau hefyd yn llawn cyfeiriadau at lafur domestig menywod, gan ddangos pa mor hanfodol oedd cynnal a chadw gwead cymdeithasol ac economaidd y cymunedau glofaol. Mae ei hysgrifennu yn adnabyddus am ei hiwmor dychanol a gwawdio mawreddogrwydd o wahanol fathau, yn ogystal â'i archwiliad o’r system dosbarth fel ffynhonnell anghyfiawnder cymdeithasol.