Menywod Blaenllaw Cymru

Gwaith

 

Roedd Elizabeth Andrews yn actifydd gwleidyddol dylanwadol Cymreig ar ddechrau'r 20fed ganrif. Hi oedd Trefnydd Menywod cyntaf y Blaid Lafur yng Nghymru, amlygodd anghenion menywod y dosbarth gweithiol a helpodd i gyflwyno diwygiadau allweddol a wnaeth leihau'r baich cadw tŷ mewn cymunedau glofaol a gwella gwasanaethau mamolaeth a gofal plant. 

 

AUD/388 Cyfweliad o Dick Beamish

 

 

 

 

Roedd Elizabeth ar flaen y gad yn ymgyrchu i gyflwyno baddonau ar bennau pyllau mewn glofeydd i leddfu'r pwysau ar fenywod yn y cartrefi. Cyn i faddonau gael eu cyflwyno ar bennau pyllau, roedd angen swm enfawr o waith tŷ i lanhau'r brynti diddiwedd a oedd yn dod o'r pyllau glo a pharatoi a chario baddonau tun i alluogi pob glöwr i ymolchi ar ôl ei sifft.  Talodd menywod yn ddrud am eu rôl ddi-dâl wrth wasanaethu galwadau'r diwydiant glo. Roedd lludded rhoi genedigaeth a llafur domestig yn sylweddol, ac mewn rhai ardaloedd mwyngloddio yn ne Cymru, roedd cyfraddau marwolaeth menywod a oedd yn gweithio yn y tŷ yn uwch na rhai'r dynion a oedd yn gweithio yn y pyllau glo. Yn y diwedd, roedd yr ymgyrch am faddonau ar bennau pyllau'n llwyddiannus, a daethant yn orfodol ym 1924. 

 

AUD/460 Cyfweliad o Mrs Roderick

AUD/481 Cyfweliad o Bessie Webb a Hannah Evans

Nid yw Gwaith Menyw Byth yn Cael Ei Wneud gan Elizabeth Andrews

Yn y degawdau cyn i’r GIG gael ei sefydlu, bu Elizabeth hefyd yn gweithio i wella gwasanaethau mamolaeth a gofal plant yng Nghymru. Gwnaeth ei hymgyrchu gyfrannu at sefydlu un o'r ysgolion meithrin cyntaf yng Nghymru, yn y Rhondda yn y 1930au, a gwnaeth barhau i bwyso am ysgol feithrin ym mhob ardal addysg.  

 

 

Marian Phillips

Ganwyd Marian Phillips ym 1916 ym mhentref Brynaman Uchaf, Sir Gaerfyrddyn lle mai'r Gymraeg oedd iaith y gymuned. Hi oedd yr hynaf o dri phlentyn. Pan oedd hi'n blentyn, roedd hi'n dwlu ar ddarllen a byddai ei thad yn ei hannog drwy brynu llyfrau Cymraeg a Saesneg iddi o siop lyfrau Morgan a Higgs yng Nghymru. Ei hoff lyfrau oedd 'Teulu Bach Nantoer' gan Moelona a 'Gwilym a Benni Bach' gan W Llewelyn Williams.  

 

Aeth Marian i Ysgol Ramadeg Maesydderwen yn Ystradgynlais lle disgleiriodd yn academaidd gan lwyddo yn ei harholiadau flwyddyn yn gynnar. 

 

Ym 1932, a hithau’n 15 oed, cofrestrodd Marian yn fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol Abertawe, gan astudio Hanes, Athroniaeth, Almaeneg a Saesneg. Penderfynodd fod yn hanesydd, ac yn 18 oed, graddiodd gyda BA anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Hanes a derbyniodd Wobr Goffa Gladstone.  

 

Ehangodd Marian ei gorwelion a’i gwybodaeth am ieithoedd drwy deithio a meithrin cyfeillgarwch newydd. Rhwng 1934 a 1936, ymwelodd â’r Almaen, Awstria a Bwdapest gan feithrin dealltwriaeth uniongyrchol o agweddau gwleidyddol yr Almaen, natur Natsïaeth a’r newidiadau cythryblus yn Ewrop. 
 

Ar ôl iddi ddychwelyd i Abertawe ym 1937, cwblhaodd ei thraethawd ymchwil, a hi oedd yr unig fenyw yng Nghymru i ennill MA yn ystod y flwyddyn honno. Cafodd ei chymeradwyo ar gyfer ysgoloriaeth i Brifysgol Cymru pan oedd yn 21 oed yn unig, ac yna penderfynodd ddilyn PhD ym Mhrifysgol Llundain. 

 

Yn ystod y cyfnod cyn yr Ail Ryfel Byd, ceisiodd roi gwybod i bobl am y sefyllfa erchyll wrth i Natsïaeth ehangu ac wrth i Iddewon gael eu herlid, drwy gyfrwng darlithoedd yng Nghymru ac erthyglau yn y wasg Gymraeg. Pan oedd yn Llundain, roedd yn weithgar mewn sefydliadau a oedd yn helpu ffoaduriaid Iddewig a oedd eisoes ym Mhrydain, yn ogystal â'r rhai a oedd yn ceisio lloches. Gwnaeth gyfieithu ar ran ffoaduriaid a'u helpu i gael gwaith.    

 

Ym 1939, cynigiwyd swydd darlithydd cynorthwyol iddi yng Ngholeg Prifysgol Abertawe. Traddododd 9 darlith bob wythnos, y rhan fwyaf ohonynt am hanes Cymru ac Ewrop, a chyfrannodd yn helaeth at y gwaith o gynnal yr adran Hanes o ddydd i ddydd. Yn ogystal, cyfarfu â'i darpar ŵr yn Abertawe, sef Dr John Henry Jones, darlithydd yn y Clasuron.   

 

Yn y 1940au, symudodd i Aberystwyth. Ysgrifennodd straeon byrion yn Gymraeg, cyhoeddodd sawl adolygiad ysgolheigaidd ar gyfer y Traethodydd ac Yr Efrydydd, gan ddechrau addysgu dosbarthiadau addysg oedolion yn Hanes Cymru. 

Yn y 1970au, ysgrifennodd Marian hanes Ewrop yn Gymraeg ar gyfer ysgolion uwchradd Cymraeg o'r enw Hanes Ewrop, 1815-1871. Parhaodd i ysgrifennu, traddodi darlithoedd a hyrwyddo ysgrifennu a diwylliant Cymraeg am weddill ei hoes.

 

Bu farw Marian ym mis Mawrth 2013 ger Llanybydder, Sir Gâr. 

 

 

Gweithwyr Arfau Rhyfel

Yn ystod yr ail Ryfel Byd, bu miloedd o fenywod yn ne Cymru'n gweithio mewn ffatrïoedd arfau rhyfel a sefydlwyd yn siroedd Morgannwg a Threfynwy. Bu gan y ffatrïoedd rôl allweddol yn ymdrech Ryfel Prydain, gyda Ffatri Arfau'r Goron ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cyflogi gweithlu o fenywod yn bennaf, tua 35,000 ar ei anterth - gan ei gwneud yn un o'r ffatrïoedd mwyaf yn hanes Prydain.   Pan wnaeth cynhyrchu yn ystod y rhyfel gyrraedd ei anterth ym 1943, menywod oedd 55% o holl weithwyr y rhyfel yng Nghymru. 

 

Roedd gwaith y ffatrïoedd arfau rhyfel yn beryglus yn aml.  Roedd staff yn wynebu cyrchoedd awyr, peirianwaith peryglus a bygythiad parhaus o ffrwydradau ar y llinell gynhyrchu. Roedd y powdr TNT a ddefnyddid wrth weithgynhyrchu arfau hefyd yn troi croen a gwallt gweithwyr yn felyn, gan roi'r llysenw 'caneris' iddynt.  

 

AUD/480 Cyfweliad o Nellie Jones, Kitty Williams, Agnes Owen

 

 

 

 

Er gwaethaf yr heriau hyn, rhoddodd cyflogaeth yn ystod y rhyfel dipyn o annibyniaeth i fenywod a oedd yn seibiant o fywyd pob dydd. Ffurfiwyd grwpiau cymdeithasol, megis corau a thimau chwaraeon, gyda chydweithwyr yn y ffatrïoedd, ac roedd y cyflogau - a oedd yn aml yn fwy hael o'u cymharu â chyfleoedd cyflogaeth blaenorol - yn rhoi mwy o gyfle i fenywod feithrin bywydau cymdeithasol y tu hwnt i'r cartref a'u cymunedau.  

 

 

Ni wnaeth gwaith y rhyfel ysgogi mwy o gydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn unrhyw ffordd uniongyrchol neu gyson. Roedd gweithwyr benywaidd yn dal i gael llai o gyflog na'u cydweithwyr gwrywaidd yn gyffredinol, gwnaeth y stereoteip o ran beth yw gwaith "dyn" a gwaith "menyw" barhau'n hollbresennol, ac roedd disgwyliad cyffredinol y byddai unrhyw darfu ar rolau rhyw traddodiadol yn dychwelyd i'r "arfer" ar ôl y rhyfel. Roedd gwaith menywod yn ystod y rhyfel, heb os, wedi peri newidiadau cymdeithasol a diwylliannol sylweddol, yn enwedig yn ne Cymru diwydiannol lle roedd bywydau gwaith dynion a menywod wedi bod yn hollol ar wahân.  O ystyried y gydnabyddiaeth gyffredin i gyfraniadau dynion yn ystod y rhyfel ar ffurf cofebion, llyfrau a ffilmiau Hollywood, mae'n bwysig cofio hefyd am rôl hollbwysig menywod de Cymru yn y frwydr yn erbyn ffasgiaeth yn ystod y blynyddoedd hynny.

 

 

Gweithdy DOVE

Gweithdy DOVE

Sefydlwyd Gweithdy DOVE yn y Banwen gan grŵp o fenywod o Gwm Dulais yn ystod Streic y Glowyr 1984-85, gan adeiladu ar gysylltiadau a feithrinwyd yn y grŵp cymorth i lowyr lleol. Gwnaethant drawsnewid hen swyddfeydd y pwll glo brig yn ganolfan addysg a hyfforddiant fywiog, gan weithio gyda darparwyr addysgol megis Prifysgol Abertawe a Choleg Castell-nedd, i roi cyfleoedd dysgu i'r gymuned leol, yn enwedig menywod, yn ystod cyfnod o ddiweithdra sylweddol.  Yn draddodiadol, roedd cyflogaeth menywod yn yr ardal wedi bod yn gyfyngedig i waith rhan-amser, tâl isel, statws isel. Meddai Mair Francis, un o sylfaenwyr DOVE: 

 

'Nid oedd gan fenywod y cymoedd lawer o fynediad  at addysg neu hyfforddiant, gofal plant neu drafnidiaeth. Roedd angen cymryd rheolaeth a gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain'  

 

Diagram

Description automatically generated with low confidence

 

Gwnaeth gweithdy DOVE, gynnig cyfleoedd dysgu hyblyg; gan ddarparu gofal plant, cael bws mini i gludo pobl i ddosbarthiadau, ac roedd gan y gweithdy lyfrgell i ddiwallu anghenion penodol oedolion a dysgwyr rhan-amser. Drwy ddarparu gwasanaethau hanfodol fel y rhain, helpodd menywod gweithdy DOVE gannoedd o bobl i ddychwelyd i addysg a dysgu sgiliau newydd.

 

 

Mae gweithdy DOVE wedi datblygu i fod yn hyb cymunedol o bwys yn y cwm, gan barhau i gefnogi pobl wrth iddynt wynebu heriau marchnad lafur newidiol a darparu dosbarthiadau i wella iechyd, lles a'r amgylchedd lleol.