Menywod Blaenllaw Cymru
Gwleidyddiaeth
Annie Powell
Ganwyd Annie Powell i deulu Cymraeg yn Ystrad, Y Rhondda, ym 1906. A hithau'n athrawes yng Nghwm Rhondda, gwelodd y tlodi a'r caledi a dioddefwyd gan deuluoedd y pyllau glo a'r gweithwyr di-waith yn ystod y 1920au a'r 1930au. I ddechrau, arweiniodd y profiadau hyn ati'n ymuno â'r Blaid Lafur, ond ar ôl cyfnod o ddarllen ac ymddiddori mewn damcaniaeth wleidyddol, penderfynodd ymuno â'r Blaid Gomiwnyddol ym 1938. Roedd cefnogaeth sylweddol i Gomiwnyddiaeth yn y Rhondda yn ystod y cyfnod hwn, daeth ymgeisydd y Blaid Gomiwnyddol yn agos iawn at guro ymgeisydd y Blaid Lafur yn Etholiad Cyffredinol 1945. Er i Gomiwnyddiaeth barhau'n gryf yn yr undebau llafur, gwnaeth leihau fel grym etholiadol yn y 1950au. Serch hynny, llwyddodd Annie i fynd yn groes i'r tueddiadau hyn ym maes llywodraeth leol. Cafodd ei hethol i Gyngor Bwrdeistref Y Rhondda ym 1955 yn gynghorydd ar gyfer Penygraig. Gwnaeth ei gwaith o feithrin ymddiriedaeth a pharch y gymuned leol ei helpu i oresgyn rhagfarn etholiadol wrth-gomiwnyddiaeth a bu'n gwasanaethu fel cynghorydd am bron tri deg o flynyddoedd.
Yn ystod yr amser hwn, bu'n arbennig o weithgar mewn ymgyrchoedd i wella cyflwr tai, gwasanaethau iechyd, addysg feithrin a phensiynau yn Y Rhondda. Gwnaeth ymyrryd hefyd i roi terfyn ar wahaniaethu hiliol mewn busnesau lleol. Ym 1979, cafodd ei hethol yn Faer Y Rhondda, yr unig Gomiwnydd i gael ei ethol yn faer yng Nghymru. Pan fu farw ym 1986, daeth dros 700 o bobl i'w hangladd.
Dilynwch y ddolen i weld Cyfweliad BBC o Annie Powell:
https://twitter.com/i/status/839514178402541573
Emily Phipps
Ganwyd Emily Phipps yn Nyfnaint ym 1865. Symudodd i Abertawe ym 1895 ar ôl cael swydd pennaeth yn Ysgol Drefol i Ferched Abertawe. Yn Abertawe y daeth yn rhan weithgar o'r frwydr dros hawliau pleidleisio i fenywod. Cafodd ei hysgogi i ymuno â'r frwydr yn dilyn Confensiwn Rhyddfrydol ym 1906, pan oedd Lloyd George, Canghellor y Trysorlys, yn bresennol. Gwnaeth y Rhyddfrydwyr bopeth yn eu gallu i gadw ffeminyddion allan o'u cyfarfodydd, ond llwyddodd rhai menywod penderfynol i gael mynediad i'r neuadd a chodi'r cwestiwn pam nad oedd y rhyddfrydwyr yn fodlon cefnogi pleidleisiau i fenywod. Ymatebodd Lloyd George, pe bai'r menywod hyn eisiau cael yr un driniaeth â dynion, y dylent gael eu taflu allan yn ddidrugaredd (‘flung out ruthlessly’). Yn llawn siom oherwydd anghyfiawnder digwyddiadau o'r fath, ymunodd Emily â Chynghrair Rhyddid y Menywod, sefydliad milwriaethus a ddatblygodd gangen hynod weithgar yn Abertawe, gan arbenigo mewn gweithredu uniongyrchol a gwrthsafiad goddefol i frwydro dros hawliau pleidleisio. Ymysg y gweithredoedd yr oedd Emily'n rhan ohonynt oedd boicotio Cyfrifiad 1911, lle gwnaeth grŵp o fenywod o'r ardal aros dros nos mewn ogof ar hyd arfordir Gŵyr. Fel yr esboniodd,
'Roedd llawer o fenywod wedi penderfynu, gan na allent fod yn ddinasyddion at ddibenion pleidleisio, na fyddent yn ddinasyddion at ddibenion helpu'r llywodraeth i lunio ystadegau: ni fyddent yn cael eu cynnwys yn ffigurau'r Cyfrifiad'
Bu'n ymgyrchu hefyd dros gydraddoldeb yn y gweithle drwy ei rôl fel Llywydd Undeb Cenedlaethol yr Athrawesau. Yn ymgyrchydd diflino dros hawliau menywod, ei chred oedd 'os ydych am fod yn fat drws, peidiwch â rhyfeddu os bydd pobl yn camu arnoch'.
Grwpiau Cymorth Fenywod
Yn ystod streic y glowyr ym 1984-85, ymunodd miloedd o fenywod o gymunedau glofaol Cymru, Lloegr a'r Alban ag ymdrech y streic drwy sefydlu grwpiau cymorth. Roedd gan lawer ohonynt wŷr ac aelodau eraill o’i teuluoedd yn y diwydiant, ond roedd y grwpiau hefyd yn cynnwys menywod o'r gymuned ehangach a safai mewn undod â'r glowyr.
Ffurfiodd grwpiau lleol yn grŵp cymorth cenedlaethol unedig o'r enw 'Women Against Pit Closures' (WAPC). Helpodd y menywod hyn i sefydlu rhwydwaith o geginau cawl a chanolfannau dosbarthu parseli bwyd yn gyflym gan fwydo dros 140,000 o lowyr a'u teuluoedd pan oedd y streic ar ei hanterth, gan ffurfio'r hyn a elwid yn 'system les amgen'.
Ymunodd menywod hefyd â'r llinell biced, gan drefnu ralïau, a chodi miloedd o bunnoedd drwy ddigwyddiadau codi arian.
Roedd gan rai o'r menywod brofiad blaenorol o drefnu gwleidyddol, drwy gymryd rhan mewn pleidiau gwleidyddol neu fudiadau cymdeithasol, tra roedd eraill yn newydd i'r mathau o weithgareddau roedd y grwpiau cymorth yn ymgymryd â nhw. Disgrifiodd nifer o fenywod eu cyfranogiad yn y streic fel newid penderfynol yn eu bywydau. Er mai methu fu hanes y streic, cawsant hyder newydd drwy siarad cyhoeddus, trefnu ar raddfa fawr a gweithredu gwleidyddol, a byddent yn parhau â hyn ymhell ar ôl diwedd y streic gan ymgymryd â'r dasg o ailadeiladu eu cymunedau.
Gwersyll Heddwch Menywod
Comin Greenham
Ym mis Awst 1981, dechreuodd grŵp ymgyrchu o dde Cymru 'Women For Life On Earth' ymdeithio 120 milltir o Gaerdydd i orsaf yr Awyrlu Brenhinol yng Nghomin Greenham, Berkshire, i brotestio yn erbyn arfau niwclear a gedwid yno. Arweiniodd y gweithredu at ffurfio Gwersyll Heddwch Menywod Comin Greenham, a feddiannwyd gan fenywod o bob rhan o’r DU am bron dau ddegawd. Pan gyrhaeddodd yr orymdaith Greenham, un ar ddeg diwrnod ar ôl gadael Caerdydd, ysgrifennodd y menywod at gomander yr orsaf:
'Mae rhai ohonom wedi dod â'n babanod gyda ni ar hyd y daith gyfan. Rydym yn pryderu am ddyfodol y plant hyn. Rydym yn pryderu am ddyfodol ein holl blant, ac am ddyfodol y byd byw sy'n sail i’r holl fywyd ar ein planed'.
Bu'r Ymgyrch ehangach dros Ddiarfogi Niwclear (CND) ar waith ers y 1950au, ond roedd gwersyll Greenham yn unigryw gan ei fod yn cael ei arwain gan fenywod, gan integreiddio rhwydweithiau a syniadau a ddatblygwyd yn y mudiadau ffeministaidd, amgylcheddol a heddwch. Ar ei anterth, roedd dros 70,000 o fenywod wedi ymgynnull yn Greenham - y brotest fwyaf a arweiniwyd gan fenywod yn y DU ers y frwydr dros gael y bleidlais i fenywod.
Y ffotograffydd dogfennol o Ganada, Raissa Page, dynnodd y lluniau hyn o wersyll Comin Greenham mewn casgliad sylweddol o luniau a adneuwyd i Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe. Un llun o’r fath, ac efallai’r un mwyaf eiconig yw’r un sy’n dangos menywod yn dal dwylo ac yn dawnsio mewn cyclch ar ben seilo arfau niwclear ar doriad gwawr ar Ddydd Calan, ar ôl torri drwy ffens allanol y gwersyll milwrol.
Mae gan Lyfrgell Glowyr De Cymru fathodynnau protestio a ffynonellau ysgrifenedig sy'n gysylltiedig â gwersyll Greenham. Daeth y dyluniad o we pry cop ar y bathodynnau yn symbol o'r gwersyll - gan gynrychioli eiddilwch a gwytnwch. Mae Llyfrgell y Glowyr hefyd yn gartref i faner grŵp Abertawe 'Women Oppose the Nuclear Threat', a drefnodd deithiau i Greenham ar sawl achlysur. Roedd cysylltiadau cryf hefyd rhwng menywod Greenham a grwpiau cymorth menywod mewn cymunedau glofaol - gyda llawer o fenywod o Greenham yn teithio i dde Cymru yn ystod y streic i orymdeithio a phicedu gyda glowyr a menywod y cymunedau glofaol.
Symudwyd yr arfau niwclear o orsaf yr awyrlu ar ddechrau'r 1990au, a chafodd y tir comin a feddiannwyd gan yr orsaf ei wacáu gan y fyddin a'i gyflwyno i'r cyngor lleol. Caeodd Gwersyll Heddwch y Menywod ym mis Medi 2000, gan arwain y ffordd am Ardd Heddwch goffa wedi'i hamgylchynu gan feini hirion Cymreig. Yn 2020, dadorchuddiwyd plac porffor yn Neuadd Les Ystradgynlais i goffáu'r ymgyrchydd heddwch, Eunice Stallard, a oedd ymysg gorymdeithwyr cyntaf 'Women For Life on Earth'.
Roedd creu Gwersyll Greenham, yn dilyn yr orymdaith o Gaerdydd, yn cynrychioli pennod bwysig yn hanes gwrthsafiad di-drais dan arweiniad menywod sy'n gysylltiedig â Chymru.