Dyniaethau Digidol yn Abertawe
Mae 'Dyniaethau Digidol' yn derm eang sy'n cyfeirio at y defnydd o dechnoleg i wella, ategu neu gynnal ysgolheictod yn y dyniaethau neu'n gysylltiedig â'r dyniaethau.
Ym Mhrifysgol Abertawe, mae tîm y Dyniaethau Digidol yma i gefnogi prosiectau ac ymchwil academaidd a chymunedol yn y dyniaethau - cysylltwch â ni i ddarganfod beth gallwn ni ei wneud i chi a'ch ymchwil.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae mwy o ymchwil i'r dyniaethau wedi'i gynnal, ei gyflwyno a'i astudio'n ddigidol. Mae tîm y Dyniaethau Digidol yn gobeithio eich galluogi i weithio ac astudio mewn ffyrdd newydd, effeithiol ac i hwyluso rhagoriaeth ymchwil ac addysgu, p'un a ydych yn dychwelyd i'r campws neu'n parhau i weithio gartref.