Omeka
Ers mis Mawrth 2019, mae tîm Dyniaethau Digidol Prifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â'r tîm Casgliadau Arbennig ac unigolion o Goleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau (COAH), wedi bod yn datblygu 'Omeka S' fel platfform ar gyfer ein casgliadau a'n prosiectau ar-lein.
Mae Omeka S yn disgrifio ei hun yn "blatfform cyhoeddi gwe'r genhedlaeth nesaf ar gyfer sefydliadau sydd â diddordeb mewn cysylltu casgliadau treftadaeth ddiwylliannol digidol ag adnoddau eraill ar-lein" - yn y bôn, mae'n system rheoli cynnwys sydd wedi'i dylunio'n benodol ar gyfer arddangos prosiectau archifol/treftadaeth (https://omeka.org/s/).
Rydym wedi canolbwyntio ein hymdrechion gydag Omeka wedi mewn sawl prosiect allweddol. Y mwyaf datblygedig o'r rhain yw gwefan Canmlwyddiant Abertawe 2020.Mae'r wefan yn bwynt cydgyfeirio ar gyfer gweithgarwch blwyddyn Canmlwyddiant y Brifysgol, gan gynnwys casgliad wedi'i guradu o draethodau gan gyn-fyfyrwyr a chyfeillion y Brifysgol, cyfres lawn o PDFs chwiliadwy o Ddarlithoedd agoriadol gan Athrawon sy'n dyddio mor bell yn ôl â'r 1930au, a sganiau o ddogfennau hanesyddol diddorol eraill, megis Adroddiadau blynyddol y Cyngor a phortread manwl Percy Gleaves o osod carreg sylfaen Abertawe ym 1920.
Un o fanteision Omeka, fel gwasanaeth ar gyfer yr archifau, yw y gall gadw llawer iawn o fetadata ar gyfer pob eitem ddigidol, a gall y defnyddiwr dynnu cymaint neu gyn lleied o feysydd ag y mae'n eu dymuno o systemau ontolegol sefydledig fel Dublin Core a Friend of a Friend, gan ei gwneud yn hawdd rhoi cymaint o wybodaeth â phosibl i ddefnyddwyr y gwasanaeth.
Rydym yn defnyddio Omeka ar gyfer nifer o brosiectau yn y Brifysgol, megis Papurau Dillwyn, archif o ohebiaeth ysgrifenedig teulu diwydiannol dylanwadol o Abertawe, a Chasgliad Hanes Cyfrifiadura, casgliad amgueddfa sylweddol yn y Brifysgol.
Fodd bynnag, nid yw Omeka yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith y Brifysgol yn unig: fel tîm, rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r gymuned ehangach a galluogi datblygu ar gyfer archifau a phrosiectau lleol. Ein nod yw dod yn bartner technegol dibynadwy, sy'n gallu darparu cymorth digidol ac archifol yn ogystal â pharhad ar gyfer prosiectau cymunedol sy'n aml yn wynebu heriau fel newid personél a setiau sgiliau gwahanol. I'r perwyl hwn, rydym yn adeiladu cartref ar-lein ar gyfer gwaith y ffotograffydd nodedig o Abertawe Bernard Mitchell, ac yn gweithio'n agos gydag Archif San Helen i arddangos eu daliadau archifol ar wefan bwrpasol.
Gall y safleoedd hyn, yn ogystal ag arddangos ffotograffau o arteffactau neu sganiau o ddogfennau, hefyd weithredu fel tudalennau gwe safonol, gan gadw testun a delweddau i gyfleu gwybodaeth neu adrodd straeon yn dibynnu ar anghenion pob prosiect. Nid yw ein cyfranogiad yn y prosiectau cymunedol hyn wedi'i gyfyngu i gynnal a chymorth ar-lein, ac mae'r tîm Dyniaethau Digidol yn cynnig hyfforddiant i'n cleientiaid a'n rhanddeiliaid er mwyn eu grymuso i fod yn berchen ar eu prosiectau a'u datblygu ochr yn ochr â ni.
Gellir dod o hyd i enghreifftiau o hyblygrwydd Omeka fel platfform yma:https://omeka.org/classic/showcase/ a gellir cysylltu â thîm y Dyniaethau Digidol gydag ymholiadau yn DigitalHumanities@abertawe.ac.uk.