Addysg
Mae croeso i fyfyrwyr Abertawe, a myfyrwyr o sefydliadau addysg uwch eraill, helpu gyda gwaith y Casgliad mewn amrywiol ffyrdd ac fel rhan o'u hastudiaethau. Gallant:
- Ymchwilio i, ac ysgrifennu, adroddiadau a thraethodau estynedig am themâu hanesyddol o Gwneud cyfraniadau i'r wefan
- Archwilio gwrthrychau yn y Casgliad
- Catalogio gwrthrychau yn y Casgliad
- Cynnal sgyrsiau ac arddangosiadau ynghylch y technolegau a'u cyd-destun hanesyddol
Bydd myfyrwyr sy'n ymwneud â'r Casgliad yn derbyn hyfforddiant a goruchwyliaeth yn ôl eu hanghenion. Er enghraifft, ymhlith y myfyrwyr a gynorthwyodd gyda'n gwefan gyntaf oedd David Chisnall (Labordai Ymchwil Microsoft, Caergrawnt) a Victoria Wang (Darllenydd mewn Diogelwch ym Mhrifysgol Portsmouth).
Mae'r fframwaith gwreiddiol o bynciau craidd yn cael ei adolygu. Hyd yn hyn, mae myfyrwyr cyfrifiadureg, busnes, y cyfryngau a hanes wedi elwa o'r cyfleoedd, ac maent wedi cael eu hasesu ar astudiaethau technegol, cymdeithasol, economaidd, a threftadaeth.