Lleoliadau a Gwirfoddoli
Lleoliadau i Fyfyrwyr
Mae’r Casgliad Hanes Cyfrifiadura (HoCC) yn gallu cynnig cyfleoedd am leoliadau gwaith ymarferol i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe yn ogystal â sefydliadau eraill ledled y DU. .
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael lleoliad gwaith neu interniaeth yn HoCC cysylltwch â ni.
Fel rhan o'r cwrs gradd MA Hanes a Threftadaeth ym Mhrifysgol Abertawe, mae myfyrwyr yn treulio 100 awr yn cwblhau gwaith ar lefel graddedigion mewn sefydliad neu ar brosiect treftadaeth. Fel rhan o'i leoliad gwaith gyda'r Casgliad Hanes Cyfrifiadura, bu Rory yn cynorthwyo'r Curadur wrth dderbyn, catalogio, gwirio cyflwr a nodi marciau diogelwch ar eitemau ffisegol yn y storfa. Tyfodd ei ddiddordeb yn y casgliad drwy gydol ei leoliad, ac aeth ymlaen i gyflwyno cais am PhD mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe, gan dderbyn ysgoloriaeth lawn.
Rory Clark
Lleoliad Gwaith Treftadaeth MA Hanes Cyhoeddus a Threftadaeth Prifysgol Abertawe 2020.
Mwynheais fy lleoliad gwaith dros yr haf yn y Casgliad Hanes Cyfrifiadura yn fawr iawn; gweithiais gyda grŵp gwych o bobl i ddatblygu fy ngwybodaeth a’m profiad o ymarfer treftadaeth a hanes cyfrifiadura. Roedd yn gyfle rhagorol – rwyf mor falch fy mod wedi cael cyfle i’w wneud! Roeddwn i’n cyflawni gwaith pwysig a oedd o fudd i mi ac i’r casgliad, byddwn i’n argymell y profiad i fyfyrwyr eraill, roedd yn brofiad ardderchog.
E.Andrews
Mae astudio ar gyfer Gradd Meistr mewn Astudiaethau Amgueddfeydd ym Mhrifysgol Caerlŷr yn cynnwys modiwl lleoliad gwaith 8 wythnos o hyd lle gall y myfyriwr ddefnyddio popeth mae wedi'i ddysgu wrth weithio gyda chasgliad amgueddfa. Croesawodd y Casgliad Hanes Cyfrifiadura ym Mhrifysgol Abertawe ei fyfyriwr lleoliad gwaith Astudiaethau Amgueddfa gyntaf yn 2019, gyda lleoliad gwaith dogfennaeth amgueddfa a oedd yn canolbwyntio ar gatalogio'r casgliad. Rydym ni'n ffodus iawn bod Xudong yma'n gweithio gyda ni ac rydym yn dymuno pob llwyddiant iddo yn y dyfodol!
Xudong Lin
Lleoliad Gwaith MA Astudiaethau Amgueddfa Prifysgol Caerlŷr 2019.
Gwirfoddoli
Os hoffech chi wirfoddoli yng Nghasgliad Hanes Cyfrifiadura (HoCC), cysylltwch â ni.
Gwirfoddolodd Henry Tucker (BSc Rheoli Busnes gyda Dadansoddeg Fusnes) am y tro cyntaf gyda'r Casgliad drwy brofiad gwaith tra roedd yn yr ysgol.
Tra roedd ym Mhrifysgol Abertawe, bu'n gweithio gydag offer, archifau, deunyddiau addysgol, rhestrau stoc, gan gynnwys tynnu lluniau, trawsgrifio ac adolygu.
Mae Henry hefyd wrthi’n cynorthwyo'r Curadur gyda rhestrau'r casgliadau.