LlGDC @ 50Llyfrgell Glowyr De Cymru yn Hanner Cant

21. Clip o gyfweliad gydag Archie Lush

Ym mis Mehefin 1927, teithiodd Archie Lush, glöwr di-waith a oedd yn disgrifio ei hun fel ‘myfyriwr allanol, dosbarth gweithiol’, i Rydychen i gwrdd â'i ddarpar diwtor prifysgol yng Ngholeg Balliol. Yn ystod y cyfarfod, cyflwynodd y tiwtor restr o ddarllen argymelledig i Archie. Pan atebodd Archie ei fod eisoes wedi darllen y llyfrau a awgrymwyd, gofynnodd y tiwtor yn eithaf anghrediniol, 'Well, where would you get these books?’. Yr ateb gan Archie oedd ‘Tredegar Workmen’s Institute’. 

“When I went up and this tutor fellow saw me about June, I was going in October, and gave me a long list of books to read before I came up. When I told him I had read so-and-so, and so-and-so, he just didn’t believe me. And he said, ‘Well, where would you get these books?’ Because I was this sort of working class, extra-mural student, you know. And I said, ‘Tredegar Workmen’s Library’. Well, that convinced him, you know, that I couldn’t possibly… But I had read them, and I was able to tell him what was in them…” - Archie Lush interviewed by Hywel Francis, 11/05/1973 [SWCC/AUD/338] 

Disgrifiwyd llyfrgelloedd sefydliadau gynt fel ‘ymennydd y meysydd glo’ gan iddynt ffynnu ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. O Aberaman i Ystradgynlais, Abercraf i Ynysybwl, roedd gan bron pob tref lofaol lyfrgell mewn sefydliad neu neuadd les a oedd yn cynnig amrywiaeth o ddeunyddiau darllen - o fathemateg i beirianneg i wleidyddiaeth, llenyddiaeth a'r celfyddydau. Roedd gan y rhan fwyaf o lyfrgelloedd sefydliadau danysgrifiadau hefyd i bapurau newydd lleol a chenedlaethol. 

Wrth i'r diwydiant glo ddirywio, gwnaeth hefyd natur boblogaidd llyfrgelloedd y sefydliadau a'r cyfraniadau wythnosol a oedd yn helpu i'w cynnal nhw. Roedd hyn, ynghyd â chynnydd mewn darpariaeth mewn addysg uwchradd, argaeledd llyfrgelloedd cyhoeddus lleol a newid mewn diddordebau cymdeithasol, yn golygu nad oedd llyfrgell y sefydliad yn hwb cymdeithasol ac addysgol y gymuned mwyach. 

Wrth i'r sefydliadau gau a'r casgliadau wasgaru, sefydlwyd prosiect a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol i gasglu a chadw llyfrgelloedd y 'caerau addysgol' anhygoel hyn. O ganlyniad i'r prosiect hwn, y sefydlwyd Llyfrgell Glowyr De Cymru ym 1973. Bum deg mlynedd yn ddiweddarach, mae bron saith deg o lyfrgelloedd sefydliadau, gan gynnwys Tredegar, dan ofal Llyfrgell Glowyr De Cymru. 

22. Hysbyseb am ffilmiau yn Neuadd Les Pendyrus 

Yn ogystal â llyfrgelloedd ac ystafelloedd darllen, roedd nifer o sefydliadau a neuaddau lles y glowyr yn cynnwys ystafell gemau a mannau cymunedol. Roedd gan rai sefydliadau, fel Neuadd Les Pendyrus, sinema neu neuaddau lluniau. Mae'r poster hwn yn hysbysebu darlledu'r ffilmiau The Plainsman (1936), Dear Brat (1951), A Summer Place (1959) ac A Question of Loyalty (1957) yn Neuadd Les Pendyrus ym mis Hydref 1960. 

Fel rhan o brosiect a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn 2021, cafodd sawl preswylydd ym Mhendyrus eu cyfweld er mwyn rhannu eu hatgofion o'r sinema yn ei hanterth. I glywed rhai o'r straeon hyn, ewch i'n harddangosfa ar-lein, a grëwyd mewn partneriaeth â Neuadd Les Pendyrus ac Archifau Richard Burton: https://collections.swansea.ac.uk/s/tylorstown-welfare-hall-and-institute/page/welcome 

23. Poster Streic y Glowyr 1972 

Cynhyrchwyd y poster hwn yn ystod streic Undeb Cenedlaethol y Glowyr (UCG) ym 1972 ac roedd yn cael ei arddangos yn aml mewn gwrthdystiadau a llinellau piced. Roedd 1972 yn cynrychioli’r streic cenedlaethol cyntaf ers 1926, gyda glowyr yn streicio am well cyflog yn dilyn gostyngiad sylweddol yn eu cyflogau o gymharu â diwydiannau eraill. Erbyn dechrau’r 1970au, roedd cyflog sylfaenol gweithwyr wyneb a thanddaearol wedi disgyn yn is na lefelau cynhaliaeth swyddogol y llywodraeth o £18 yr wythnos. Roedd y streic yn nodedig am y defnydd eang o 'flying pickets', lle'r oedd glowyr ar streic yn teithio i wahanol safleoedd ar draws y wlad i gymryd rhan mewn picedu, yn ogystal ag am y lefelau uchel o undod a ddangoswyd gan weithwyr mewn diwydiannau eraill i gefnogi'r UCG.

Daeth y streic i ben gyda buddugoliaeth i’r glowyr, a lwyddodd i sicrhau cynnydd mewn cyflogau yn dilyn argymhellion Adroddiad Wilberforce. Ond gyda’r mater o ostyngiad mewn cyflogau cymharol yn dychwelyd yng nghanol yr argyfwng ynni parhaus yn y 1970au cynnar, byddai ail wrthdaro â llywodraeth Edward Heath yn dilyn yn fuan wedyn ym 1974. 

Cewch fwy o wybodaeth ar Streic y Glowyr 1972 yn ein harddangosfa yma: https://collections.swansea.ac.uk/s/1972-strike-cy/page/cyflwyniad 

24. Poster Pits and Perverts 

Ym mis Mawrth 1984, aeth miloedd o lowyr ar streic ar draws y Deyrnas Unedig i wrthsefyll cau glofeydd ac ymosodiad ehangach Llywodraeth Thatcher ar lafur. Pedwar mis i mewn i'r streic, cynhaliodd Mark Ashton gyfarfod cyntaf y grŵp newydd ei sefydlu Pobl Lesbiaidd a Hoyw yn Cefnogi'r Glowyr (LGSM). Penderfynodd y grŵp fod angen cynyddol i godi ymwybyddiaeth o achos y glowyr o fewn y gymuned pobl lesbiaidd a hoyw a chyfleu perthnasedd brwydr y glowyr i ryddid pobl lesbiaidd a hoyw. Yn fuan roeddent wedi ffurfio cynghrair gyda Grŵp Cefnogi Glowyr Castell-nedd, Dulais ac Abertawe, gan helpu glowyr a'u teuluoedd yn y rhanbarth trwy godi arian ar gyfer yr apêl streic. 

Ar ôl ymweld â Chwm Dulais, penderfynon nhw drefnu gig elwa. Daeth y digwyddiad hwn yn gyngerdd 'Pits and Perverts' a gynhaliwyd yn yr Electric Ballroom yn Camden, gyda Bronski Beat fel y sêr y sioe. Cododd y digwyddiad swm anhygoel o £5,650! 

Y flwyddyn ganlynol, cyfranogodd y glowyr yng ngorymdaith Pride Hoyw yn Llundain, gyda baner porthdy NUM, Blaenant Cwm Dulais ymysg y rhai a oedd yn cael eu harddangos. 

25. Bathodynnau Gwersyll Heddwch Menywod Comin Greenham 

Ym mis Awst 1981, dechreuodd grŵp ymgyrchu o dde Cymru 'Women For Life On Earth' ymdeithio 120 milltir o Gaerdydd i orsaf yr Awyrlu Brenhinol yng Nghomin Greenham, Berkshire, i brotestio yn erbyn arfau niwclear a gedwid yno. Arweiniodd y gweithredu at ffurfio Gwersyll Heddwch Menywod Comin Greenham, a feddiannwyd gan fenywod o bob rhan o’r DU am bron dau ddegawd. Ar ei anterth, roedd dros 70,000 o fenywod wedi ymgynnull yn Greenham - y brotest fwyaf a arweiniwyd gan fenywod yn y DU ers y frwydr dros gael y bleidlais i fenywod. 

Mae’r bathodynnau hyn yn rhan o gasgliad ehangach o fathodynnau gwleidyddol a gedwir yn Llyfrgell Glowyr De Cymru. Daeth y dyluniad o we pry cop ar y bathodynnau yn symbol o'r gwersyll, gan gynrychioli eiddilwch a gwytnwch. Mae Llyfrgell y Glowyr hefyd yn gartref i faner gan y grŵp o Abertawe, Women Oppose the Nuclear Threat, a drefnodd deithiau i Greenham ar sawl achlysur. 

Yn ystod Streic y Glowyr 1984-85, datblygodd cysylltiadau arwyddocaol rhwng menywod Greenham a grwpiau cymorth menywod mewn cymunedau glofaol – gyda rhai o fenywod o wersyll Greenham yn teithio i Dde Cymru yn ystod streic 1984-85 i orymdeithio a phicedu ochr yn ochr â’r glowyr a’r menywod o'r meysydd glo. Yn yr un modd, ymwelodd menywod o grwpiau cymorth y glowyr â gwersyll Greenham a chasglu arian ar ei gyfer. 

26. Baner Cyfrinfa Abercraf 

Creodd Cyfrinfa Abercraf, adran o Undeb Cenedlaethol y Glowyr (Ardal De Cymru), y faner hon ym 1961. Mae'n darlunio glöwr gwyn a du yn dal lamp glowyr ar y cyd. Mae’r ddau ffigwr yn sefyll o flaen glôb, symbol traddodiadol o undod rhyngwladol sydd i’w weld ar lawer o faneri undebau llafur glowyr. Ond mae gan y faner hon neges ryngwladol fwy penodol hefyd. Fe’i crëwyd flwyddyn ar ôl Cyflafan Sharpeville yn apartheid De Affrica, pan saethodd yr heddlu at dorf o bobl yn protestio yn erbyn ‘pass laws’ hiliol y gyfundrefn. Gadawodd y gyflafan 69 yn farw a 180 wedi'u hanafu, nifer wedi'u saethu yn y cefn wrth geisio ffoi. Crëwyd y faner yn bwrpasol gan ddefnyddio'r lliwiau du, gwyrdd ac aur i adleisio lliwiau Cyngres Genedlaethol Affrica (ANC), y mudiad rhyddhau gwrth-apartheid, dan arweiniad Nelson Mandela yn ddiweddarach, a waharddwyd gan awdurdodau yn fuan ar ôl y gyflafan. 

Ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, pan ymwelodd Nelson Mandela â’r DU ar ôl iddo gael ei ryddhau o’r carchar yn 1990, roedd baner Abercraf yn hongian yn ystafell Cabinet Cysgodol Tŷ’r Cyffredin. Holodd Mandela am y faner a chafodd wybod mai baner glowyr De Cymru oedd hon. ‘Ydw, wrth gwrs, rwy’n deall’ oedd ateb Mandela, i gydnabod eu cefnogaeth i’r ymgyrch yn erbyn apartheid. 

27. Cylchgrawn 'Home' y Co-op

Sefydlwyd y Co-operative Group, a enwyd yn wreiddiol The Rochdale Society of Equitable Pioneers, ym 1844. Sefydlwyd cwmnïau cydweithredol fel y rhain i ddiwallu anghenion eu haelodau mewn cymunedau dosbarth gweithiol yn hytrach na dilyn masnach er elw preifat yn unig. Fe wnaethon nhw agor eu siop gyntaf yn ddiweddarach y flwyddyn honno gyda dewis prin iawn o fwydydd, gan eu cyfyngu i fenyn, siwgr, blawd a blawd ceirch yn unig. Buont yn masnachu’n annibynnol tan 1991 pan newidiwyd eu henw ar ôl uno â chwmnïau cydweithredol cyfagos.

 

Rhwng 1896 a 1964, cyhoeddodd The Co-operative Wholesale Society rifynnau misol o’u cylchgrawn ‘The Wheatsheaf’, a ailenwyd yn ddiweddarach ‘The Co-op Home Magazine’. Mae'r cylchgronau hyn yn cynnwys straeon byrion, ryseitiau coginio a hysbysebion am eitemau a werthwyd yn y siop, gan roi cipolwg diddorol ar hanes diwylliannol a masnachol y cyfnod. Maent yn rhan o Gasgliad Cydweithredol Llyfrgell y Glowyr, sy’n cynnwys amrywiaeth o ffynonellau ar ddatblygiad y mudiad cydweithredol yn Ne Cymru.

28. Llyfr Cartwnau gan J.M. Staniforth

Arlunydd oedd Joseph Morewood Staniforth (c.  1864 – 1921) yn fwyaf adnabyddus am ei gartwnau i'r Western Mail rhwng 1889 a 1921. Roedd ei gyfnod yn y papur newydd yn cyd-daro â newidiadau sylweddol yn niwydiant glo Cymru, yn enwedig ffurfio'r undeb cyntaf i gwmpasu'r maes glo cyfan – Ffederasiwn Glowyr De Cymru, a elwir yn gyffredin y ‘Fed’ – ym 1898, a’i ddylanwad gwleidyddol dilynol yn Ne Cymru.

Mae llawer o gartwnau yn ymdrin â gwleidyddiaeth Cymru a chysylltiadau llafur yn y meysydd glo, gyda darluniau niferus o Lloyd George, arweinydd yr undeb ‘Mabon’ a chymeriad o greadigaeth Staniforth ei hun a elwir yn ‘Dame Wales’; gwawdlun ‘mam Gymreig’ yn aml yn cael ei gastio fel llais rheswm o fewn y dosbarth gweithiol Cymreig.

Roedd gan y papur, a sefydlwyd gan y diwydiannwr John Crichton-Stuart, 3ydd Ardalydd Bute, safbwyntiau ceidwadol ar y cyfan, gelyniaethus i'r ‘Fed’ a chefnogaeth gynyddol i sosialaeth yng Nghymru. Ond er gwaethaf sterepteipiau a thueddiadau golygyddol, mae'r cartwnau yn ffynonellau gweledol diddorol o gyfnod arbennig o ddeinamig yn hanes Cymru.

29. Ffotograff o Sgwad Achub Glofa Maritime Rhif 1 

Mae’r ffotograff hwn yn dangos Sgwad Achub Glofa Maritime Rhif 1 o Bontypridd. Maent yn dal eu hoffer anadlu a lampau diogelwch ac maent wrth ymyl dymi ar stretsier a ddefnyddir ar gyfer ymarfer. Roedd y tîm hwn yn un o lawer o bob rhan o'r maes glo a aeth i gynorthwyo gydag ymdrechion achub yn dilyn trychineb Senghenydd yn 1913.

 

Lladdodd y ffrwydrad yng Nglofa Universal yn Senghenydd 439 o bobl, gan ei wneud y trychineb glofaol gwaethaf yn hanes Mhrydain. Ar ôl clywed am y ffrwydrad, cyrhaeddodd timau achub arbenigol o Gymoedd Rhymni a Rhondda, ochr yn ochr â gweithwyr y gwasanaethau ambiwlans a’r Groes Goch. Unwaith i lawr yn y pwll glo, roedd partïon achub yn wynebu tanau, to yn cwympo, a nwyon gwenwynig. Lladdwyd un achubwr, a chafodd eraill anafiadau neu ddioddefodd effeithiau gwenwyn carbon monocsid, er i lawer o fywydau gael eu hachub oherwydd eu hymdrechion.

 

Ar ganmlwyddiant trychineb Senghenydd, dadorchuddiwyd cofeb i’r rhai a laddwyd yn holl drychinebau glofaol Cymru ar ben pwll glo Universal. Mae'r cerflun coffa, sy'n rhan o Ardd Goffa Genedlaethol Trychinebau Glofaol Cymru, yn darlunio glöwr wedi'i anafu yn cael ei helpu gan achubwr.

30. Four Weeks in the Hands of Hitler’s Hell-Hounds gan Hans Beimler 

Roedd Hans Beimler yn gomiwnydd o’r Almaen ac yn aelod o'r Reichstag. Ym mis Ebrill 1933, cafodd ei arestio fel rhan o ymgais y Natsïaid i erlid gelynion posib a'i anfon i wersyll-garchar newydd Dachau. Ym mis Mai 1933 dihangodd, wedi'i wisgo fel gwarcheidwad Natsi. Mae "Four Weeks" yn gyhoeddiad pwysig sydd wedi cael ei gyfieithu i'r rhan fwyaf o ieithoedd Ewrop, ac mae’n un o'r adroddiadau cyntaf gan lygad-dyst o system gwersylloedd-garchar newydd y Natsïaid. Gwnaeth Beimler ffoi i Sbaen, gan ddod yn Gomisar ym Mataliwn Thaelman y Brigadau Rhyngwladol yn y pen draw yn ymladd lluoedd ffasgaidd Franco yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen. Cafodd ei ladd yn ystod Brwydr Madrid ym mis Rhagfyr 1936. Er anrhydedd iddo, ailenwyd yr 11eg Brigâd Rhyngwladol yn Frigâd Hans Beimler.