Y Neuadd Heddiw
Mae dros 1,000 o ymwelwyr ar gyfartaledd yn ymweld â'r adeilad bob mis ar hyn o bryd a'u hoedrannau'n amrywio o 0 i 95 oed. Mae'r gweithgareddau rheolaidd yn cynnwys nosweithiau bingo i deuluoedd, grwpiau rhieni a phlant bach, grŵp i'r rhai dros 50 oed, aerobeg cadair freichiau, disgos a phartis. Yn ogystal â'r grwpiau sy'n cwrdd yno, mae gan y Neuadd siop goffi a reolir gan wirfoddolwyr sydd wedi cael hyfforddiant barista. Mae'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn hurio lle i wneud gwaith cyfiawnder adferol gyda throseddwyr ifanc, ac maent hefyd yn helpu gyda gwaith cynnal a chadw cyffredinol yn yr adeilad. Mae'r Neuadd yn cael ei hurio hefyd i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau gan gynnwys: cyflwyniad pêl-droed blynyddol, gorsaf bleidleisio leol, lle i'r band pres a'r côr lleol ymarfer.
Yn ei chyfweliad, mae Rebecca Sullivan, Rheolwr Datblygu'r Neuadd, yn siarad am y ffyrdd mae'r Neuadd yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd.
Isod ceir lluniau o'r Neuadd a dynnwyd ym 1921 a ffotograffau o rai o'r grwpiau mae Rebecca yn siarad amdanynt.
Staeon o'r Neuadd
Yr artist Grenville Jones
Yn 2014 rhoddodd Grenville Jones, sy'n hanu o Bendyrus, 26 o'i baentiadau i Neuad Les Pendyrus. Gadawodd Grenville y Rhondda 60 o flynyddoedd yn ôl ac mae wedi cyfleu ei atgofion bywiog am ei blentyndod ar gynfas mewn cyfres o luniau lliwgar a gafaelgar.
"The Welfare Hall" gan Terry Williams
In the Welfare Hall we sat
amongst the tea and toast we sat
what's the local news this week
Mrs Edwards she has got a cheek
she is wearing her skirts so short
she is sixty if she's a day I would have thought
Tommy Smith got caught in a shop
three chocolate bars in his pocket and a lollipop
the police were called and took his name
Mrs Smith has never been the same
apart from that it's not a bad place
the town goes on at its urban pace.
Isod mae rhai o ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr presennol y Neuadd, un o'r cyn aelodau staff ac aelod o'r staff presennol yn disgrifio beth mae'r Neuadd yn ei olygu iddynt, eu hoff atgofion am y Neuadd ac mae Rebecca Sullivan yn disgrifio ei hoff ystafell yn y Neuadd. Bu rhai o'r bobl a gytunodd yn garedig i ni gyfweld â nhw hefyd yn rhannu â ni eu hatgofion cynharaf o'r Neuadd a'u gobeithion am ei dyfodol.