Tylorstown Welfare Hall

Ffotograff o Neuadd Les Pendyrus (d.d.)

Neuadd i Bawb: Cysylltu'r Gymuned drwy Hanes Neuadd Les Pendyrus

Mae Neuadd Les a Sefydliad Pendurys yn adeilad amlbwrpas â hanes cyfoethog ac amrywiol. Wedi’i hadeiladu ym 1933, hi yw Neuadd Les y Glowyr olaf yn y Rhondda Fach ac mae ganddi rôl ganolog yn y gymuned o hyd, gan gynnig amrywiaeth o weithgareddau, digwyddiadau a chyfleoedd i bobl leol. Mae hi hefyd yn gartref i Gôr Meibion Pendyrus.

Cafodd y Neuadd ei chau am flwyddyn yn 2019 yn dilyn gollyngiad dŵr y tu mewn, ac roedd hi ar agor am fis yn unig yn 2020 oherwydd cyfyngiadau ar fynediad yn sgîl pandemig COVID-19. Yn ystod y cyfnod hwn, mae hi wedi dod yn amlwg bod y neuadd yn chwarae rôl bwysig yn y gymuned.

O ganlyniad i grant gan Gynllun Treftadaeth 15 Munud Cronfa Dreftadaeth y Loteri, mae staff a gwirfoddolwyr y Neuadd wedi bod yn gweithio gyda staff o Archifau Richard Burton a Llyfrgell Glowyr De Cymru ym Mhrifysgol Abertawe ar brosiect i gofnodi atgofion - drwy hanes llafar a ffotograffau - am y Neuadd Les a'r Sefydliad, ac arddangos y canlyniadau drwy arddangosfa ar-lein.

Hanes Pendyrus (Tylorstown)

Enwyd Tylorstown (Pendyrus) ar ôl Alfred Tylor, brodor o Lundain a brynodd hawliau i fwynau Fferm Pendyrus ym 1872 a chloddiodd bwll glo Pendyrus yn fuan wedi hynny. Arweiniodd hyn at dwf y pentref ac erbyn 1881, roedd Glofa Pendyrus yn cyflogi 800 o ddynion. Prynwyd y lofa gan David Davis & Sons ym 1894 a throsglwyddwyd y berchnogaeth wedi hynny i'r Powell Dyffryn Steam Coal Company. Ar 28 Ionawr 1896, lladdwyd 57 o ddynion gan ffrwydrad yn y lofa. Roedd ymchwiliad i achos y ffrwydrad, a gynhaliwyd gan yr Athro Haldane, yn allweddol yn y penderfyniad i gyflwyno caneris er mwyn canfod presenoldeb carbon monocsid mewn pyllau glo. Caeodd y pwll olaf ym Mhendyrus ym 1960.

Photograph of the upper end of Tylorstown (c. 1920)

Ffotograff o ben uchaf Pendyrus (tua 1920)

Mae'r Neuadd ar East Road ym Mhendyrus yng Nghwm Rhondda.

        

Nesaf