Ymchwil
ADDYSG AC YMCHWIL
Mae'r Casgliad Hanes Cyfrifiadura yn ganolfan leol i bobl ymchwilio a dysgu am wreiddiau a datblygiad ein byd digidol a'i ddylanwad. Mae'r casgliad yn eclectig. Rydym ni'n credu ei fod yn ddefnyddiol er mwyn ymchwilio i amrywiaeth eang ac amrywiol o bynciau. Mae ganddo ychydig o themâu eang; ar hyn o bryd, mae'r rhain yn cynnwys:
- Cyfrifiadura a Chymru
- Cyfrifiadura cyn cyfrifiaduron
- Datblygiad Addysg Gyfrifiadureg mewn cyfrifiadura
sydd wedi'u hadlewyrchu yn ein rhoddion, a’n mentrau casglu ac ymchwil. Fodd bynnag, mae ei archifau a'i storfeydd yn eang eu cwmpas, ac mae safbwyntiau newydd yn dod i'r amlwg wrth i syniadau, cwestiynau a rhoddion newydd ddeillio o hynny. Os hoffech chi archwilio neu gyfrannu at ein hadnoddau a'n gwasanaethau, cysylltwch â ni.
Addysg ym maes cyfrifiadura
Sut rydym ni wedi dysgu i ddatblygu, cymhwyso a defnyddio cyfrifiaduron a meddalwedd? Ateb amlwg a diniwed fyddai drwy ysgolion, colegau a phrifysgolion. Ond mae graddfa a chryfder ein harloeseddau a’n gallu yn awgrymu ein bod ni'n dysgu'r un faint drwy ddysgu anffurfiol â dysgu ffurfiol: mae pobl wedi dysgu eu hunain yn y gwaith a gartref, gyda chymorth gan gydweithwyr a ffrindiau. Yn ôl pob golwg, dyma faes ymchwil hanesyddol sydd wedi'i esgeuluso.
Mae'r Casgliad wedi talu rhywfaint o sylw at darddiad hanesyddol a thwf gwybodaeth a sgiliau cyfrifiadurol pobl. Er enghraifft, mae'n cynnwys deunyddiau sy'n ymwneud â chreu:
- Y gwasanaethau cyfrifiadura yn y diwydiant dur ym Mhort Talbot
- a'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau yn Abertawe (DVLA.
Rydym ni hefyd yn ceisio datblygu archif addysg gyfrifiadura yn Abertawe.
- Addysg ac Ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe
- Hanes cryno o Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1962 a 1969
- Cyfrifiadura cynnar yng Ngholeg Abertawe
- Creu cwricwla a chymwysterau cyfrifiadura yng Nghymru