Y Streic (rhan dau)
Erbyn diwedd mis Ionawr, roedd y cyflenwad glo wedi lleihau gymaint mewn gorsafoedd pŵer i ddechrau cael effaith dyngedfennol ar gyflenwad trydan y wlad. Datganodd y llywodraeth Gyflwr Argyfwng ar 9 Chwefror, gydag wythnos tri-diwrnod yn cael ei chyflwyno’n fuan wedi hynny.
Wrth synhwyro buddugoliaeth yr ymgyrch streicio, sefydlodd llywodraeth Heath Lys Ymchwiliad dan arweiniad yr Arglwydd Wilberforce i asesu hawliadau cyflog y glowyr. Cydnabu Adroddiad Wilberforce, a gyhoeddwyd yn sgil yr archwiliad, fod 'cwymp difrifol wedi bod mewn cyflogau cymharol' y glowyr, ac argymhellodd godiad cyflog o £6 i weithwyr tanddaearol, £5 i weithwyr yr arwyneb a £4.50 ar gyfer gweithwyr arwyneb NPLA.
Yn dilyn trafodaethau pellach ynghylch manylion y fargen, argymhellodd Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol yr NUM y setliad i’r aelodau a daeth y picedu i ben. Ar 25 Chwefror, dychwelodd pleidlais genedlaethol fwyafrif llethol o blaid dod â'r streic i ben a dychwelyd i'r gwaith.
Er gwaethaf y fuddugoliaeth hon a'i heffaith ar forâl o fewn yr undeb, wrth gwrs, nid dyma ddiwedd y drwgdeimlad sylfaenol yn y diwydiant a'r economi ehangach - na chwaith bolisïau cysylltiadau diwydiannol gwrthweithiol y llywodraeth. Wrth i gwymp mewn cyflogau cymharol ddychwelyd yn ystod yr argyfwng ynni parhaus ddechrau'r 1970au, roedd ail gyfnod o wrthdaro, hynod wleidyddol, â llywodraeth Heath ar y gorwel.