Rhagor o wybodaeth
Mae'r deunyddiau a ddefnyddir yn yr arddangosfa hon yn rhan o Gasgliad Meysydd Glo De Cymru, a gedwir yn Llyfrgell Glowyr De Cymru ac Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe. Cedwir deunyddiau archifol megis llyfrau cofnodion, cofnodion ariannol, gohebiaeth a ffotograffau yn Archifau Richard Burton. Cedwir recordiadau hanes llafar, fideos, pamffledi a ffynonellau eilaidd amrywiol yn Llyfrgell Glowyr De Cymru. Mae'r arddangosfa hon yn arbennig o ddiolchgar am yr wybodaeth a'r gwaith dadansoddi defnyddiol a gasglwyd yn The Fed (1980) gan Hywel Francis a David Smith a The South Wales Miners (1964-1985) (2013) gan Ben Curtis – y mae'r ddau ohonynt ar gael yn Llyfrgell y Glowyr.
Caiff llawysgrifau, ffotograffau, deunyddiau sain a fideo, a gedwir fel rhan o Gasgliad Meysydd Glo De Cymru, eu catalogio yma: https://www.swansea.ac.uk/swcc/
Mae llyfrau a phamffledi Casgliad y Meysydd Glo, yn ogystal â ffynonellau eraill o'r llyfrgell fenthyca, wedi'u catalogio yma: https://ifind.abertawe.ac.uk
Os hoffech ddysgu mwy am Gasgliad Meysydd Glo De Cymru neu'r ffynonellau sy'n ymwneud yn benodol ag Anghydfodau a Streiciau Diwydiannol yn ne Cymru, ewch i'n Canllawiau Llyfrgell ar-lein:
Archifau Richard Burton: https://libguides.swansea.ac.uk/richardburtonarchives
Llyfrgell Glowyr De Cymru: https://libguides.swansea.ac.uk/swml/collections