Cyflwyniad

Portread o Paul Robeson gan Yousuf Karsh

“Cyn i King freuddwydio, cyn i Thurgood Marshall ddeisyf ac i Sidney Poitier fynegi ei deimladau, cyn y datblygiadau mawr yn Hollywood a Washington, cyn i arwyddion Jim Crow ddod i lawr ac i faneri’r ymgyrchwyr Hawliau Sifil fynd i fyny, cyn Spike Lee, cyn Denzel, cyn Sam Jackson a Jesse Jackson, roedd Paul Robeson.”

Lerone Bennett Jnr., 1998

Mae bywyd Paul Robeson yn gronicl ysbrydoledig o hanes diwylliannol a chymdeithasol yr ugeinfed ganrif. Roedd ganddo ddoniau anhygoel. Roedd yn ysgolhaig, yn athletwr, yn ieithydd, yn ganwr, yn areithiwr ac yn actifydd. Llwyddodd i newid rhywfaint ar y cyfnod cythryblus hwnnw a gadawodd ei ôl ar y bobl hynny a gyfarfu ag ef neu a’i gwelodd yn perfformio.

Drwy’r byd i gyd roedd pobl yn gwirioni ar ei gelfyddyd, ei ddynoliaeth, a’i angerdd am gydraddoldeb, rhyddid a heddwch. Yn yr Amerig, fodd bynnag, ‘roedd ei safiadau cadarn yn erbyn hiliaeth ac anghyfartaledd yn aml yn ennyn llid pobl oedd yn llywodraethu’r wlad. Gyda’r byd yn ei glodfori, fe gododd i frwydro dros hawliau’r gorthrymedig a thrwy hynny aberthodd ei yrfa berfformio. Gallasai’r byd yn hawdd fod wedi anghofio amdano. Dywedodd Paul Robeson fod ei addysg wleidyddol wedi dechrau yn y DU drwy ei gysylltiadau â gweithwyr cyffredin.

O ddiwedd y 1920au fe ffurfiodd berthynas agos iawn â glowyr De Cymru a bu’n canu yn ddiweddarach yn y cymoedd dros Sbaen Weriniaethol. Ei hoff ffilm oedd Proud Valley a ffilmiwyd yn Ne Cymru ac a ddarluniai amgylchiadau enbydus y gweithwyr yno. Dyma un o’r ffilmiau cyntaf bortreadu dyn du ei groen yn arwr. Gwelai Robeson fod tebygrwydd mawr rhwng bywyd glöwr a chaethwas Americanaidd. Roedd y linc ffôn traws-Iwerydd a wnaed rhwng Robeson yn Efrog Newydd ac Eisteddfod y Glowyr ym Mhorthcawl yn 1957 yn un o’r atgofion mwyaf ingol yn hanes gwleidyddol a diwylliannol Cymru. Bu’n rhaid iddo wneud yr alwad gan fod ei basbort wedi cael ei feddiannu yn un o gyrchoedd McCarthy Fydd ei lais ddim yn mynd yn angof yng Nghymru.

Dyma genedl sydd wedi ei magu ar harmoni corawl ac yn rhannu ei angerdd am frwydro yn erbyn anghyfiawnder a thros democratiaeth.

“Does unman yn y byd yn fwy hoff gennyf na Chymru.”

Paul Robeson

Western Mail 24 Chwefror 1949

Cast Ffilm Showboat, 1935

Gorymdaith gwrth-arwahanu, 1948