Seren y Llwyfan a’r Sgrin
“Fel pob gwir artist, rwyf wedi dyheu am weld y dydd y bydd fy nhalentau yn cyfrannu i gynorthwyo dynoliaeth.”
Paul Robeson, 24 Mehefin 1937
Ar wahân i’r cymeriadau a chwaraeodd Robeson yn nramâu cynnar O’Neill, ni lwyddodd i gael rhannau a oedd yn gwir adlewyrchu’r hyn a gredai. Ystyriwyd Black Boy gan y wasg Ddu fel portread ystrydebol o ddyn du ei groen. Deng mlynedd yn ddiweddarach fe ddeallodd Robeson:
“Ni lwyddwyd i wir bortreadu’r sefyllfa. Allai’r Negro ynddi fyth ddweud yn union sut yr oedd yn byw ac yn teimlo. ’Fyddai’r gwynion yn y gynulleidfa fyth wedi dioddef y fath beth. Petaech chi’n cyfansoddi drama fyddai’n portreadu gwir fywyd y Negro, fyddai cynulleidfaoedd, yn yr Amerig beth bynnag, yn gwrthod gwrando arni.”
Yn Llundain yn y flwyddyn 1935 fe chwaraeodd ran Bennaeth Affricanaidd yn Basalik. Yn y flwyddyn ganlynol fe oedd y prif actor yn y Toussaint L’Ouverture. Drama am wrthryfel caeth weision Haiti yn y ddeunawfed ganrif ydoedd. Methiant fu’r ddwy ddrama i gyfleu darlun cryf ac adlewyrchu profiad cymhleth pobl ddu eu crwyn i gynulleidfaoedd aml-ddiwylliant. Cafodd ei ddadrithio ac fe’i siomwyd gan na lwyddodd yn ei eiriau ei hun I..
“bortreadu bywyd na rhoi llais i ddiddordebau, gobeithion a dyheadau pobl dan ormes - ei bobl ef.”
Dyma’r union reswm pam y gwrthododd gymryd rhan yn y West End ac yn lle hynny ymddangos yn nrama Ben Bengal yn yr Unity Theatre. Thema’r ddrama oedd yr ymdrech i drefnu undeb ymhlith gweithwyr.
“Wrth ymuno â’r Unity Theatre, llwyddais i fedru uniaethu â’r dosbarth gweithiol … Fy newis oedd chwilio am rywle I weithio oedd yn gydnaws â’m credoau. Naill ai hyn neu beidio â gweithio o gwbl.”
Paul Robeson, The Daily Worker