Rydych Chi Wedi Llunio Fy Mywyd

“Rydych chi wedi llunio fy mywyd - rwyf wedi dysgu oddi wrthych.”

Paul Robeson

Yr Eisteddfod Genedlaethol, Glyn Ebwy, 1958

Ym mis Gorffennaf 1958 cafodd Paul ac Eslanda Robeson eu pasport yn ôl. Cafodd groeso twymgalon ym Mhrydain ac yn Ewrop. Rhwng Medi 21 a Rhagfyr 7 1958, perfformiodd Paul mewn nifer fawr o gyngherddau. Siaradodd o Glasgow i Exeter, o Bradford i Belfast ac ym Mhorthcawl (Hydref 5), Caerdydd (Tachwedd 4) ac Abertawe (Tachwedd 23).

Cafodd de yn Nhy’r Arglwyddi, ginio yn Nhy’r Cyffredin, canodd ar y teledu ym Mhrydain a dathlodd canmlwyddiant Theatr Goffa Shakespeare drwy berfformio Othello. Ef oedd y gwˆ r lleyg cyntaf i ddarllen yr ysgrythur o bulpud Eglwys Gadeiriol St Paul’s yn Llundain ac ef oedd y dyn du cyntaf i sefyll wrth y ddarllenfa honno. Dywedodd ymwelydd o’r Amerig:

“Roedd yn rhaid i chi fod yno i brofi gymaint yw’r croeso a pha mor wresog yw’r derbyniad a gaiff Robeson yn Ewrop.”

Othello, 1943

Nye Bevan a Paul Robeson yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Glyn Ebwy, 1958

Robeson gyda’r llyfr emynau a gyflwynwyd iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy, Awst 1958

Gofalodd mai mewn derbyniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Glyn Ebwy, ym mis Awst 1958 y gwnaeth un o’i ymddangosiadau cyntaf. Yma, cyflwynwyd llyfr emynau Cymraeg iddo ac fe soniodd am bwysigrwydd ei gysylltiad â Cymru:

“Rydych chi wedi llunio fy mywyd - rwyf wedi dysgu oddi wrthych.”

Yn nes ymlaen y flwyddyn honno, rhoddwyd lamp glöwr fach I Robeson ag arni’r geiriau: ‘Greetings to Paul Robeson from the South Wales Miners, October 1958’ yn Eisteddfod y Glowyr ym Mhorthcawl. Y penwythnos hwnnw, aeth yn ôl i weld ei hen ffrindiau yng Nghartref y Glowyr yn Nhalygarn.

Daeth pum mil o bobl i dalu’r deyrnged olaf i Paul Robeson yn Eglwys Mother AME Zion yn Harlem. Roedd llawer ohonyn nhw’n aros y tu allan yn y glaw. Clywyd recordiad o Robeson yn canu ‘Deep River’. Trefnodd Glowyr De Cymru gyngerdd coffa ym Mhafiliwn Porthcawl ar nos Sul 28 Chwefror, 1976.

Cawsant gyfle i hel atgofion am hen gyfaill. Yn ystod ei fywyd yr oedd wedi uno â hwy ac yr oedd wedi gadael ei ôl ar eu bywydau. Mae dilyn taith bywyd Robeson wedi rhoi darlun clir i ni o’r cyfnod yr oedd yn byw ynddo. Cyffyrddodd ei fywyd rhyfeddol â‘n bywydau ni. Bydd yn dal i fod yn berthnasol i ni yma yng Nghymru.

“Fel petawn i’n sefyll yna, gyda chi”

Paul Robeson linc traws-Iwerydd dros y ffôn i Eisteddfod y Glowyr, Porthcawl

5 Hydref 1957