Proud Valley

Proud Valley, 1940

“Dyma Seth yn syn mai dyn du yw e. Wel, uffern dun ddyn, nag yw pawb yn ddu lawr y pwll ‘na ‘te?”

Proud Valley 1940

 

“Cymru … lle y dellais am y tro cyntaf bod y gwyn a’r Negro yn ymladd gyda’i gilydd ...”

Paul Robeson

Ffilmio tanddaearol Proud Valley

Ymddangosodd Paul Robeson yn Proud Valley yn y flwyddyn 1940 a dyma oedd ei ffilm olaf ym Mhrydain. Ynddi fe chwaraeai ran David Goliath. Roedd awdur y sgript, Jack Jones, yn gyn-löwr ac yn Gymro, ac yn wir fe ddaeth Robeson i drefi ’r Cymoedd i ffilmio. I Robeson, dyma un o’i ffilmiau gorau. Gallai uniaethu â’r dosbarth gweithiol Cymreig a bortreadwyd ynddi ac o ganlyniad i’r ffilm fe ddaeth Robeson yn ffigwr pwysig yma yng Nghymru.

“Dydy Proud Valley ddim yn diystyru erchyllterau bywyd a marwolaeth o dan y ddaear. Yn yr eisteddfod … mae David yn talu teyrnged i’w gyfaill drwy ganu ‘Deep River’ mewn modd angerddol. Mewn ffilmiau Prydeinig, dyma un o’r golygfeydd mwyaf emosiynol a welwyd erioed.”

Stephen Bourne

Black in the British Frame

 

“Negro yw’r cymeriad canolog sydd yn dod i’r cwm o’r tu allan. Ar y dechrau, daw wyneb yn wyneb â rhagfarn ond o dipyn i beth, wrth i’r glowyr ddod i’w adnabod a deall ei fod yn barod i aberthu ei fywyd ei hun dros ei gyfaill, mae’n dod yn un ohonynt. Mae yma destun pregeth am frawdoliaeth dyn.”

Daily Telegraph

Ar set, Proud Valley, 1940

Yn Carnegie Hall, Efrog Newydd mewn teyrnged i ddathlu canmlwyddiant ei eni fe adroddodd Whoopi Goldberg ac Ossie Davies hanes Robeson yn dod i gysylltiad â Chymry am y tro cyntaf:

“Un diwrnod yn ystod gaeaf caled 1929 pan oedd tlodi adiweithdra yn llethu gweithwyr Prydain, roedd e ar ei ffordd i gala ddathlu pan glywodd e gôr o lowyr Cymru yn canu mewn harmoni. Grwp o lowyr o Dde Cymru oedden nhw yn canu wrth fartsio ar eu ffordd i Lundain i holi am help oddi wrth y llywodraeth. Wrth gerdded ar hyd y strydoedd fe fyddent yn canu i godi arian i gynnal eu hunain. Heb feddwl ddwywaith, roedd Paul wedi ymuno â hwy gan ganu ar y ffordd.Pan gyraeddasant adeilad mawr yn y dre’ fe aeth Paul i ben y grisiau a chanu ‘Ol’ Man River’, baledipoblogaidd ac emynau Negroaidd i’w gyfeillion newydd. I’r rhai hynny oedd yn bresennol, roedd yn brofiad bythgofiadwy.

Yn ddiweddarach, fe drefnodd eu bod wedi cael digon o gyfraniadau fel y gallent ddychwelyd i’w gwlad ar drên nwyddau. Roedd un o’r cerbydau yn llawn o fwyd a dillad i’r glowyr a’u teuluoedd yn ôl yng Nghwm Rhondda. Y flwyddyn honno aeth elw un o’i gyngherddau i Gronfa Les Glowyr Cymru ac ymwelodd â’r Rhondda yn bersonol I ganu i’r cymunedau glofaol a siarad â’r bobl yno.”

Ers iddo gyfarfod y glowyr o Gymru ar hap a damwain fe deimlai Robeson dynfa gref at Gymru. Fe welai bod eu traddodiadau yn deillio o’r gymuned, o’r capel ac o fyd gwaith. Roedd eu traddodiadau cerddorol a pherfformiadol wedi eu gwreiddio mewn caledi a gormes. Teimlai Robeson y gellid cymharu gormes y bobl dduon yn yr Amerig â phrofiadau y glowyr yn nyffrynnoedd De Cymru. Roedd pobl eraill yn elwa o’u llafur caled. Roedd yn bwysig sefyll yn gadarn ar lefelau lleol a rhyngwladol yn erbyn gormes.

“Rwyf wrth fy modd â cherddoriaeth erioed ac mae canu’n dod mor naturiol â siarad i mi. O bryd i’w gilydd, pan fûm yng Nghymru, rwyf wedi gwrando mewn rhyfeddod ar ganu gwych bechgyn ifainc mewn gorsafoedd neu mewn gêm bêl droed. Pan wyf innau wedi canu mewn cyngherddau yng Nghymru, mae’r bobl wedi ymateb yn ardderchog. Rwy’n teimlo rhyw ddolen gyswllt o werthfawrogiad rhyngom ac felly pan welais y sgript ... a bywyd y glowyr yn gefndir iddi, roeddwn ar ben fy nigon ... Mae’n stori am bobl go iawn.”

Paul Robeson

Glastwreiddiwyd neges gymdeith-asol flaengar y ffilm gan y bu’n rhaid newid y diweddglo radical. Roedd angen cynhyrchu cyflenwad di-dor o lo yn ystod y rhyfel a gorfu iddynt newid y rhan olaf. Erys Proud Valley, serch hynny, yn ffilm unigryw ymysg ffilmiau’r cyfnod. Ynddi ceir portread o weithiwr du ei groen sydd yn onest, yn ddynol ac yn cael ei barchu gan ei gydweithwyr.

Er iddo gael profiadau da yng Nghymru fe roddodd Robeson y ffidl yn y to a chefnodd ar fyd y ffilmiau yn 1942:

“Dydw i ddim yn barod i gysylltu fy hunan â sefydliad sydd yn anwybyddu realiti - sefydliad sydd yn barod i ddallu’r cyhoedd, i ddarlunio bywyd ffug a sefydliad sy’n diystyru’r grymoedd pwerus sydd ar gerdded yn y byd heddiw.”