Bae Teigr
“Gallaf gofio Mrs. Jason yn dweud wrthym ein bod yn cael ymwelydd pwysig iawn. Meddai, “Dyfalwch pwy ydyw? Paul Robeson! ” A dywedodd hi, “A allwch chi roi llaw inni dacluso neis?” Felly roedden ni i gyd yn ymarferol! Fe wnaethon ni sgleinio’r linoliwm nes i chi allu gweld eich wyneb ynddo. Roedd yn hyfryd. Ac i fyny'r grisiau roedd popeth yn disgleirio ... ”
Vera Johnson
Gwyr llawer o bobl am ymweliadau Robeson â chymoedd De Cymru ond ychydig a wyddys am ei ymweliad â Tiger Bay. Yn gynnar yn 1949 fe ddaeth i Tiger Bay i gwrdd ag Aaron Mansell, a oedd gynt o Baltimore. Roedd yn gomiwnydd ac yn fab I gaethwas a lwyddodd i ddianc. Trip personol oedd hwn gan fod Mr Mansell yn ewythr yng nghyfraith i Robeson. Tra oedd Robeson yn y tyˆ, ymgasglodd torf o bobl y tu allan. Pobl leol oedd rhai ohonynt wedi eu gwisgo mewn gwisgoedd traddodiadol o’r Affrig - gwisgoedd a ddefnyddiwyd wrth ffilmio Sanders of the River. Somaliaid oedd y mwyafrif o’r dyrfa, gan gynnwys Mr. Duallah. Gellir ei weld ar bwys Robeson yn y llun.
Mae Mary Neil yn cofio’r dydd yn iawn:
“Pan ddaeth Paul Robeson yma, wel dyna i chi oedd diwrnod cyffrous. Gwisgodd mam ei ffedog a buon ni’n polisho popeth - hyd yn oed y pasej … Ro’n i ar y grisie. Fe weles i e’n dod drwy ddrws y ffrynt ac fe glywes i ei lais e. (O! rodd llais bendigedig ‘da fe) Rodd y cymdogion allan o amgylch y drws ffrynt. Yna fe dda’th e mas o’r limosîn. (O! o’dd e’n ddyn golygus). Fe ddaeth un o’r merched oedd wedi cael rhan fach yn Sanders of the River lan ato fe gyda’i babi yn ei breichie a dweud, ‘Mr. Robeson, ydych chi’n fy nghofio i yn Sanders of the River?’ Mewn llais dwfwn dwfwn, fe atebodd e, ‘Wrth gwrs fy mod i, merch i.’ Ac yna fe a’th e drwy’r pasej. Roeddem ni i gyd wedi’n swyno. Yna fe gerddodd e mewn i ‘ystafell Mr. Mansell - rodd ’i ystafell e bob amser yn llawn o lyfrau. Fe arhoson nhw yno yn siarad am ryw awr … ”
Cyfweliad rhwng grwp Hanes a Chelfyddydau Butetown (Glenn Jordan, Julia Young, Vera Johnson ac Olwen Watkins) a Mary Neil o’i chartref yn Rhymni, Chwefror 13, 2002