Tynnu Pasbort

“Mae gwrthod hawl artist mawr fel Robeson i roi ei gelfyddyd i’r byd yn gyfystyr â dinistrio’r sylfaen y mae ein diwylliant a’n gwareiddiad wedi’u hadeiladu arni.”

Charlie Chaplin

Pasbort wedi'i ganslo

Paul Robeson yn ystod ei alltudiaeth

Yng Ngorffennaf 1950, diddymodd Adran y Weinyddiaeth basbort Robeson. Roedd ef yn awr yn garcharor yn ei wlad ei hun. Fe’i dilynwyd i bobman, gwrandawyd ar ei alwadau ffôn, agorwyd ei lythyron a nododd pobl ble yr oedd yn mynd a phryd y deuai yn ôl. Yng ngolwg sefydliad yr UD roedd ef yn elyn ac yng ngolwg y cyhoedd roedd ef wedi mynd i gefn y llwyfan. Serch hynny, er gwaetha’r ffaith fod ei iechyd yn dirywio, rhoddodd berfformiad ysgubol wrth ateb rhai o’r cyhuddiadau a wnaed gan Bwyllgor y Tŷ ar weithgareddau gwrth-Americanaidd:

“Dydw i ddim yn cael fy erlid oherwydd y ffaith fy mod i’n Gomiwnydd. Rydw i’n cael fy erlyn am fy mod yn ymladd dros hawliau fy mhobl sydd yn dal i fod yn ddinasyddion eilradd yn Unol Daleithiau America … Rydych chi am gau ceg pob Negro dewr sydd yn sefyll ac yn ymladd dros hawliau ei bobl …... caethwas oedd fy nhad ac fe fu fy mhobl i farw yn codi’r wlad hon ar ei thraed. Rydw i yn mynd i sefyll yn y fan hon a bod yn rhan union fel chi. Ni all yr un person ffasgaidd fy atal i rhag aros ynddi. Ydych chi’n deall?”

Paul Robeson yn serennu i mewn Emperor Jones, 1933

Pan ataliwyd pasport Robeson bu’r brotest yn fyd eang. Gofynnwyd i ddiplomyddion mewn gwledydd tramor,

“Os ydych chi mor ddemocrataidd, pam na adewch chi i Paul Robeson deithio?”

Ymgyrchodd ei ffrindiau ym Mhrydain yn galetach na neb er mwyn iddo gael yr hawl i ganu ac i gael yr hawl sylfaenol i siarad drwy’r byd. Sefydlwyd ymgyrch Gadewch i Paul Robeson Ganu yn Lloegr yn 1954. Yn Hydref 1950, yng Nghynhadledd Heddwch y Byd yn Warsaw, fe roddwyd Gwobr Heddwch y Byd iddo ef a Pablo Picasso. Enillodd Wobr Rhyngwladol Stalin am Heddwch yn 1952. Yn 1953 cafodd y gwahoddiad blynyddol I ganu yn Eisteddfod y glowyr yma yng Nghymru a gwahoddiad o Loegr i berfformio Othello. Yn gyffredinol fe gâi ei ddiarddel yn yr Amerig a’i glodfori mewn mannau eraill o’r byd. Ond yr bobl eraill, a ddymunai’r gwaethaf iddo, er enghraifft yr Arglwydd Beaverbrook a roddodd enw Robeson ar ‘restr wen’o bobl na ddylid cyfeirio atynt o gwbl yn yr Express. Ni lwyddodd ‘carchariad’ Robeson i ddiffodd fflam ei weithgarwch gwleidyddol. Yn 1951, fe arweiniodd ddirprwyaeth i’r Cenhedloedd Unedig i gyflwyno deiseb Hawliau Sifil i’r Gyngres.

Yn ‘We Charge Genocide’ nodwyd bod.

“15 miliwn o Americanwyr du yn profi amgylchiadau byw sy’n achosi marwolaeth cyn pryd, tlodi ac afiechyd.”

“Rwy’n gwrthod gadael i’m llwyddiant personol I gyfiawnhau’r anghyfiawnder y mae 14 miliwn oím pobl yn ei ddioddef.”

Paul Robeson, 1947