Cyfnewid Transatlantig
“Rydym yn falch ein bod wedi gallu trefnu i chi siarad â ni a chanu i ni heddiw. Byddem yn falchach o lawer pe baech gyda ni yn y cnawd.”
Will Paynter, Llywydd Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn Ardal De Cymru Degfed Eisteddfod Flynyddol y Glowyr
Sadwrn 5 Hydref 1957
Ar ddydd Sadwrn, y 5 o Hydref 1957, canodd Paul Robeson I Gymru am y tro cyntaf ers 1949. Er gwaetha epidemig o ffliw Asiaidd, gwthiodd 2000 o bobl i mewn i Bafiliwn Porthcawl I ddathlu i degawd Eisteddfod Flynyddol y Glowyr. Roedd y dechnoleg newydd wedi galluogi bod y ffôn yn cael ei defnyddio I ddileu gwaharddiad y pasport. Canodd Robeson i gynulleidfaoedd Cymru a chlywodd berfformwyr o Gymru yn canu iddo yntau. Cafwyd gan cyflwyniad croesawus gan Will Paynter, Llywydd Ardal De Cymru o Undeb Cenedlaethol y Glowyr:
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at y dydd pan fyddwn ni’n gallu siglo eich llaw a’ch clywed chi’n canu gyda ni yn y dyffrynnoedd hyn sy’n llawn o gerddoriaeth a chân”
Chwyddwyd llais soniarus Paul Robeson ar y llinell ffôn gan yr uwch seinyddion:
“Diolch i chi am eich geiriau caredig. Cyfarchion cynnes iawn i chi, Gymry hoff. A gaf fi ddweud ‘helo’ twymgalon wrth lowyr De Cymru yn eich gw ˆ yl fawr. Mae’n anrhydedd cael cymryd rhan mewn gw ˆyl hanesyddol fel hon. Pob dymuniad da i chi wrth i ni ymgeisio i gael byd lle y gallwn fyw bywydau llawn ac urddasol.”
Canodd Robeson ganeuon Negroaidd fel Didn’t My Lord Deliver Daniel a chaneuon megis Ar Hyd y Nos, This Little Light of Mine, All Men are Brothers o Symffoni Rhif Naw Beethoven Lullaby. Canodd Côr Treorci hwythau ganeuon cyffrous fel Y Delyn Aur ac, fel diweddglo i’w perfformiad, We’ll Keep a Welcome in the Hillside. Nododd Robeson fod y profiad “fel petawn i yna, gyda chi” Gorffennodd drwy ganu pennill o Hen Wlad Fy Nhadau yn y Saesneg. I’r rhai hynny a glywodd y darllediad yn yr Eisteddfod bu’n brofiad ysgytwol:
“Petaech chi wedi medru gweld yr holl bobl a oedd yn bresennol yn cydio ym mhob nodyn a gair o’ch eiddo fe fyddech chi’n sicr wedi deall beth yw’r ymdeimlad sydd yn perthyn yma yng Nghymru tuag atoch chi. Galwn arnoch I gael eich rhyddhau o’ch cadwynau.”
Will Paynter