Blynyddoedd Cynnar
Ganed Paul Leroy Robeson, yr ieuengaf o bump o blant, yn Princeton, New Jersey ar Ebrill 9, 1898. Ychydig o gyfleoedd a gâi pobl ifanc dduon yn Princeton yn nyddiau ieuenctid Robeson. Ond fe luniwyd ewyllys gref Robeson gan ei dad a oedd yn feistr llym ac a roddai bwyslais mawr ar addysg. Etifeddodd Robeson gariad ei dad at addysg, ei ymdrechion I gyrraedd perffeithrwydd a’i onestrwydd digyfaddawd.
Yn Ysgol Uwchradd Somerville, New Jersey, roedd Robeson yn ddisgybl eithriadol. Ond er bod ei ddoniau’n ennill parch a chymeradwyaeth iddo, fe ddysgodd yn fuan nad oeddent yn ddigon i wneud iddo gael ei dderbyn yn llawn. Roedd hwn yn fyd lle’r oedd terfynau pendant i lwyddiant pobl dduon. Yn ddiweddarach, dywedodd un o’i athrawon cynnar amdano:
“Ef yw’r bachgen mwyaf nodedig i mi ei ddysgu erioed, mae’n dywysog o fachgen. Ond, ni allaf anghofio mai Negro ydyw wedi’r cyfan.”
“Mae’n rhaid bod adegau pan deimlwn dristwch bywyd plentyn heb fam, ond yr hyn a gofiaf yn bennaf o’m dyddiau cynharaf oedd teimlad o gysur a sicrwydd.”
Paul Robeson
“Pan oeddwn i ar y cae pêl droed, neu mewn ystafell ddosbarth, doeddwn i ddim yno ar fy mhen fy hunan. Roeddwn i’n cynrychioli llawer o fechgyn Negroaidd a oedd eisiau chwarae pêl droed ac a oedd eisiau mynd i’r coleg ... Roedd yn rhaid I mi ddangos y gallwn gymryd beth bynnag a daflwyd ataf.”
Paul Robeson
Ag yntau’n fyfyriwr ac yn athletwr penigamp, enillodd Robeson ysgoloriaeth y wladwriaeth i Goleg Rutgers, New Jersey, ym 1915, er bod prifathro rhagfarnllyd yr ysgol uwchradd wedi ceisio ymyrryd â’r arholiad dderbyn. Yn nes ymlaen, dywedodd Robeson fod hwn yn drobwynt yn ei fywyd. Penderfynodd bryd hynny, hyd yn oed pe bai cydraddoldeb yn cael ei warafun iddo, na fyddai byth ynisraddol.
Coleg bychan, uchel ei barch, oedd Rutgers ac roedd yno lawer o fyfyrwyr o deuluoedd uchelwrol y De. Robeson oedd y trydydd Americanwr-Affricanaidd i’w dderbyn yno erioed. Gan na châi aros yn neuadd y coleg, bu’n byw gyda theulu yn rhan ddu tref New Brunswick.
“Nid arian na llwyddiant personol oedd ffyn mesur llwyddiant mewn bywyd. Yn hytrach, mae’n rhaid anelu at lawn ddatblygu’ch potensial.”
Paul Robeson
Yn 1920 fe aeth Paul Robeson i astudio’r Gyfraith yn Ysgol Columbia, Efrog Newydd. I gynnal ei hunan fe weithiai yn Swyddfa’r Post, yn canu, yn hyfforddi timau pêl fasged, yn chwarae pêl-droed proffesiynol ac yn actio. Tra’n astudio’r Gyfraith fe ymddangosodd ar y llwyfan gyntaf yn Simon the Cyrenian. Ymddangosodd hefyd yn Taboo yn Efrog Newydd a gwnaeth ei siwrnai gyntaf ar draws yr Iwerydd i fynd â’r ddrama ar daith i Loegr (fe’i hailenwyd yn Voodoo). Wrth chwarae rhan caethwas fe freuddwydiai Robeson am ei gyn fywyd yn yr Affrig.
“Wrth i mi ddechrau breuddwydio, roeddwn i fod i ganu ‘Go Down Moses’. Yn ystod y perfformiad fe’m synnwyd i glywed Mrs Pat [Patrick Campell, ei gyd-actores] yn sibrwd o’r tu cefn i’r llwyfan ond yn ddigon uchel i’r theatr gyfan ei chlywed,
‘Cân arall, cana gân arall!’ Felly fe ddeffrais yn sydyn a chanu cân Negroaidd arall. Yn y golygfeydd dramatig, dwys fe fyddai Mrs Pat yn fy mhrocio a dyna ni wedyn - bant â fi I ganu! ... roedd y gynulleidfa wrth eu bodd!”
Yn Llundain fe gyfarfu â Lawrence Brown a oedd ei hun yn gerddor dawnus. Dyma’r dyn a fyddai’n cyfeilio ac yn trefnu ei gerddoriaeth ar hyd ei yrfa gerddorol.
Yn Awst 1921, priododd Robeson â Eslanda Cardozo Goode.
Wedi iddi raddio mewn Cemeg o Brifysgol Columbia fe weithiodd Eslanda yn Ysbyty’r Presbyteriaid fel cemegydd dadansoddol ym maes patholeg. Hi oedd y person cyntaf o dras Affrican-Americanaidd i wneud hyn. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach fe ddaeth hi’n asiant ac yn rheolwr amser llawn
i’w gwr. Derbyniodd Robeson radd yn y Gyfraith yn 1923, ond byr fu ei yrfa gyfreithiol. Cafodd ei gyflogi gan gwmni cyfreithiol gwyn. Ei waith oedd paratoi achosion gogyfer â’r llys. Roedd hi’n amhosibl i berson du ei groen gynrychioli pobl yn y llys yr adeg honno. Un diwrnod fe wrthododd ysgrifenyddes gymryd nodiadau oddi wrtho oherwydd lliw ei groen. Cynddeiriogwyd Paul Robeson i’r fath raddau fel yr ymddiswyddodd a chefnodd ar fyd y gyfraith.
“Ym myd y gyfraith allwn i fyth fod wedi cyrraedd y brig. Allwn i byth bythoedd fod wedi dod yn Farnwr y Prif Lys. Ar y llwyfan, dim ond yr awyr oedd yn fy nghyfyngu.”