Gofalu Am Y Baneri

Mae baneri yn eu hanfod yn weithiau o gelfyddyd.  Serch hynny, gwnaed y baneri i'w defnyddio mewn gorymdeithiau a gwrthdystiadau lle bydden nhw'n  cael eu defnyddio yn y gwynt a'r glaw neu mewn heulwen lachar.  Mae'n bosibl iddyn nhw gael eu hongian am gyfnodau maith mewn ystafelloedd myglyd neu rai disglair, neu gael eu rhoi mewn cwpwrdd neu fag ar ôl digwyddiad a chael eu hanghofio nes bod eu hangen eto.  Yn anochel, trwy ddefnyddio'r baneri y tu allan mewn gorymdeithiau, efallai iddyn nhw fynd yn frwnt neu rwygo.

 

Mae baneri, fel pob ffabrig, yn dirywio'n gyflym os ydyn nhw'n cael gormod o olau neu os cân nhw eu gadael mewn awyrgylch sy'n rhy sych neu'n rhy laith. Os yw baneri wedi eu gadael mewn amgylchiadau llaith, gallan nhw fagu llwydni neu gall pryfetach ymosod arnyn nhw.  Maen nhw hefyd yn dirywio os cân nhw eu trafod yn ormodol.

Gall hi fod yn anodd gofalu am faneri am eu bod yn aml yn fawr iawn ac yn frau iawn.  Mae angen dau neu ragor o bobl i drafod baner fawr.