Chwifiwn Ein Baneri
Yn yr 1940au crewyd baneri Cyfrinfeydd y Wernos, Glyn Rhedynnog a Rhisga. Serch hynny, nid tan yr 1950au y sefydlwyd traddodiad o gludo baneri ymysg glowyr De Cymru am y tro cyntaf.
Gwnaed Baner Ardal NUM De Cymru yn 1955. Anogodd yr undeb gyfrinfeydd i brynu baneri tebyg, gan beri bod gan sawl cyfrinfa faneri unigol neu un ar y cyd i orymdeithio y tu ôl iddi mewn gŵyl flynyddol neu mewn gwrthdystiadau. Ythemâu sydd i'w gweld yn holl faneri'r glowyr yw'r ymdrech dros waith, sosialaeth, rhyngwladoliaeth a heddwch byd.
A'r hen Faner Ardal wedi ei threulio wrth gael ei defnyddio, cafwyd baner newydd yn 1975. Dyluniwyd y faner gan aelod o Gyfrinfa Dulais a Maerdy ac mae ganddi'r slogan, 'Etifeddwn y gorffennol, adeiladwn y dyfodol trwy sosialaeth'. Caiff y faner ei defnyddio'n gyson o hyd.
“Er gwaetha'r holl ddulliau modern o gyfathrebu electronig, does dim byd yn gallu cynhyrfu'r galon a chyffroi balchder fel gweld hwyl wedi ei pheintio'n crychu'n falch yn erbyn y gwynt, wedi ei chynnal gan ddwylo gweithwyr, yn gorymdeithio dros achos mawr a pharhaus llafur, 'gobaith y byd'.” John Gorman